Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Corff a Phaent Cerbydau

Framework:
Corff a Phaent Cerbydau
Lefel:
2/3

Yn ystod Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2), byddwch yn hyfforddi fel Technegydd ac yn asesu ac atgyweirio difrod, yn adfer cyrff cerbydau a gwaith paentio neu’n atgyweirio ac yn ailosod gwydr cerbydau ysgafn a thrwm amrywiol.

Ar Lefel 3, byddwch yn hyfforddi fel Uwch Dechnegydd neu Asesydd Difrod i Gerbydau. Fel uwch dechnegydd byddwch yn atgyweirio difrod ac yn adfer cyrff cerbydau a gwaith paentio neu’n atgyweirio ac yn ailosod gwydr cerbydau ysgafn a thrwm amrywiol tra bydd Asesydd Difrod i Gerbydau yn asesu difrod i gerbydau, dulliau atgyweirio cerbydau ac amcangyfrif costau.

Bydd gofyn i chi gyflawni tasgau anodd yn fanwl-gywir ac yn fedrus felly mae deheurwydd llaw yn hollbwysig. Bydd disgwyl i chi hefyd drin cyfarpar trwm a sefyll am gyfnodau maith gydol eich diwrnod gwaith.

Mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr a all arddangos: agwedd hyderus a chadarnhaol a pharodrwydd i weithio’n galed; sgiliau cyfathrebu da a fydd yn sail i’r Brentisiaeth hon; a dealltwriaeth o ba mor bwysig yw bod y busnes yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.

Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiadau cychwynnol i sicrhau bod gan ymgeiswyr gyfle teg i arddangos eu gallu ac yn teilwra rhaglenni i ddiwallu anghenion unigol.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Corff a Phaent Cerbydau - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Technegydd Mecanyddol, Trydanol a Thrimiau

Llwybr 2:  Addas ar gyfer swydd Technegydd Adeiladu Corff Cerbyd

Llwybr 3:  Addas ar gyfer swydd Technegydd Paneli

Llwybr 4:  Addas ar gyfer swydd Technegydd Paent

Llwybr 5:  Addas ar gyfer swydd Technegydd Gwydr Cerbydau

Corff a Phaent Cerbyd - Lefel 3

Llwybr 1:  Addas ar gyfer swydd Uwch Dechnegydd Mecanyddol, Trydanol a Thrimiau

Llwybr 2:  Addas ar gyfer swydd Uwch Dechnegydd Adeiladu Corff Cerbyd

Llwybr 3:  Addas ar gyfer swydd Uwch Dechnegydd Panel

Llwybr 4:  Addas ar gyfer swydd Uwch Dechnegydd Paent

Llwybr 5:  Addas ar gyfer swydd Asesydd Difrod i Gerbydau

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 22 mis

Lefel 3: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Hyfforddiant a datblygu pellach
  • Prentisiaeth Lefel 3
  • Addysg bellach gan gynnwys Diploma Lefel 3 a Diploma Estynedig

Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:    

  • Cyflogaeth
  • Hyfforddiant a datblygu pellach
  • Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau
  • Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli Modurol
  • Cyfleoedd Addysg Bellach ac Uwch
  • Gradd sylfaen er enghraifft mewn Peirianneg Fodurol neu Dechnoleg Fodurol; neu ymlaen i raglenni Addysg Uwch fel rhaglenni MEng a BEng mewn Peirianneg Fodurol.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma mewn llwybr o’ch dewis.

Lefel 3: Diploma mewn llwybr o’ch dewis.

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Efallai y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth o wahanol brofiadau, cyflawniadau a/neu gymwysterau. Mae enghreifftiau o ofynion mynediad y gall cyflogwyr chwilio amdanyn nhw gynnwys:

  • Profiad gwaith blaenorol neu gyflogaeth;
  • Gwaith gwirfoddol neu gymunedol;
  • Tystiolaeth o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu;
  • Cyflawni Gwobrau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu neu unrhyw Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach;
  • Cyflawni Cymhwyster Prif Ddysgu mewn Busnes Manwerthu sydd â chynnwys manwerthu modurol, Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu Beirianneg fel rhan o Fagloriaeth Cymru;
  • Bagloriaeth Cymru – unrhyw lefel;
  • TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Lefel 2: Dim gofynion mynediad penodol.

Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion penodol heblaw Llwybr 5. Yn sgil natur dechnegol y swydd Asesydd Difrod i Gerbydau, byddai gwybodaeth flaenorol a phrofiad ymarferol o gyrff cerbydau a phaent neu o gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad neu gymwysterau gwasanaeth cwsmeriaid.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

22 Tachwedd 2021