Skip to main content

Llwybr

Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

DYDDIAD CYHOEDDI: 13/10/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05062

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

124 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 2 Gweithrediadau Rhannau Cerbydau.

172 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 3 Gweithrediadau Rhannau Cerbydau.

Gofynion mynediad

Lefel 2:  Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

I gael mynediad at y Brentisiaeth Lefel 2, argymhellir bod gan yr ymgeisydd radd G neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth TGAU (neu gymwysterau cyfatebol).

I gael mynediad at y Brentisiaeth Lefel 3, argymhellir bod gan yr ymgeisydd radd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth TGAU (neu gymwysterau cyfatebol).  Fodd bynnag, nid yw'r argymhellion hyn yn hanfodol.

Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddiddordeb mawr mewn ymgeiswyr sy'n gallu dangos:

  • diddordeb brwd mewn gweithio yn y Diwydiant Manwerthu Modurol.
  • y gallu i weithio’n hyderus a pharodrwydd i weithio'n galed.
  • sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol da y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt.
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol i’r busnes.
  • awydd i weithio gyda'u cyflogwr i gyrraedd targedau.
  • awydd i gamu ymlaen trwy hunan-ddatblygiad.

Bydd y Brentisiaeth hon yn gofyn am fedrusrwydd llaw da, gall gynnwys trin a thrafod offer trwm a threulio cyfnodau hir yn sefyll.

I'r rhai sy'n gweithio gyda systemau trydanol, bydd angen prawf dallineb lliw.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

Lefel 2: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau 380 368
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Cymhwyster cymhwysedd – 66 credyd a chymhwyster gwybodaeth - 58 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ar gyfer y Llwybr Dysgu hwn yw 883 o oriau hyfforddi

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau

Lefel 3: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gweithrediadau Rhannau Cerbydau 672 592
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Cymhwyster cymhwysedd - 93 credyd a Chymhwyster gwybodaeth - 79 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ar gyfer y Llwybr Dysgu hwn yw 1,444 o oriau hyfforddi.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Rolau swydd

Cynorthwyydd Rhannau Cerbydau

Hyrwyddo, gwerthu a darparu rhannau cerbydau i gwsmeriaid masnachol yn y diwydiant moduro a chwsmeriaid eraill, cyrraedd targedau gwerthu, cynghori cwsmeriaid ar rannau gofynnol, sefydlu a chynnal cysylltiadau cwsmeriaid. Gall hon fod yn rôl wyneb yn wyneb neu delewerthu.

Cynghorydd Rhannau Cerbydau

Archebu, gwerthu a rheoli rhannau ac ategolion, cynghori cwsmeriaid ar sut i ddatrys problem gyda'u cerbyd, cymryd archebion gan gwsmeriaid, rheoli stoc yn effeithlon, codi anfonebau ar gyfer rhannau a werthir, cysylltu ag aelodau eraill o staff.

Dilyniant

Llwybrau dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 2:

Gallai dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gweithrediadau Rhannau fod drwy gyflawni cymwysterau TGAU, gwahanol raglenni Cysylltiadau Ysgolion,  ystod o gymwysterau Modurol Lefel 1 neu Lefel 2 neu brofiad gwaith yn y sector Modurol.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gweithrediadau Rhannau, gall prentisiaid llwyddiannus weithio fel Cynorthwyydd Rhannau Cerbydau, naill ai mewn amgylchedd wyneb yn wyneb neu delewerthu. Mae llwybrau dilyniant pellach yn cynnwys ymgymryd â'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Rhannau. Gall unigolion ddewis ymgymryd â chymwysterau Lefel 3 eraill mewn pynciau Modurol neu Wasanaethau Cwsmeriaid.

Mae rhagor o wybodaeth am yrfaoedd a dilyniant ar gael yma: https://www.autocity.org.uk

Llwybrau dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 3:

Gallai dilyniant i'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Rhannau fod yn uniongyrchol o'r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Rhannau Gweithrediadau neu gymwysterau galwedigaethol cysylltiedig eraill. Fel arall, dylai unigolion sy'n ymgymryd â'r Brentisiaeth Lefel 3 fod â phrofiad o weithio mewn rôl Gweithrediadau Rhannau ar lefel 2, er enghraifft, fel Cynorthwyydd Rhannau Cerbydau.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3:

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithrediadau Rhannau, gall prentisiaid llwyddiannus weithio fel Ymgynghorwyr Rhannau Cerbydau. Mae llwybrau dilyniant pellach yn cynnwys rolau fel Uwch-gynghorydd Rhannau neu swyddi goruchwylio/rheoli. Gall unigolion hefyd ddewis ymgymryd â chymwysterau lefel uwch, gan gynnwys cymwysterau lefel 4 mewn rheoli ac arwain, neu weithio tuag at achrediad megis achrediad IMI, er enghraifft. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma: https://tide.theimi.org.uk/learn/accreditation

Mae rhagor o wybodaeth am yrfaoedd a dilyniant ar gael yma: https://www.autocity.org.uk

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Dangosodd proffil o'r Diwydiant Manwerthu Modurol yng Nghymru yn 2020 y canlynol:

  • Gwryw: 80%
  • Benyw: 20%
  • 55+ oed: 18%

Mae'r llwybr Prentisiaeth wedi bod yn boblogaidd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau ers amryw o flynyddoedd, yn enwedig ar yr ochr dechnegol, ond rydym yn gwybod bod recriwtio yn dal i beri anawsterau. Yn ogystal, o'r data sydd gennym, rydym yn gwybod hefyd nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn y diwydiant. Mae'n ymddangos bod yr anawsterau a'r ffaith nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn deillio o broblemau delwedd y diwydiant, ynghyd ag amodau cyflog a’r ffaith bod pobl yn tybio bod diffyg rhagolygon gyrfa yn y sector. Er mwyn helpu i wrthwneud rhai o'r materion hyn a helpu i ddenu pobl i'r diwydiant, mae gan yr IMI wefan gyrfaoedd benodol ar gael: www.autocity.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am 150+ o rolau swyddi, ynghyd â fideos a theithiau Realiti Rhithwir 360 gradd o weithleoedd, pecynnau cymorth profiad gwaith a phecynnau sgiliau cyflogadwyedd.  Mae'r cyfan ar gael i’w lawrlwytho am ddim ac mae adrannau i archwilio rolau swyddi, ynghyd ag adnoddau penodol megis gwybodaeth am y farchnad lafur y gall Cynghorwyr Gyrfaoedd, Arweinwyr Gyrfaoedd ac Athrawon eu defnyddio hefyd.

Gan obeithio cynyddu amrywiaeth y gweithlu modurol, mae'r IMI yn mynd ati ar hyn o bryd i gynnal rhaglen waith o'r enw UK Automotive Sector: Diversity Task Force. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector modurol. Adeg cychwyn y prosiect hwn, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael yn gyhoeddus am y niferoedd o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a oedd yn gweithio yn y sector modurol yng Nghymru neu'r DU. Felly, ysgogodd hyn gais yr IMI i'r ONS ar gyfer achrediad arbennig i gael mynediad at setiau data llywodraeth ar y farchnad lafur ar lefel micro. Mae'r IMI yn defnyddio'r data hwn i sefydlu llinell sylfaen er mwyn profi'r rhagdybiaeth nad yw rhai grwpiau wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn sector modurol y DU. Bydd y data llawn ar gael i'r cyhoedd unwaith y bydd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi.

Cydnabyddir yn eang fod gweithle amrywiol yn darparu profiad gwell i gwsmeriaid sydd, yn ei dro, yn darparu proffidioldeb gwell. Mae'n dod yn amgylchedd gwaith mwy deniadol a chynhwysol hefyd, sy'n apelio at sbectrwm ehangach o'r boblogaeth. Deellir nad oes digon o amrywiaeth yn y sector modurol ac, o ganlyniad, mae'n recriwtio o gronfa dalent sy'n crebachu drwy'r amser. Rhaid i hynny newid os yw'r sector yn mynd i fod yn addas i'r diben ar gyfer y chwyldro technolegol newydd sy'n esblygu'n gyflym, o gerbydau cysylltiedig ac awtonomaidd i gerbydau trydan, hydrogen a ffynonellau tanwydd glân eraill.

Mae gan y rhaglen waith dri nod allweddol:

  • Mae am ddenu pobl o'r gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i'r sector.
  • Helpu'r sector modurol i ddod yn weithle sy'n derbyn ac yn annog y rhai sy'n wynebu anableddau corfforol a niwro.
  • Mynd i'r afael â diffyg amrywiaeth o ran rhywedd yn y sector.

Nod cyffredinol y rhaglen waith, felly, yw canfod sut y gallwn ddod yn sector a fydd yn apelio at weithlu mwy amrywiol a meithrin y gweithle hwnnw.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen UK Automotive Sector: Diversity Task Force, gan gynnwys ei adroddiad interim, ewch i dudalen we'r rhaglen. https://tide.theimi.org.uk/about-imi/diversity-task-force

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn eu darparu yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

22 Tachwedd 2021