Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Rhannau Cerbydau

Framework:
Rhannau Cerbydau
Lefel:
2/3

Oes gennych chi ddiddordeb yn elfennau technegol cerbydau modur? Ydych chi’n mwynhau siarad gyda chwsmeriaid a deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel? Os ydych chi, dyma’r brentisiaeth i chi.

Mae cyflogwyr am ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio yn y Diwydiant Manwerthu Modurol sydd â sgiliau cyfathrebu da, sgiliau llythrennedd a rhifedd a fydd yn sail i’r Brentisiaeth.

Trwy weithio mewn rôl Gwerthu Rhannau, byddwch yn hyrwyddo, gwerthu a dosbarthu rhannau modurol i gwsmeriaid masnach cerbydau modur a chwsmeriaid eraill. Byddai disgwyl i chi gyrraedd targedau gwerthu, cynghori cwsmeriaid ar rannau gofynnol a chynnal cysylltiadau cwsmeriaid.

Mewn rôl Telewerthu Rhannau byddai disgwyl i chi sicrhau gwerthiant rhannau newydd a chynnal cyfrifon presennol. Byddwch yn ateb ymholiadau am weithrediadau rhannau, yn denu busnes newydd ac yn taro’r fargen. Byddwch hefyd yn trefnu i ddosbarthu rhannau a datblygu a chynnal contractau presennol gyda chwsmeriaid.

Fel Cynghorydd Rhannau Cerbydau byddwch yn archebu, gwerthu a rheoli rhannau ac ategolion, yn cynghori cwsmeriaid ar sut i ddatrys problem gyda’u cerbyd, yn cymryd archebion gan gwsmeriaid, yn rheoli stoc ac yn anfonebu am y rhannau a werthwyd.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Rhannau Cerbydau – Lefel 2

Addas ar gyfer swyddi Cynrychiolwyr Gwerthu Rhannau a chynrychiolydd Telewerthu Rhannau

Rhannau Cerbydau – Lefel 3

Addas ar gyfer swydd Cynghorydd Rhannau Cerbydau

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 18 mis

Lefel 3: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys :

  • Prentisiaeth mewn Rhannau Cerbyd Lefel 3
  • Cyflogaeth fel Cynghorydd Gwerthu Rhannau neu Gynrychiolydd Telewerthu neu symud i faes gwerthu cerbydau.

Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:

  • Cyflogaeth mewn swyddi Lefel 3 a 4 amrywiol fel Rheolwr Rhannau
  • Cymwysterau rheoli lefel uwch
  • Hyfforddiant a datblygu pellach
  • Rhaglenni addysg uwch fel Busnes a Rheoli.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma mewn Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

Lefel 3: Diploma mewn Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Gall ymgeiswyr ddod o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:

  • gwaith neu brofiad gwaith
  • hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn maen nhw wedi’i wneud
  • unrhyw Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach Cymru
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymhwyster Prif Ddysgu mewn Peirianneg neu Fusnes Manwerthu
  • cymhwyster(au) galwedigaethol neu academaidd amrywiol

Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.  

Lefel 3

Lefel 3: Dylech fod ag o leiaf flwyddyn o brofiad goruchwylio neu flwyddyn o brofiad o weithio mewn swydd debyg ar lefel 2.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

22 Tachwedd 2021