Skip to main content

Pathway

Rheoli

Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

58 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Arwain Tîm.

73 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rheoli.

108 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Rheoli.

108 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Rheoli.

Entry requirements

Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn.  Fodd bynnag,

mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid â ddiddordeb brwd mewn gyrfa Reoli. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol yn sail ar gyfer y Brentisiaeth.

Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran

profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol a allai gyfrif tuag at gyflawni rhaglen brentisiaeth. Ceir enghreifftiau ohonynt isod,

heb fod mewn unrhyw drefn arbennig:

  • wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg; NEU
  • wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith; NEU
  • wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; NEU
  • wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymhwyster Prif Ddysgu

Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu neu Letygarwch; NEU

  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch; NEU
  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio.

Mae prentisiaid sy'n dilyn Prentisiaeth Lefel 3 Rheoli yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl reoli neu arwain tîm, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.

Disgwylir i brentisiaid sy'n dilyn y Brentisiaeth Uwch Rheoli neu'r Brentisiaeth Uwch Rheoli ac Arwain feddu ar brofiad sylweddol o weithio ar lefel rheolaeth ganol er mwyn sicrhau bod ganddynt sylfaen addas ar gyfer meithrin gwybodaeth a sgiliau pellach.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Arwain Tîm

Lefel 2: Arwain Tîm Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 2 Diploma mewn Arwain Tîm
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Sefydliad Rheoli Siartredig C00/0647/3 601/3795/2 40 400 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Institute of Leadership & Management C00/0630/4 601/3216/4 40 400 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Pearson Education Ltd C00/0634/6 601/3430/6 40 400 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Arwain Tîm Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Arwain Tîm 300 189
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 2 Arwain Tîm 40 credyd/201 o oriau (isafswm) yn gysylltiedig ag elfen cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster cyfun.

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer llwybr hwn yw 489 o oriau.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Rheoli

Lefel 3: Rheoli Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 3 Diploma mewn Rheoli
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
BIIAB C00/0645/9 601/3744/7 55 550 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Chartered Management Institute C00/0646/7 601/3779/4 55 550 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Institute of Leadership & Management C00/0630/8 601/3240/1 55 550 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Pearson Education Ltd C00/0632/5 601/3396/X 55 550 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Rheoli Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Rheoli 358 214
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Lefel 3 Diploma Rheoli - 55 credyd/284 o oriau (isafswm) yn gysylltiedig ag elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster cyfun

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer llwybr hwn yw 572 o oriau. 

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Rheoli

Lefel 4: Rheoli Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 4 Diploma mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Institute of Leadership & Management C00/0657/4 601/4235/2 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 4 Diploma Rheoli ac Arwain
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson Education Ltd C00/0636/7 601/3500/1 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig
Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd n/a 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig
FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Prifysgol Abertawe n/a 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Rheoli Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Rheoli 394 186
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth - 90 credyd / 292 awr (isafswm) ar gyfer y cymhwyster seiliedig ar wybodaeth

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer llwybr hwn yw 580 o oriau.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 5: Rheoli ac Arwain

Lefel 5: Rheoli ac Arwain Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 5 Diploma NVQ Rheoli ac Arwain
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Chartered Management Institute C00/0646/8 601/3780/0 53 530 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Institute of Leadership & Management C00/0631/1 601/3254/1 53 530 Gwybodaeth Saesneg-Cymraeg
Lefel 5 Diploma Rheoli ac Arwain
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
BIIAB C00/0743/1 601/6773/7 39 390 Cyfun Saesneg yn Unig
Pearson Education Ltd C00/0640/0 601/3596/7 39 390 Cyfun Saesneg yn Unig
Chartered Management Institute C00/1242/6 603/2392/9 37 370 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 5 Diploma mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Institute of Leadership & Management C00/0495/9 600/5857/2 39 390 Cyfun Saesneg yn Unig
Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd n/a 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig
FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Prifysgol Abertawe n/a 240 2400 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 5: Rheoli ac Arwain Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 5: Rheoli ac Arwain 417 238
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth - 90 credyd / 315 awr (isafswm) ar gyfer y cymhwyster seiliedig ar wybodaeth

