Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheolaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
57 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gwasanaethau Cwsmeriaid.
67 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Entry requirements
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn. Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gweithio fel aelod o dîm. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol yn sail ar gyfer meithrin eu sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid.
Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol
a allai gyfrif tuag at gyflawni rhaglen Brentisiaeth. Ceir enghreifftiau ohonynt isod, heb fod mewn unrhyw drefn arbennig:
- wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg; neu
- wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith; neu
- wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; neu
- wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymhwyster Prif Ddysgu Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu neu Letygarwch; neu
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch; neu
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh/RQF
Mae prentisiaid sy'n dilyn Prentisiaeth Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl gwasanaethau cwsmeriaid, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 2 Diploma Gwasanaethau Cwsmeriaid | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City and Guilds | C00/0639/8 601/3562/1 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Pearson | C00/0634/8 601/3424/0 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Agored Cymru | C00/1231/8 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid | 283 | 130 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Diploma Lefel 2 Gwasanaethau Cwsmeriaid - 45 credyd/130 o oriau
Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 413 o oriau. Rhagwelir y bydd hi'n cymryd 12 mis i'r dysgwr cyffredin gwblhau'r llwybr hwn.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Diploma mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City and Guilds | C00/0639/9 601/3564/5 | 55 | 550 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Pearson | C00/0636/3 601/3478/1 | 55 | 550 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Agored Cymru | C00/1231/9 | 55 | 550 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid | 296 | 185 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Diploma Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid - 55 credyd/185 o oriau
Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 481 o oriau. Rhagwelir y bydd hi'n cymryd 12 mis i'r dysgwr cyffredin gwblhau'r llwybr hwn.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Progression
Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Dilyniant i'r Brentisiaeth Sefydliad Gwasanaeth Cwsmeriaid (Lefel 2)
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio nifer fawr o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2
hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh/RQF
- cwblhau Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymwysterau Prif Ddysgu mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu neu Letygarwch
- ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth sylfaen heb gymwysterau blaenorol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen Gwasanaethau Cwsmeriaid (Lefel 2).
Ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, gall prentisiaid, gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, symud ymlaen i:
- Brentisiaeth Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Prentisiaethau Lefel 3 eraill - yn enwedig lle bo gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan bwysig o'r swydd fel Busnes a Gweinyddu, Manwerthu, Lletygarwch a Theithio a Thwristiaeth.
- Bagloriaeth Cymru
- Addysg bellach i ddilyn cymwysterau gwasanaethau cwsmeriaid, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd Prentisiaid Sylfaen Lefel 2 wedi gallu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd i rolau sy'n cynnwys rheolwr perthynas â chwsmeriaid, swyddog gweithredol gwasanaethau cwsmeriaid, cydgysylltydd darparu gwasanaethau cwsmeriaid, arweinydd tîm gwasanaethau cwsmeriaid, goruchwylydd a rheolwr gwasanaethau cwsmeriaid, uwch gynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid neu ystod eang o rolau eraill yn gysylltiedig â Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Dilyniant i'r Brentisiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid (Lefel 3)
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:
- cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Gwasanaethau Cwsmeriaid
- cwblhau Prentisiaethau Sylfaen eraill fel Busnes a Gweinyddu, Manwerthu,
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth
- ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh/RQF
- cwblhau Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymwysterau Prif Ddysgu Busnes
Gweinyddu a Chyllid, Lletygarwch neu Fusnes Manwerthu
- ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth heb gymwysterau blaenorol.
Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid rywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl swydd gwasanaethau cwsmeriaid, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol. Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Gwasanaethau Cwsmeriaid ar Lefel 2 yn gweddu'n well i ddysgwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl swydd gwasanaethau cwsmeriaid, er y dylid barnu ynghylch pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu ei hun.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid (Lefel 3)
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid symud ymlaen i:
- Raglen Brentisiaeth Lefel Uwch fel Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
neu Arwain a Rheoli
- Addysg bellach neu uwch i ddilyn cymwysterau gwasanaethau cwsmeriaid, cymwysterau'n gysylltiedig â busnes neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau Sylfaen mewn, er enghraifft, Canolfannau Cyswllt neu Reoli Manwerthu, Rheoli Busnes neu Letygarwch
- Ystod o raglenni israddedig ym maes Gwasanaethau Cwsmeriaid, Canolfannau Cyswllt, Gwerthu ymhlith eraill
- Ystod o Gymwysterau Gwasanaethau Cwsmeriaid a chymwysterau proffesiynol eraill, gan gynnwys Diploma Lefel 4 Rheoli Gwasanaethau Cwsmeriaid, Diploma Lefel 4 Canolfannau Cyswllt, Gradd Sylfaen mewn Rheoli Canolfannau Cyswllt.
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid Lefel 3 yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau fel uwch oruchwylydd gwasanaethau cwsmeriaid, rheolwr gwasanaethau cwsmeriaid, ac ystod o rolau eraill uwch sy'n gysylltiedig â gwasanaethau cwsmeriaid.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn ôl ystadegau gwladol (data Awst 2016), dynion yw ychydig dros draean (38%) o gyflogeion sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cwsmeriaid yn y DU. Merched yn bennaf sy'n gweithio mewn swyddi gwasanaethau cwsmeriaid (62%). Dim ond 34 y cant o ddynion sydd mewn swyddi rhan-amser ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, tra bo 60 y cant o ferched sy'n gweithio yn y DU mewn swyddi rhan-amser.
Er bod dynion wedi'u tangynrychioli mewn swyddi gwasanaethau cwsmeriaid, maen nhw'n llawer mwy tebygol o fod mewn swyddi amser llawn.
Dyma rai rhesymau posibl am y diffyg cydbwysedd rhwng dynion a merched yn y sector:
- Y canfyddiad mai sector/rôl swydd wedi'i gyfeirio/chyfeirio at ferched yw gwasanaethau cwsmeriaid
- Rôl staff rhan-amser yn y sector a'r gyfran gymharol uchel o swyddi rhan-amser a
ddelir gan ferched o fewn y sector
- Y canfyddiadau nad yw gwasanaethau cwsmeriaid yn cynnig sgiliau lefel uchel nac yn arwain at statws proffesiynol
- Canfyddiad na cheir llwybr sgiliau clir a chynyddol
- Diffyg dealltwriaeth o'r ffaith bod natur gyffredinol sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid yn gallu cynnig llwybrau gyrfa i ystod eang o sectorau.
Wrth i'r gweithlu a'r sylfaen o gwsmeriaid droi'n fwy amrywiol, mae angen i wasanaethau cwsmeriaid adlewyrchu'r amrywiaeth honno, a'i rheoli'n effeithiol. Ar gyfer hyn, mae angen nid yn unig agwedd sensitif tuag at faterion fel ethnigrwydd, diwylliant, rhywedd ac anabledd, ond ymwybyddiaeth hefyd o'r potensial am ymagweddau gwahanol a mwy creadigol a ddaw i'r busnes yn sgil amrywiaeth yn gyffredinol.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog carfan amrywiol o unigolion i ymuno â'r diwydiant gwasanaeth cwsmeriaid. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.
Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y Brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros. Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant, a dyrchafiad o fewn y diwydiant, ar sail y nodweddion gwarchodedig.
Er mwyn ymdrin â rhai o'r materion hyn, mae gwaith ar droed i godi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau cwsmeriaid fel proffesiwn drwy:
- Fagloriaeth Cymru a Chymwysterau Prif Ddysgu mewn Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu a Lletygarwch, gan fod gwasanaethau cwsmeriaid a themâu cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd yr holl gymwysterau hyn.
- Adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion
- Cyfleoedd i ymgysylltu â grwpiau ethnig a gwella
- Gwefannau gyrfaoedd amrywiol ar gyfer y diwydiant gwasanaethau cwsmeriaid, sy'n cynnwys delweddau sy'n chwalu stereoteipiau
Bydd Instructus Skills yn monitro cyflawniad a'r defnydd o'r holl brentisiaethau, a bydd yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
Atodiad 1 Lefel 2: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Diploma Lefel 2 Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd. Mae'n rhaid cyflawni isafswm o 45 credyd i ennill y cymhwyster, fel a ganlyn:
Rhaid cyflawni pob un o'r 19 o gredydau o Grŵp Gorfodol M. Rhaid cyflawni isafswm o 3 chredyd o Grŵp Dewisol A. Rhaid cyflawni isafswm o 16 credyd o Grŵp Dewisol B. Ni cheir cyflawni mwy na 7 credyd o Grŵp Dewisol C.
Grŵp Gorfodol M
Unedau Cymhwysedd
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid A/506/2130 Gwerth credyd yr uned: 5
- Rheoli perfformiad a datblygiad personol L/506/1788 Gwerth credyd yr uned: 4
Unedau Gwybodaeth
- Egwyddorion gwasanaethau cwsmeriaid J/506/2132 Gwerth credyd yr uned: 4
- Deall cwsmeriaid F/506/2131 Gwerth credyd yr uned: 2
- Deall sefydliadau cyflogwyr A/506/1964 Gwerth credyd yr uned: 4
Grŵp Dewisol A
Unedau Cymhwysedd
- Cyfathrebu ar lafar â chwsmeriaid T/506/2119 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfathrebu â chwsmeriaid mewn ysgrifen T/506/2126 Gwerth credyd yr uned 3
Grŵp Dewisol B.
Unedau Cymhwysedd
Ateb galwadau ffôn gan gwsmeriaid H/506/2154 Gwerth credyd yr uned: 3
- Ffonio cwsmeriaid K/506/2155 Gwerth credyd yr uned: 3
- Hyrwyddo cynnyrch ac/neu wasanaethau ychwanegol i gwsmeriaid L/506/2133 Gwerth credyd yr uned: 2
- Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid R/506/2134 Gwerth credyd yr uned: 3
- Rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid Y/506/2135 Gwerth credyd yr uned: 3
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid wrth weithio ar eiddo'r cwsmer T/506/2143 Gwerth credyd yr uned: 4
- Trosglwyddo gwasanaethau cwsmeriaid T/506/2157 Gwerth credyd yr uned: 3
- Datrys problemau gwasanaethau cwsmeriaid A/506/2158 Gwerth credyd yr uned: 5
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid i gwsmeriaid heriol F/506/2159 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid Y/506/2149 Gwerth credyd yr uned: 3
- Helpu i wella gwasanaethau cwsmeriaid T/506/2160 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cefnogi cwsmeriaid drwy wasanaeth cwsmeriaid ar-lein mewn amser real A/506/2161 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio cyfarpar hunanwasanaeth H/506/2977 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid J/506/2163 Gwerth credyd yr uned: 3
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid ar ôl trafodyn K/506/2978 Gwerth credyd yr uned: 5
- Datrys cwynion cwsmeriaid R/506/2151 Gwerth credyd yr uned: 4
- Casglu, dadansoddi a dehongli adborth cwsmeriaid D / 506/2170 Gwerth credyd yr uned 5
Grŵp Dewisol C
Unedau Cymhwysedd
- Rheoli systemau dyddiadur L/506/1807 Gwerth credyd yr uned: 2
- Darparu gwasanaethau derbynfa H/506/1814 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfrannu at drefnu digwyddiad L/506/1869 Gwerth Credyd yr uned: 3
- Cyfeillio â chydweithiwr i ddatblygu eu sgiliau M/506/1895 Gwerth credyd yr uned: 3
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion L/506/1905 Gwerth credyd yr uned: 2
- Cynnal gweithgareddau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt L/503/0394 Gwerth credyd yr uned: 5
- Ymdrin â digwyddiadau drwy ganolfan gyswllt K/503/0421 Gwerth credyd yr uned: 7
- Gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle T/505/4673 Gwerth credyd yr uned: 2
- Meddalwedd bwrpasol F/502/4396 Gwerth credyd yr uned: 3
- Datblygu cydberthnasoedd gwaith â chydweithwyr R/506/1789 Gwerth credyd yr uned: 3
- Egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle J/506/1806 Gwerth credyd yr uned: 2
- Prosesu archebion gwerthu M/502/8587 Gwerth credyd yr uned: 2
- Bodloni anghenion cwsmeriaid ar ôl gwerthu R/502/8601 Gwerth credyd yr uned: 3
- Ymdrin â gwrthwynebiadau a chau gwerthiannau M/502/8606 Gwerth credyd yr uned: 3
Unedau Gwybodaeth
- Negodi mewn amgylchedd busnes H/506/1912 Gwerth credyd yr uned: 4
Efallai y bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth ofynnol ar gyfer tystysgrif Cwblhau Prentisiaeth os yw TPC yn gofyn am hynny.
Sylwer: bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.
Atodiad 2 Lefel 3: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Diploma Lefel 3 Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd,
Mae'n rhaid cyflawni isafswm o 55 credyd i ennill y cymhwyster, fel a ganlyn:
Rhaid cyflawni pob un o'r 31 o gredydau o Grŵp Gorfodol M. Rhaid cyflawni isafswm o
15 chredyd o Grŵp Dewisol A. Mae'n rhaid cyflawni isafswm o 9 credyd o
Grŵp Dewisol B.
Grŵp Gorfodol M
Unedau cymhwysedd
- Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol T/506/2952 Gwerth credyd yr uned: 3
- Trefnu a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid L/506/2150 Gwerth credyd yr uned: 5
- Datrys problemau cwsmeriaid R/506/2169 Gwerth credyd yr uned: 4
- Unedau gwybodaeth
- Egwyddorion busnes D/506/1942 Gwerth credyd yr uned: 10
- Deall cwsmeriaid a chadw cwsmeriaid J/506/2910 Gwerth credyd yr uned: 4
- Deall yr amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid Y/506/2152 Gwerth credyd yr uned: 5
Grŵp Dewisol A
- Cyfathrebu ar lafar â chwsmeriaid T/506/2119 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfathrebu mewn ysgrifen â chwsmeriaid T/506/2126 Gwerth credyd yr uned: 3
- Hyrwyddo cynnyrch ac/neu wasanaethau ychwanegol i gwsmeriaid L/506/2133 Gwerth credyd yr uned: 2
- Rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid Y/506/2135 Gwerth credyd yr uned: 3
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid wrth weithio ar eiddo'r cwsmer T/506/2143 Gwerth credyd yr
- uned: 4
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid i gwsmeriaid heriol F/506/2159 Gwerth credyd yr uned: 3
- Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid Y/506/2149 Gwerth credyd yr uned: 3
- Helpu i wella gwasanaethau cwsmeriaid T/506/2160 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cefnogi cwsmeriaid drwy wasanaeth cwsmeriaid ar-lein mewn amser real A/506/2161 Gwerth credyd
- yr uned: 3
- Cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio cyfarpar hunanwasanaeth H/506/2977 Gwerth credyd yr uned: 3
- Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid J/506/2163 Gwerth credyd yr uned: 3
- Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid ar ôl trafodyn K/506/2978 Gwerth credyd yr uned: 5
- Datblygu adnoddau i gefnogi cysondeb darpariaeth gwasanaethau cwsmeriaid Y/506/2166 Gwerth
- credyd yr uned: 5
- Defnyddio partneriaethau gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid D/506/2167 Gwerth credyd yr uned: 3
- Datrys cwynion cwsmeriaid R/506/2151 Gwerth credyd yr uned: 4
- Casglu, dadansoddi a dehongli adborth cwsmeriaid D / 506/2170 Gwerth credyd yr uned 5
- Monitro ansawdd rhyngweithiadau gwasanaethau cwsmeriaid K/506/2172 Gwerth credyd yr uned: 5
- Hyrwyddo gwasanaethau cwsmeriaid D/506/2153 Gwerth credyd yr uned: 4
- Meithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid R/506/2179 Gwerth credyd yr uned: 6
- Rheoli rhaglenni gwobrwyo gwasanaethau cwsmeriaid L/506/2181 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli'r defnydd o dechnoleg i wella gwasanaethau cwsmeriaid Y/506/2183 Gwerth credyd yr uned: 4
- Datblygu strategaeth y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid D/506/2962 Gwerth credyd yr uned: 5
Grŵp Dewisol B.
- Rheoli systemau dyddiadur L/506/1807 Gwerth credyd yr uned: 2
- Darparu gwasanaethau derbynfa H/506/1814 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfrannu at drefnu digwyddiad L/506/1869 Gwerth credyd yr uned: 3
- Cyfeillio â chydweithiwr i ddatblygu eu sgiliau M/506/1895 Gwerth credyd yr uned: 3
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion L/506/1905 Gwerth credyd yr uned: 2
- Negodi mewn amgylchedd busnes H/506/1912 Gwerth credyd yr uned: 4
- Arwain gweithgareddau gwerthu uniongyrchol mewn tîm canolfan gyswllt D/503/0397 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli digwyddiadau a gyfeirir i ganolfan gyswllt K/503/0418 Gwerth credyd yr uned: 6
- Meddalwedd Bwrpasol J/502/4397 Gwerth credyd yr uned: 4
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith T/506/1820 Gwerth credyd uned 3
- Rheoli perfformiad tîm A/506/1821 Gwerth credyd yr uned: 4
- Rheoli perfformiad unigolion J/506/1921 Gwerth credyd yr uned: 4
- Cydweithio ag adrannau eraill M/506/1931 Gwerth credyd yr uned: 3
- Prosesu archebion gwerthu M/502/8587 Gwerth credyd yr uned: 2
- Negodi, ymdrin â gwrthwynebiadau a chau gwerthiannau F/502/8612 Gwerth credyd yr uned: 4
- Caffael a dadansoddi gwybodaeth yn gysylltiedig â gwerthiannau R/502/8615 Gwerth credyd yr uned: 4
- Ymddygiad y prynwr mewn sefyllfaoedd gwerthu K/502/8622 Gwerth credyd yr uned: 3
Efallai y bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth ofynnol ar gyfer tystysgrif Cwblhau Prentisiaeth os yw TPC yn gofyn am hynny.
Sylwer: bydd yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.