Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 05/09/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04273
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credydau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer:
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd - 202 credyd.
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd - 166 credyd.
Yr isafswm credydau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer:
Lefel 3: Corff a Phaent Cerbydau - Atgyweirio Corff Cerbyd - 201 credyd
Lefel 3: Corff a Phaent Cerbydau - Ail-orffen Corff Cerbyd - 211 credyd.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd/Ailorffen Corff Cerbyd
Ystyrir bod prentisiaethau yn ffordd hanfodol o ddenu mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i'r diwydiant, felly mae amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn hyblyg iawn. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr ddiddordeb mawr mewn ymgeiswyr sy'n gallu dangos:
- Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i weithio'n galed;
- Sgiliau cyfathrebu da y bydd y Brentisiaeth hon eu datblygu;
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid bob amser i'r busnes.
Bydd y Llwybrau hyn yn gofyn am fedrusrwydd corfforol da a gallu trafod cyfarpar trwm,
a threulio cyfnodau hir yn sefyll.
Gall ymgeiswyr fod â phob math o wahanol brofiadau, cyflawniadau a/neu gymwysterau.
Mae enghreifftiau o ofynion mynediad y gallai cyflogwyr edrych amdanynt yn cynnwys:
- Profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol, wedi'i ategu gan bortffolio o dystiolaeth; neu
- Gwaith gwirfoddol neu gymunedol; neu
- Prawf o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu; neu
- Cyflawni Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu; neu
- Unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu'r Sgiliau Allweddol Ehangach; neu
- Gymhwyster Prif Ddysgu mewn Busnes Manwerthu sydd â chynnwys manwerthu cerbydau, Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu Beirianneg fel rhan o Fagloriaeth Cymru;
neu
- Bagloriaeth Cymru – unrhyw lefel; neu
- TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Lefel 3: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd/Ailorffen Corff Cerbyd
Nid oes gofynion ychwanegol i'r canllaw Lefel 2 i gyflogwyr ar gyfer THE Lefel 3
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma mewn Cymhwysedd Atgyweirio Corff Cerbyd yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0274/5 500/9686/2 | 101 | 1010 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0983/7 501/0022/1 | 101 | 1010 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Atgyweirio Corff Cerbyd yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0273/0 500/9689/8 | 81 | 810 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0203/8 501/0016/6 | 81 | 810 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau – Atgyweirio Corff Cerbyd | 910 | 1048 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm y credydau gofynnol: 202 credyd, sef: Cymhwysedd: 101 credyd; Gwybodaeth: 81 credyd: Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2 Corff a Phaent Cerbydau - Atgyweirio Corff Cerbyd yw 1958.
|
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma mewn Cymhwysedd Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0274/7 500/9690/4 | 81 | 810 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma mewn Egwyddorion Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0273/7 500/9821/4 | 65 | 650 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd | 695 | 888 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm y credydau gofynnol: 166 credyd, sef:
Cymhwysedd: 81 credyd;
Gwybodaeth: 65 credyd:
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2 Corff a Phaent Cerbydau - Ailorffen Corff Cerbyd yw 1,583.
.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Corff a Phaent – Atgyweirio Corff Cerbyd
Lefel 3: Corff a Phaent – Atgyweirio Corff Cerbyd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 Diploma mewn Cymhwysedd Atgyweirio Corff Cerbyd yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0274/9 500/9692/8 | 104 | 1040 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0984/4 500/9991/7 | 104 | 1040 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma mewn Egwyddorion Atgyweirio Corff Cerbyd yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0274/1 500/9809/3 | 77 | 770 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0893/4 501/0618/1 | 77 | 770 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Corff a Phaent – Atgyweirio Corff Cerbyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Corff a Phaent – Atgyweirio Corff Cerbyd | 905 | 998 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm y credydau gofynnol: 201 credyd, sef:
Cymhwysedd: 104 credyd;
Gwybodaeth: 77 credyd:
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Corff a Phaent – Atgyweirio Corff Cerbyd yw 1,903.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Corff a Phaent – Ailorffen Corff Cerbyd
Lefel 3: Corff a Phaent – Ailorffen Corff Cerbyd Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 Diploma mewn Cymhwysedd Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0275/9 500/9822/6 | 108 | 1080 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0984/2 500/9988/7 | 108 | 1080 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma mewn Egwyddorion Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
IMI | C00/0273/4 500/9688/6 | 83 | 830 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Corff a Phaent – Ailorffen Corff Cerbyd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Corff a Phaent – Ailorffen Corff Cerbyd | 918 | 1028 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm y credydau gofynnol: 211 credyd, sef:
Cymhwysedd: 108 credyd;
Gwybodaeth: 83 credyd:
Cyfanswm yr oriau dysgu gyda hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Corff a Phaent – Ailorffen Corff Cerbyd yw 1,943.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Bydd y Llwybrau hyn yn gofyn am fedrusrwydd corfforol da a gallu trafod offer trwm, a threulio cyfnodau hir yn sefyll.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:
Atgyweirio Corff Cerbyd:
Swyddi:
- Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon (Lefel 2), bydd prentisiaid yn gymwys i weithio fel Technegydd Paneli;
- yn dilyn hyfforddiant a datblygiad pellach, gall prentisiaid symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi megis Uwch Dechnegydd Paneli, Cynghorydd Gweithdy Corff Cerbydau neu Gynghorydd Gwasanaeth.
