Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/12/2011 ACW Fframwaith Rhif. FR01097
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 2 Ffitiadau Cerbydau
Lefel 2 – Ffitiadau Cyflym – 126 credyd.
Lefel 2 – Ffitiadau Arbenigol (Teiars) – 120 credyd
Gofynion mynediad
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym/Ffitwyr Arbenigol (Teiars)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i ymuno â'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn
Ffitiadau Cerbydau, ond mae Cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb
brwd mewn gweithio yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau mewn swyddi Ffitiadau
Cerbydau ac sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hapus awyddus i gael cyswllt wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
Bydd ymgeiswyr ar gyfer y Brentisiaeth hon yn amrywio o ran oedran a phrofiad. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
• gwaith neu brofiad gwaith;
• hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud;
• unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu'r Sgiliau Allweddol Ehangach;
• Llwybrau at Brentisiaethau;
• Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymwysterau Prif Ddysgu mewn Peirianneg a
Busnes Manwerthu sydd â chynnwys manwerthu cerbydau;
• ystod o gymwysterau galwedigaethol neu academaidd.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Ffitiadau Cerbydau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0221/4 501/0748/3 | 51 | 510 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
IMIAL | C00/0273/8 500/9816/0 | 51 | 510 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym | 525 | 704 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
112 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Cymhwysedd Ffitiadau Cerbydau a Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Ffitiadau Cerbydau.
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Cyflym yw 1,229.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Arbenigol (Teiars)
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Arbenigol (Teiars) Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Ffitiadau Arbenigol (Teiars) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0336/1 600/1449/0 | 46 | 460 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Arbenigol (Teiars) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Arbenigol (Teiars) | 512 | 668 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
106 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Cymhwysedd Ffitiadau Arbenigol (Teiars) a Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Ffitiadau Arbenigol (Teiars).
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Ffitiadau Cerbydau – Ffitiadau Arbenigol (Teiars) yw 1,180.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
- Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Ffitiadau Cerbydau;
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn rhan arall o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau megis
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Corff a Phaent Cerbydau neu Werthu Cerbydau;
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Arwain Tîm;
- Cyflogaeth mewn amrywiaeth o swyddi ar Lefel 2 a 3 megis Cynghorydd Gwasanaeth neu Dderbynnydd Gwasanaeth.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dynion gwyn sydd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau yng Nghymru yn bennaf ac oedran cyfartalog y gweithlu yw 39. Dangosodd dadansoddiad o'r data ar gyfer prentisiaethau a ddechreuwyd yng Nghymru yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau ar gyfer 2007/2008 y canlynol: • Gwryw 98% • Benyw 2% • Gwyn 99% • Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 1% Mae'r llwybr Prentisiaeth wedi bod yn boblogaidd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau, yn enwedig ar yr ochr dechnegol, ers amryw o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae recriwtio yn dal i beri anawsterau. Mae'n ymddangos bod yr anawsterau'n deillio o broblemau delwedd y diwydiant, ynghyd ag amodau cyflog a rhagolygon gyrfa. Er mwyn gwneud yn iawn am rai o'r materion hyn, mae ymwybyddiaeth o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy'r canlynol: Y Cymwysterau Prif Ddysgu ym Magloriaeth Cymru ar gyfer Peirianneg a Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys manwerthu cerbydau;
Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i ddod i mewn i'r diwydiant, felly mae amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn hyblyg iawn ac mae mentora wedi'i gynnwys i gyfrannu at gynyddu cyfraddau cadw a chyflawni. Mae'r IMI yn disgwyl i ddarparwyr a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r sector a dyrchafiad o fewn y sector gan ddefnyddio'r 9 nodwedd warchodedig Bydd yr IMI yn monitro'r nifer sy'n dilyn pob Prentisiaeth, ac yn eu cyflawni, drwy ei Grŵp Llywio Prentisiaethau ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i ddilyn prentisiaethau a'u cyflawni fel rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 - bydd CHC yn cael eu cwmpasu drwy gymhwyster ar wahân:
Teitl: Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Gwybodaeth am Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr ar gyfer y Sector Cerbydau (FfCCh) Rhif Cyfeirnod y Cymhwyster: 600/1216/X Oriau Dysgu Dan Arweiniad (GLH): 8 Gwerth Credyd: 2
Bydd y cymhwyster hwn yn sicrhau bod y Prentis yn gwybod ac yn deall pob un o'r naw canlyniad cenedlaethol ar gyfer CHC fel a ganlyn:
- Yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau statudol cyflogwyr a gweithwyr o dan gyfraith cyflogaeth ac y gall deddfwriaeth arall effeithio ar hawliau cyflogaeth hefyd. Dylai hyn gynnwys hawliau a chyfrifoldebau'r prentis o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol arall ac iechyd a diogelwch, ynghyd â dyletswyddau cyflogwyr;
- Gweithdrefnau a dogfennau sy'n cydnabod ac yn diogelu ei berthynas â'i gyflogwr, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r brentisiaeth;
- Yr ystod o ffynonellau a gwybodaeth a chyngor sydd ar gael iddo ar ei hawliau a'i gyfrifoldebau cyflogaeth, gan gynnwys Mynediad i Waith a Chymorth Dysgu Ychwanegol;
- Y cyfraniad mae ei alwedigaeth yn ei wneud yn ei sefydliad a'i ddiwydiant;
- Yn meddu ar farn wybodus am y mathau o lwybrau gyrfa sy'n agored iddo;
- Y mathau o gyrff cynrychiadol ac yn deall eu perthnasedd i'w ddiwydiant a'i sefydliad a'r prif rolau a chyfrifoldebau;
- Ble a sut i gael gwybodaeth a chyngor am ei ddiwydiant, ei alwedigaeth, ei hyfforddiant a'i yrfa;
- Gallu disgrifio a gweithio o fewn egwyddorion a chodau ymarfer ei sefydliad;
- Gallu cydnabod a llunio barn ar faterion sy'n peri pryder i'r cyhoedd sy'n effeithio ar ei sefydliad a'i ddiwydiant.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr