- Framework:
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Lefel:
- 2/3
Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid yn helpu cwsmeriaid gyda chwynion a chwestiynau ac yn darparu gwybodaeth i gwsmeriaid am gynhyrchion a gwasanaethau. Hefyd, mae'r rôl yn gallu cynnwys elfen gwerthu cynhyrchion, derbyn archebion a phrosesu ffurflenni.
Gall eich rôl gynnwys cyfathrebu â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig, neu dros y ffôn, datrys problemau a gwella cysylltiadau cwsmeriaid, hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau. Efallai y bydd angen i chi gadw cofnodion o ohebiaeth a sgyrsiau llafar. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol gan y bydd angen i chi gasglu gwybodaeth er mwyn datrys ymholiad neu gŵyn. Mae'n bosibl y byddwch yn gweithio fel aelod o dîm neu y bydd angen i chi ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid i ategu rôl sy'n bodoli eisoes.
Wrth i'ch rôl ddatblygu, gallech fod yn gyfrifol am arwain eich Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid eich hun. I gyflawni'r rôl hon, bydd angen ysbrydoli'r tîm a chasglu a dadansoddi adborth cwsmeriaid i nodi gwelliannau i lefelau gwasanaeth.
Gellir trosglwyddo sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid i sectorau eraill a'u cymhwyso i lawer o swyddi. Mae Prentisiaethau Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer unigolion y mae eu swyddi wedi'u neilltuo ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid fel galwedigaeth.
Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a gweithio fel rhan o dîm. Maen nhw’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos "gallu i weithredu'n hyderus" a bod â sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol fel sail i ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid.
Pathway options and levels
Gwasanaeth Cwsmeriaid - Lefel 2
Addas ar gyfer swyddi Hyfforddai, Cynorthwyydd, Cynrychiolydd neu Asiant Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Gwasanaeth Cwsmeriaid - Lefel 3
Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, Cydlynydd, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Further information
Duration
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 12 mis
Progression routes
Lefel 2:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid; neu
- Prentisiaethau Lefel 3 eraill – yn enwedig os yw gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan bwysig o'r swydd.
Lefel 3:
- Cyflogaeth
- Rhaglen Prentisiaeth Lefel Uwch
- Addysg Bellach neu Addysg Uwch i ymgymryd â chymwysterau gwasanaeth cwsmeriaid, busnes neu Gymwysterau Proffesiynol eraill, gan gynnwys Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Gwasanaeth Cwsmeriaid, Diploma Lefel 4 mewn Canolfannau Cyswllt, Gradd Sylfaen mewn Rheoli Canolfannau Cyswllt.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
Lefel 3: Diploma mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 2
Lefel 2: Dim gofynion mynediad penodol. Bydd rhai cymwysterau a phrofiadau yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau:
- wedi cyflawni swydd gyfrifol yn yr ysgol neu'r coleg; neu wedi ymgymryd â phrofiad gwaith neu brofiad lleoliad gwaith; neu wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; neu
- wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Prif Gymwysterau Dysgu Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid, Busnes Manwerthu neu Letygarwch; neu
- gymwysterau TGAU neu Safon Uwch; neu
- Ddyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiploma FfCCh/RQF.
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad penodol. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gan brentisiaid rywfaint o brofiad blaenorol o waith gwasanaeth cwsmeriaid i'w galluogi i gwblhau'r Brentisiaeth, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.
View full pathway