Skip to main content

Pathway summary

Rheoli

Framework:
Rheoli
Lefel:
2/3/4/5

Fel Rheolwr byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol at gefnogi amcanion sefydliadol drwy ystod eang o swyddogaethau.

Bydd y tasgau y byddwch yn eu cyflawni yn amrywio gan ddibynnu ar y lefel a'r sector perthnasol. Gallent gynnwys cynllunio, dyrannu a monitro gwaith y tîm, darparu adborth, briffio timau, cefnogi aelodau'r tîm, rheoli gwrthdaro, datrys problemau, caffael cyflenwadau, rheoli prosiectau, cytuno ar gyllidebau a rheoli a gwella gwasanaeth cwsmeriaid.  

Byddai rheolwyr sy'n gweithio ar lefel 5 yn helpu i bennu a chefnogi amcanion sefydliadol drwy amrywiaeth eang o swyddogaethau, fel llywio penderfyniadau strategol, rheoli cyllidebau, cynllunio a chyflwyno newid, arwain timau a rheoli rhaglenni prosiect ategol.

Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid sydd â diddordeb cryf mewn gyrfa ym maes rheoli. Maent yn disgwyl i ymgeiswyr "allu gweithredu'n hyderus" a bod â sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol. 

Pathway options and levels

Arwain Tîm - Lefel 2

Addas ar gyfer swyddi Arweinydd Tîm, Rheolwr Llawr, Rheolwr Desg Gymorth, Goruchwylydd Dan Hyfforddiant a Chydlynydd Tîm. 

Rheoli - Lefel 3

Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Adran, Rheolwr Llinell Gyntaf, Rheolwr Cynorthwyol, Rheolwr Dan Hyfforddiant, Uwch Oruchwylydd a Swyddog Iau Nas comisiynwyd.

Rheoli - Lefel 4

Addas ar gyfer swyddi Rheolwr, Pennaeth Swyddogaeth a Rheolwr Ardal.

Rheoli ac Arweinyddiaeth - Lefel 5

Addas ar gyfer swyddi Rheolwr, Uwch Reolwr, Pennaeth Adran a Chyfarwyddwr.

Further information

Duration

Lefel 2: 15 mis

Lefel 3: 17 mis

Lefel 4: 18 mis

Lefel 5: 21 mis

Progression routes

Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Lefel 3/Addysg Bellach/Bagloriaeth Cymru
  • Camu ymlaen i swyddi rheoli.

Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Uwch
  • Addysg bellach neu addysg uwch/Graddau Sylfaen/rhaglenni israddedig
  • Cymwysterau rheoli a phroffesiynol Lefel 4 ac uwch
  • Camu ymlaen i swyddi rheoli uwch.

Lefel 4 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Uwch Lefel 5/ cymwysterau Lefel 6/Addysg uwch gan gynnwys Graddau neu Radd Meistr mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth, Busnes a Rheoli Busnes/cymwysterau arbenigol/ aelodaeth bosibl o gyrff proffesiynol.
  • Camu ymlaen i swyddi uwch reoli, cyfarwyddwr a phrif weithredwr.

Lefel 5 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

Cymwysterau Lefel 6/addysg uwch/Graddau neu Radd meistr mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth, Busnes a Rheoli Busnes/ cymwysterau arbenigol/ Aelodaeth o gyrff proffesiynol/camu ymlaen i swyddi uwch reoli, cyfarwyddwr a phrif weithredwr.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma mewn Arwain Tîm

Lefel 3: Diploma mewn Rheoli

Lefel 4: Diploma NVQ mewn Rheoli

Lefel 5: Diploma NVQ mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 2

Lefel 2: Dim gofynion mynediad penodol. 

Lefel 3

Lefel 3: Does dim unrhyw ofynion mynediad, ond mae'n debygol y bydd gan brentisiaid lefel 3 rywfaint o brofiad blaenorol mewn swydd reoli neu arwain tîm, er nad yw'n ofyniad ffurfiol.

Lefel 4

Lefel 4: Does dim unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gan brentisiaid rywfaint o brofiad blaenorol o waith gwasanaeth cwsmeriaid, er nad yw'n ofyniad ffurfiol.

Lefel 5

Lefel 5:  Does dim unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn. Fodd bynnag, disgwylir y bydd gan brentisiaid uwch brofiad sylweddol o weithio ar lefel rheolwr canol er mwyn sicrhau bod ganddynt y sylfeini addas i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau.

View full pathway

Document revisions

12 Tachwedd 2021