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Llwybr hwn yw 655 o oriau.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Amh

Progression

Lefel 2: Arwain Tîm

Dilyniant i Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Arwain Tîm:

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio, naill ai

mewn meysydd sy'n gysylltiedig â rheoli neu feysydd sector-benodol

  • wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw Gymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen a lefel uwch a chanddynt themâu rheoli ac arwain tanategol
  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
  • wedi cwblhau prentisiaeth sylfaen sector-benodol neu mewn maes cysylltiedig, fel y Brentisiaeth Sylfaen Busnes a Gweinyddu.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth sylfaen heb gymwysterau blaenorol. Dilyniant o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Arwain Tîm:

Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid sylfaen symud ymlaen i'r canlynol:

  • Prentisiaeth Lefel 3 Rheoli
  • Prentisiaethau lefel 3 eraill, fel busnes a gweinyddu
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn ystod o sectorau cysylltiedig, fel busnes, gweinyddu a chyllid, technoleg gwybodaeth, gwasanaethau cyhoeddus a busnes manwerthu
  • Addysg bellach i ddilyn cymwysterau rheoli, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill.

Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau fel rheolwyr llinell gyntaf, rheolwyr adran, rheolwyr cynorthwyol, rheolwyr dan hyfforddiant, uwch oruchwylwyr ac is-swyddogion heb gomisiwn (y lluoedd arfog).

Lefel 3: Rheoli

Dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 3 Rheoli:

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Arwain Tîm
  • Prentisiaethau sylfaen mewn meysydd sector-benodol fel manwerthu neu ofal iechyd
  • Wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio ym maes Rheoli, neu mewn meysydd sector-benodol eraill
  • Wedi ennill Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen neu Uwch  â themâu rheoli ac arwain tanategol
  • Wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth heb gymwysterau blaenorol.

Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 Rheoli rywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl swydd arwain tîm neu reoli, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol. Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Arwain Tîm yn gweddu'n well i ddysgwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl swydd arwain tîm neu reoli, er y dylid barnu ynghylch pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 Rheoli

Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid symud ymlaen i:

  • Brentisiaeth Uwch Rheoli
  • Prentisiaeth Uwch Rheoli ac Arwain
  • Addysg bellach neu uwch i ddilyn cymwysterau rheoli, busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau Sylfaen Rheoli ac Arwain, Busnes a Rheoli Busnes
  • Ystod o raglenni israddedig ym maes rheoli a busnes ac mewn meysydd eraill
  • Ystod o gymwysterau rheoli a chymwysterau proffesiynol eraill ar lefel 4 ac uwch.

Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau sy'n cynnwys rheolwr canol a rheolwr uwch, rheolwr adran, pennaeth adran neu amrywiaeth eang o rolau rheoli ym myd busnes

Lefel 4: Rheoli

Dilyniant i'r Brentisiaeth Uwch Rheoli

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch hon. Mae'r brentisiaeth uwch wedi'i dylunio i fod yn addas i ymgeiswyr o unrhyw sector neu ddiwydiant, ac felly'n llwybr dilyniant addas o bron bob prentisiaeth arall.

Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • bod wedi cwblhau prentisiaeth neu brentisiaeth uwch mewn ystod eang o feysydd sector-benodol, fel manwerthu, busnes a gweinyddiaeth broffesiynol neu ofal iechyd
  • bod wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 Rheoli
  • bod wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio ym maes Rheoli, neu mewn meysydd sector-benodol eraill
  • bod wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Disgwylir i brentisiaid uwch lefel 4 fod â phrofiad sylweddol o weithio mewn rôl is-reoli neu reolaeth ganol, er mwyn sicrhau bod ganddynt sylfaen addas i feithrin gwybodaeth a sgiliau pellach. Disgwylir i ddysgwyr hefyd feddu ar rywfaint o brofiad rheoli llinell. Dylid barnu pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gofrestru ar y Llwybr Prentisiaeth mwyaf priodol.

  • Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Arwain Tîm yn gweddu'n well i ddysgwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad rheoli.
  • Efallai y bydd y Brentisiaeth Lefel 3 Rheoli yn gweddu'n well i rai nad ydynt wedi cael rhyw  lawer o brofiad mewn rôl reoli.
  • Efallai y bydd y Brentisiaeth Uwch Lefel 5 Rheoli ac Arwain yn gweddu'n well i rai â phrofiad sylweddol o weithio ar lefel rheolaeth ganol.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Rheoli

Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid uwch symud ymlaen i:

  • Brentisiaeth Uwch Lefel 5 Arwain a Rheoli
  • Ystod o gymwysterau rheoli a chymwysterau proffesiynol eraill ar lefel 6 ac uwch
  • Addysg bellach i ddilyn cymwysterau rheoli, busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr Rheoli ac Arwain, Busnes a Rheoli Busnes
  • Cyfleoedd am gyflogaeth bellach o fewn eu rôl swydd gyfredol/rolau swydd eraill
  • Cymwysterau arbenigol sy'n cynnig gwybodaeth dechnegol ychwanegol
  • Aelodaeth bosibl o gyrff proffesiynol, gan gynnwys y Sefydliad Rheoli Siartredig a'r Sefydliad Arwain a Rheoli.

Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid uwch yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau ar lefel uwch reoli neu gyfarwyddwr ac, ymhen amser, i swyddi prif weithredwr.

Lefel 5: Rheoli ac Arwain

Dilyniant i'r Brentisiaeth Uwch Rheoli ac Arwain:

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch hon. Mae'r brentisiaeth uwch wedi'i dylunio i fod yn addas i ymgeiswyr o unrhyw sector neu ddiwydiant, ac felly'n llwybr dilyniant addas o bron bob prentisiaeth arall. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • bod wedi cwblhau prentisiaeth neu brentisiaethau uwch mewn ystod eang o feysydd sector-benodol, fel manwerthu, busnes a gweinyddiaeth broffesiynol neu ofal iechyd
  • bod wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 Rheoli
  • bod wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Rheoli
  • bod wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio ym maes Rheoli, neu mewn meysydd sector-benodol eraill
  • bod wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Disgwylir i brentisiaid uwch fod â phrofiad sylweddol o weithio ar lefel rheolaeth ganol, er mwyn sicrhau bod ganddynt sylfaen addas i feithrin gwybodaeth a sgiliau pellach. Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Arwain Tîm yn gweddu'n well i ddysgwyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad rheoli. Efallai y bydd y Brentisiaeth Lefel 3 Rheoli yn gweddu'n well i rai nad ydynt wedi cael rhyw lawer o brofiad mewn rôl reoli. Dylid barnu pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gofrestru ar y Llwybr Prentisiaeth mwyaf priodol.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Rheoli ac Arwain Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid uwch symud ymlaen i:

  • ystod o gymwysterau rheoli a chymwysterau proffesiynol eraill ar lefel 6 ac uwch
  • addysg bellach i ddilyn cymwysterau rheoli, busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys

Graddau neu Raddau Meistr Rheoli ac Arwain, Busnes a Rheoli Busnes

  • cyfleoedd am gyflogaeth bellach o fewn eu rôl swydd gyfredol/rolau swydd eraill
  • cymwysterau arbenigol sy'n cynnig gwybodaeth dechnegol ychwanegol
  • aelodaeth bosibl o gyrff proffesiynol, gan gynnwys y Sefydliad Rheoli Siartredig a'r Sefydliad Arwain a Rheoli.

Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid uwch yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau ar lefel uwch reoli neu gyfarwyddwr ac, ymhen amser, i swyddi prif weithredwr.

Bydd prentisiaid sylfaen yn gweithio mewn rolau swydd fel arweinydd tîm/adran, rheolwr llawr, rheolwr desg gymorth a goruchwylydd dan hyfforddiant. Bydd prentisiaid yn gweithio mewn rolau swydd fel rheolwr llinell gyntaf, adran, cynorthwyol neu dan hyfforddiant, uwch oruchwylydd ac is-swyddog heb gomisiwn (y lluoedd arfog). Bydd y rhai sy'n dilyn prentisiaeth uwch yn gweithio mewn rolau swydd fel rheolwr, uwch reolwr, cyfarwyddwr a phennaeth adran.

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Yn ôl data o ystadegau gwladol, dynion yw tua deuparth o'r 4.5m o reolwyr ac uwch swyddogion yn y DU, a merched yw traean ohonynt. Yn groes i'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn gysylltiedig â rheoli, mae'r swydd yn cynrychioli'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd yn nhermau nifer y rheolwyr o gefndiroedd lleiafrifol a rhai ag anableddau, er e bod hi'n bosibl nad yw hyn yn wir ar bob lefel ym maes rheoli, yn enwedig ymhlith swyddi rheoli lefel uwch.

Wrth i weithlu'r DU a'r sylfaen o gwsmeriaid droi'n fwy amrywiol, mae angen i'r gweithlu Rheoli adlewyrchu'r amrywiaeth honno, a'i rheoli'n effeithiol. Ar gyfer hyn, mae angen nid yn unig agwedd sensitif tuag at faterion fel ethnigrwydd, diwylliant, rhywedd ac anabledd, ond hefyd ymwybyddiaeth o'r potensial am ymagweddau gwahanol a mwy creadigol a ddaw yn sgil amrywiaeth yn gyffredinol.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog carfan amrywiol o unigolion i ymuno â'r diwydiant Rheoli. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.

Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y Brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.

Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, mae gwaith ar droed i godi ymwybyddiaeth ynghylch rheoli fel proffesiwn drwy:

  • Gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid
  • Adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion
  • Mentrau Merched yn y Gwaith amrywiol
  • Rhwydweithiau proffesiynol fel y Rhwydwaith Gweithwyr Du Proffesiynol a Merched mewn Rheolaeth
  • Gwefannau gyrfa amrywiol ar gyfer y diwydiant rheoli, gan gynnwys lluniau sy'n chwalu stereoteipiau

Drwy ei Grwpiau Cynghori, mae Instructus Skills yn parhau i fonitro'r nifer sy'n manteisio ar Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn parhau i gymryd camau i ymdrin ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad yn rhan o'i Strategaeth Cymwysterau.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1 Lefel 2: Arwain Tîm

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 2 Arwain Tîm yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd.

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau isafswm o 40 credyd. 22 credyd o unedau gorfodol, isafswm o 12 credyd o unedau dewisol Grŵp B ac uchafswm o 6 chredyd o unedau dewisol Grŵp C.

Bydd y gofyniad am o leiaf 10 credyd yn y Cymhwyster Rheoleiddio ar gyfer yr elfen wybodaeth a 10 credyd ar gyfer yr elfen gymhwysedd yn cael ei fodloni drwy gwblhau'r unedau gorfodol.

Drwy gwblhau'r unedau gorfodol canlynol, bydd y prentis yn ennill 11 credyd am gymhwysedd ac 11 credyd am wybodaeth:

Grŵp Gorfodol

Cymhwysedd

  • L/506/1788 - Rheoli perfformiad a datblygiad personol (4 credyd cymhwysedd)
  • T/506/1788 - Cyfleu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith (2 gredyd cymhwysedd)
  • H/506/1800 - Arwain a rheoli tîm (5 credyd cymhwysedd)

Gwybodaeth

  • R/506/2294 - Egwyddorion arwain tîm (5 credyd gwybodaeth)
  • R/506/2957 - Deall busnes (4 credyd gwybodaeth)
  • T/506/1788 - Cyfleu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith (2 gredyd gwybodaeth)

Yn rhan o'r gofynion tystiolaeth ar gyfer ardystio Cwblhau Prentisiaeth, rhaid uwchlwytho copi o ffurflen Hawlio Tystysgrif Prentis gyfredol wedi'i llenwi i ACW.

(http://acwcerts.co.uk).

Sylwer: bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.

Atodiad 2 Lefel 3: Rheoli

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 3 Rheoli yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd. Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau isafswm o 55 credyd - 31 credyd o unedau gorfodol, isafswm o 17 credyd o unedau dewisol Grŵp B ac uchafswm o 7 credyd o unedau dewisol Grŵp C.

Bydd y gofyniad am o leiaf 10 credyd yn y Cymhwyster Rheoleiddio ar gyfer yr elfen wybodaeth

a 10 credyd ar gyfer yr elfen gymhwysedd yn cael ei fodloni drwy gwblhau'r unedau gorfodol. Drwy gwblhau'r unedau gorfodol bydd y prentis yn cyflawni 7 credyd ar gyfer cymhwysedd a 24 credyd ar gyfer gwybodaeth. Cyflawnir 3 chredyd arall ar gyfer cymhwysedd drwy gwblhau nifer yr unedau gofynnol o Grŵp B.

Grŵp Gorfodol

Unedau cymhwysedd

T/506/2952 - Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol (3 chredyd)

A/506/1821 - Rheoli perfformiad tîm (4 credyd)

Unedau gwybodaeth

F/506/2596 Egwyddorion arwain a rheoli (8 credyd)

R/506/1937 Egwyddorion rheoli pobl (6 chredyd)

D/506/1942 Egwyddorion Busnes (10 credyd)

Grŵp B - grŵp cymhwysedd dewisol

T/506/1820 Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle (3 chredyd)

J/506/1931 Rheoli perfformiad unigolion (4 credyd)

L/506/1932 Rheoli datblygiad unigolion yn y gweithle (3 chredyd)

Y/506/1964 Cadeirio ac arwain cyfarfodydd (3 chredyd)

J/506/2292 Annog arloesedd (4 credyd)

K/506/19997 Rheoli gwrthdaro o fewn tîm (5 credyd)

M/506/1948 Caffael cynnyrch ac/neu wasanaeth (5 credyd)

T/506/1999 Gweithredu newid (5 credyd)

K/506/190 Gweithredu a chynnal cynlluniau a phrosesau parhad busnes (4 credyd)

M/506/1931 Cydweithio ag adrannau eraill (3 chredyd)

A/506/1943 Cefnogi timau rhithiol, neu dimau o bell (4 credyd)

F/506/1942 Cymryd rhan mewn prosiect (3 chredyd)

J/506/1989 Datblygu a chynnal rhwydweithiau proffesiynol (3 chredyd)

Y/506/1955 Datblygu a gweithredu cynllun gweithredol (5 credyd)

M/506/1999 Annog dysgu a datblygu (3 chredyd)

A/506/198 Rheoli a rheoli anghydfod (3 chredyd)

F/506/1982 Meithrin perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid (4 credyd)

K/506/1953 Rheoli adnoddau corfforol (4 credyd)

J/506/2907 Rheoli effaith gweithgareddau gwaith ar yr amgylchedd (4 credyd)

K/506/1962 Paratoi am archwiliadau ansawdd a'u cefnogi (3 chredyd)

T/506/1994 Cynnal archwiliadau ansawdd (3 chredyd)

A/506/1999 Rheoli cyllideb (4 credyd)

R/506/1999 Rheoli prosiect (7 credyd)

L/506/2004 Rheoli risg busnes (6 chredyd)

A/506/2032 Rheoli gwybodaeth mewn sefydliad (5 credyd)

A/506/2032 Rheoli gwybodaeth mewn sefydliad (5 credyd)

R/506/2909 Ymarfer recriwtio, dewis a sefydlu (6 chredyd)

M/506/2044 Rheoli proses ddiswyddo ac adleoli (6 chredyd)

Mae Grŵp C yn cynnwys 50 credyd o unedau cymhwysedd a 2 gredyd o uned wybodaeth.

Yn rhan o'r gofynion tystiolaeth ar gyfer ardystio Cwblhau Prentisiaeth, rhaid uwchlwytho copi o ffurflen Hawlio Tystysgrif Prentis gyfredol wedi'i llenwi i ACW.

( http://acwcerts.co.uk).

Sylwer: bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.


Document revisions

12 Tachwedd 2021