Prentisiaethau:
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Corff a Phaent Cerbydau;
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Asesu Difrod i Gerbydau;
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn rhan arall o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau megis Rhannau Cerbydau neu Gynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau.
Addysg Bellach:
Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Atgyweirio Corff Cerbyd yn dilyn Damwain;
- Diploma Lefel 3 ar gyfer Aseswyr Cerbydau a Ddifrodwyd mewn Damweiniau
Ailorffen Corff Cerbyd:
Swyddi:
- ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon (Lefel 2), bydd prentisiaid yn gymwys i weithio fel Technegydd Paent;
- Yn dilyn hyfforddiant a datblygiad pellach, gall prentisiaid symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi megis Uwch Dechnegydd Paent, Cynghorydd Gweithdy Corff Cerbydau, Cynghorydd Gwasanaeth neu Reolwr Fflyd.
Prentisiaethau:
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Corff a Phaent Cerbydau;
- Prentisiaeth (Lefel 3) mewn rhan arall o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau megis Rhannau Cerbydau neu Gynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau;
Addysg Bellach:
- Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain;
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Egwyddorion Peintio Cerbydau yn dilyn Damwain.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3:
Atgyweirio Corff Cerbyd:
Swyddi:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth hon (Lefel 3), bydd prentisiaid yn gymwys i weithio fel Uwch Dechnegydd Paneli; yn dilyn hyfforddiant a datblygiad pellach, gall prentisiaid symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi megis Rheolwr Gweithdy, Rheolwr Gweithdy Corff Cerbydau neu Reolwr Gwasanaeth.
Prentisiaethau:
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau;
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Rheoli ac Arwain Modurol.
Addysg Bellach ac Uwch:
- ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach gellir mynd ymlaen i radd Sylfaen - er enghraifft, mewn Peirianneg Fodurol neu Dechnoleg Fodurol;
- NEU i raglenni Addysg Uwch (AU) megis rhaglenni MEng a BEng mewn pwnc Modurol.
Ailorffen Corff Cerbyd:
Swyddi:
Yn dilyn hyfforddiant a datblygiad pellach, gall prentisiaid symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi megis Rheolwr Gweithdy, Rheolwr Gweithdy Corff Cerbydau neu Reolwr Gwasanaeth.
Prentisiaethau:
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Rheoli ac Arwain Modurol.
Addysg Bellach ac Uwch:
- ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach gellir mynd ymlaen i radd Sylfaen, er enghraifft, mewn Peirianneg Fodurol neu Dechnoleg Fodurol;
- NEU i raglenni Addysg Uwch (AU) megis rhaglenni MEng a BEng mewn pwnc Modurol.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dynion gwyn yn bennaf sydd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau yng Nghymru ac oedran cyfartalog y gweithlu yw 39.
Dangosodd dadansoddiad o'r data ar gyfer Prentisiaethau a ddechreuwyd yn y sector manwerthu cerbydau yng Nghymru ar gyfer 2009/10 y canlynol:
Gwryw: 98%;
Benyw: 2%;
Gwyn: 99%;
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: 1%;
Anabledd/anhawster dysgu: 6%.
Mae'r llwybr Prentisiaeth wedi bod yn boblogaidd yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau, yn enwedig ar yr ochr dechnegol, ers amryw o flynyddoedd; fodd bynnag, mae recriwtio yn dal i beri anawsterau. Mae'n ymddangos bod yr anawsterau'n deillio o broblemau delwedd y diwydiant, ynghyd ag amodau cyflog a’r ffaith bod pobl yn teimlo bod diffyg rhagolygon gyrfa yn y sector. Er mwyn gwneud yn iawn am rai o'r materion hyn, mae ymwybyddiaeth o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy'r canlynol:
- y Cymwysterau Prif Ddysgu ym Magloriaeth Cymru ar gyfer Peirianneg a Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys manwerthu Cerbydau;
- y Rhaglen Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Cerbydau Modur (14-16), sy'n codi ymwybyddiaeth o'r Diwydiant Manwerthu Cerbydau mewn ysgolion;
- cynnyrch Headlight, sef adnoddau am ddim i athrawon a myfyrwyr yng Nghyfnod Allweddol 3-4 sy'n canolbwyntio ar Astudiaethau Busnes, Mathemateg a Llythrennedd, gyda'r Diwydiant cerbydau fel cefndir cyffrous;
- Autocity - Gwefan gyrfaoedd ar gyfer y Diwydiant cerbydau, sy'n cynnwys delweddau nad ydynt yn stereoteipiau o swyddi yn y sector;
- HUBcap - yr HYB ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gyrfaoedd ac Academaidd i ddarparu ateb cyflawn i ymarferwyr gyrfaoedd yn y diwydiant modurol;
- 1st Gear - cymuned ar-lein a ddyluniwyd i ennyn diddordeb pobl ifanc 13-16 oed yn y Diwydiant Manwerthu Cerbydau.
Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i’r diwydiant, felly mae amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn hyblyg iawn ac mae mentora wedi'i gynnwys i gyfrannu at gynyddu cyfraddau cadw a chyflawni.
Mae'r IMI yn monitro'r nifer sy'n dilyn pob Prentisiaeth, ac yn eu cyflawni, drwy amrywiaeth o fecanweithiau megis grwpiau ffocws cyflogwyr, grwpiau llywio yn ôl yr angen ac offer ymchwil megis adroddiadau meincnodi. Bydd yr IMI yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i ddilyn Prentisiaeth a'i chyflawni fel rhan o'n Strategaeth Cymwysterau Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr