- Framework:
- Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi
- Lefel:
- 2/3/4
Mae’n rhaid i bob sefydliad brynu nwyddau a gwasanaethau ac mae hyn yn golygu bod pobl y Gadwyn Gyflenwi yn gweithio ymhob man, o gorfforaethau byd-eang i stondinau marchnad.
I lawer o sefydliadau, y gost fwyaf iddynt yw’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu prynu gan drydydd parti. Mae hyn yn cynnwys costau rheoli cyflenwad, gan gynnwys prynu, hwyluso, rheoli stocrestr, cyflenwi a derbyn nwyddau a rheoli ansawdd.
Mae cadwyni cyflenwi o fewn ac ymhob sector arall yn dibynnu ar effeithlonrwydd y bobl sy’n gweithio ynddyn nhw. Gall Prentis weithio fel Swyddog Cadwyn Gyflenwi gan sicrhau bod nwyddau’n cael eu harchebu a bod y broses o’u cyflenwi yn cael ei holrhain, neu fel Rheolwr Cadwyn Gyflenwi, gan sicrhau bod cyflenwyr yn cyflenwi neu’n darparu nwyddau yn gywir.
Fel Prentis Uwch, gallwch weithio fel Arbenigwr Cadwyn Gyflenwi a byddwch yn gyfrifol am werthuso’n feirniadol a dadansoddi cyflenwyr a chontractau.
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio mewn rôl yn y Gadwyn Gyflenwi yn y Sector Logisteg. Mae’n rhaid i chi fod yn fodlon gweithio shifftiau yn ôl y gofyn, fel rhan o dîm a medru cadw amser yn dda.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gweithredoedd y Gadwyn Gyflenwi – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Swyddog y Gadwyn Gyflenwi
Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Rheolwr y Gadwyn Gyflenwi
Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi – Lefel 5
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Rheolydd y Gadwyn Gyflenwi (Contractau Allanol), Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi (Contractau Mewnol), Dylunydd y Gadwyn Gyflenwi a Threfnydd y Gadwyn Gyflenwi.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 12 mis
Lefel 5: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
- Cyflogaeth
- Gyda hyfforddiant a datblygu pellach e.e. rhaglen datblygu mewnol/allanol (DPP) wedi/heb ei hachredu i rôl Arbenigwr y Gadwyn Gyflenwi
- Gradd Sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu.
- Rhaglenni Addysg Uwch fel Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli.
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Uwch
- Cyflogaeth
- Neu gyda hyfforddiant a datblygu pellach e.e. rhaglen datblygu mewnol/allanol (DPP) wedi/heb ei hachredu i rôl Dadansoddwr y Gadwyn Gyflenwi.
- Gradd Sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu
- Rhaglenni Addysg Uwch fel Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli.
Lefel 5 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Gradd Sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu
- Rhaglenni Addysg Uwch fel Logisteg a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Gweithrediadau’r Gadwyn Gyflenwi
Lefel 3: Diploma mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
Lefel 5: Diploma mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o lwybrau amrywiol, gan gynnwys:
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio yn dangos yr hyn sydd wedi’i wneud
- Unrhyw Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Allweddol Ehangach
- Prentisiaeth Sylfaen y Swyddfa Draffig
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Warws a Storio
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Masnach Ryngwladol a Gweithrediadau Logisteg
- Bagloriaeth Cymru gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu mewn Busnes Manwerthu sydd â chymhwyster(au) galwedigaethol neu academaidd yn cynnwys logisteg.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 5

Lefel 5: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn