- Framework:
- Ffitiadau Cerbydau
- Lefel:
- 2/3
Fel Ffitiwr Cerbydau, byddwch yn darparu gwasanaeth cyflym ac effeithlon i gwsmeriaid gyda bywydau prysur ac i fusnesau sy’n gweithredu faniau, tryciau a bysiau.
Fel Ffitiwr Cerbydau Modur byddwch yn sicrhau bod batris, egsosts ac olwynion yn addas i’w diben. Fel Technegydd Ffitiadau Cyflym byddwch yn arbenigo mewn arolygu a newid teiars gan sicrhau bod cerbydau’n ddiogel ac yn defnyddio tanwydd yn effeithlon.
Ar lefel 3, mewn rôl oruchwylio, byddwch yn rheoli timau, archwilio gwaith technegwyr ac yn cynnal yr holl wasanaethau amrywiol eich hun.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Ffitiadau Cerbydau – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Ffitiadau Cyflym/ Ffitiwr Cerbydau Modur.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Ffitiadau Technegydd Teiars.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 22 mis
lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau yn cynnwys:
• Prentisiaeth Lefel 3 mewn Ffitiadau Cerbydau;
• Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn agwedd arall ar y Diwydiant Manwerthu Modurol fel Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Corff a Phaent Cerbydau neu Werthu Cerbydau;
• Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Arwain Tîm;
• Cyflogaeth mewn swyddi amrywiol ar Lefel 2 a 3 fel Cynghorydd Gwasanaeth neu Dderbynnydd Gwasanaeth.
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
• Prentisiaeth Sylfaen Lefel 3 mewn agwedd arall ar y Diwydiant Manwerthu Modurol fel Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Corff a Phaent Cerbydau neu Rannau Cerbydau;
• Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2;
• Prentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli;
• Prentisiaeth Lefel 2 neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddu;
• Cyflogaeth mewn ystod o swyddi Lefel 3 a 4 fel Rheolwr Gweithdy neu Reolwr Gwasanaeth.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma mewn llwybr o’ch dewis.
Lefel 3: Diploma mewn Goruchwylio Ffitiadau Cerbydau.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Bydd y fframwaith hwn mewn Ffitiadau Cerbydau yn addas i rywun sy’n mwynhau cyfarfod pobl, defnyddio eu dwylo a bod mewn amgylchedd bywiog ac sy’n mwynhau cyswllt wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
Bydd gennych ddiddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant Manwerthu Modurol mewn swyddi Ffitiadau Cerbydau a bydd gennych sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol a fydd yn sail i’r Brentisiaeth hon.
Gall ymgeiswyr ddod o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:
• gwaith neu brofiad gwaith;
• hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn maen nhw wedi’i wneud;
• unrhyw Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach;
• Llwybrau at Brentisiaethau;
• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu mewn Peirianneg a Busnes Manwerthu sydd â chynnwys manwerthu modurol;
• cymhwyster(au) galwedigaethol neu academaidd amrywiol.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Lefel 3: Gall swyddi lefel 3 mewn Ffitiadau Cerbydau gynnwys goruchwylio timau, felly bydd rhai cyflogwyr eisiau profiad goruchwylio neu brofiad mewn Ffitiadau Cerbydau ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 3 hon.
Gweld llwybr llawn