Skip to main content

Llwybr

Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 12/06/2019 ACW Fframwaith Rhif. FR04434

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

65 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 3 Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi.

83 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 5 Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi.

Gofynion mynediad

Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio mewn rôl Cadwyn Gyflenwi yn y Sector Logisteg. Rhaid iddynt fod yn barod i weithio shifftiau os oes angen, gweithio fel rhan o dîm a gallu cadw amser yn dda.

Mae gan gyflogwyr ddiddordeb hefyd mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh sylfaenol y bydd y Brentisiaeth Sylfaen/Brentisiaeth/Brentisiaeth Uwch hon yn adeiladu arnynt.

 Bydd ymgeiswyr ar gyfer y Brentisiaeth hon yn amrywio o ran oedran a phrofiad. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:

  • Gwaith neu brofiad gwaith
  • Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
  • unrhyw un o'r Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Allweddol Ehangach
  • Prentisiaeth Sylfaen y Swyddfa Draffig
  • Prentisiaeth Sylfaen Warysau a Storio
  • Prentisiaeth Sylfaen Gyrru Cerbydau Nwyddau
  • Prentisiaeth Sylfaen Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu Busnes Manwerthu sydd â chynnwys logisteg
  • Cymhwyster/Cymwysterau galwedigaethol neu academaidd

Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Dim yn ychwanegol at amodau mynediad Prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer y llwybr.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
EAL C00/1075/0 600/4838/4 42 420 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi 181 317
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

42 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi.

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Prentisiaeth Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi yw 498.

Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 5 Diploma Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
EAL C00/0440/9 600/4839/6 100 1000 Cymhwysedd Saesneg yn unig

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi 253 405
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

25 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 5 - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi.

Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Prentisiaeth Uwch - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi yw 658.

Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 24 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim.

Dilyniant

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3

Prentisiaeth/Prentisiaethau Uwch yn unrhyw un o'r canlynol:

  • Prentisiaeth Uwch - Rheoli
  • Prentisiaeth Uwch - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

  I mewn i swydd fel Arbenigwr yn y Gadwyn Gyflenwi neu gyda datblygiad a hyfforddiant pellach mewn rhaglen ddatblygu fewnol/allanol (DPP) wedi'i hachredu/heb ei hachredu i'r swyddi canlynol:

  • Dadansoddwr y Gadwyn Gyflenwi

 Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 5

Ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny: 

  • Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu
  • Rhaglenni Addysg Uwch megis Rheoli Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r Sector Logisteg ac, er gwaethaf cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw menywod, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl ag anhawster dysgu neu anabledd yn cael eu denu i'r diwydiant ac wrth i’r gweithlu cyfredol heneiddio, mae angen mwy o bobl i lenwi ystod o rolau logisteg.

Ystyrir logisteg fel swydd i ddynion ac mae'r canfyddiad hwn yn cael ei herio mewn sawl ffordd, megis:

Mae ymwybyddiaeth o Logisteg fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy Gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys logisteg, a thrwy daflenni hyrwyddo wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion. Mae'r taflenni hyn yn cynnwys "Getting more girls into Logistics and Retail" a fydd yn helpu i hyrwyddo'r amrywiaeth o swyddi mewn logisteg.

Menter arall sy'n ceisio denu ymgeiswyr o boblogaeth amrywiol yw:

  • https://careerready.org.u k/programme/think-logistics

Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i'r Sector Logisteg ac mae cynlluniau gweithredu ar waith i gynyddu nifer y prentisiaethau o leiaf 10% bob blwyddyn.

Mae'r camau i i gynyddu’r nifer o bobl sy’n dod i mewn i’r sector a chynyddu amrywiaeth yn y gweithlu Logisteg yn cynnwys:

  • Amodau mynediad hyblyg ar gyfer y llwybr hwn i ddenu ystod eang o ymgeiswyr.
  • Ymgorffori canllawiau ar asesu cychwynnol i sicrhau nad yw'r llwybr yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr i'r llwybr hwn.
  • Cysylltiadau â'r Ganolfan Byd Gwaith, gan hyrwyddo logisteg fel llwybr gyrfa.
  • Hyrwyddo cynnwys logisteg yn y cwricwlwm drwy'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILTUK).
  • Datblygu rhaglen mynediad at gyflogaeth wedi'i hanelu at grwpiau anodd eu cyrraedd.
  • Codi proffil Logisteg mewn digwyddiadau gyrfaoedd.

Mae'r diwydiant yn disgwyl i ddarparwyr a chyflogwyr gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r sector a dyrchafiad o fewn y sector.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 3: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 3 - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, a chaiff y ddwy elfen eu hasesu ar wahân. RHAID i ddarparwyr sicrhau bod Prentisiaid yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 10 credyd gwybodaeth wrth ddewis unedau i fodloni gofynion SASW.

Mae'r Llwybr hwn yn dod i gyfanswm o 65 credyd sy'n cynnwys cymhwysedd, gwybodaeth, Dyfarniad CHC, Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol. Mae'r llwybr hwn yn fwy na'r isafswm o 37 credyd a bennir gan SASW.

Cyfanswm y credydau ar gyfer y cymhwyster cyfun hwn yw 42 credyd, sy'n cynnwys:

Unedau Gorfodol

Datblygu cydberthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 credyd am wybodaeth) Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)

Grŵp Unedau Dewisol 1 (rhaid cyflawni o leiaf bedair uned o'r grŵp hwn)

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Sicrhau dull sefydliadol effeithiol o ymdrin ag iechyd a diogelwch a diogeledd wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu mewn gweithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Cymhwyso gwelliannau i'r gadwyn gyflenwi (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Cynllunio'r gweithlu yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli risg yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Annog arloesi wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Gweithredu newid wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (4 credyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)

 Grŵp Unedau Dewisol 2 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned o'r grŵp hwn)

  • Amserlennu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Trefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio sawl dull cludiant (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Rheoli cyflenwadau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Cynllunio newid yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Dewis cyflenwyr yn y gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Caffael cyflenwadau neu wasanaethau yn y gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)

 Grŵp Unedau Dewisol 3 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned yn y grŵp hwn)

  • Rheoli cyllideb yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli contractau yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli cyllid yn eich maes cyfrifoldeb eich hun wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli prosesau busnes yn y gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli prosiect yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)

Grŵp Unedau Dewisol 4 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned o'r grŵp hwn)

  • Optimeiddio'r defnydd o adnoddau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Mapio'r amgylchedd logisteg y mae eich sefydliad eich hun yn gweithredu ynddo (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Meithrin dealltwriaeth eich sefydliad eich hun o'i farchnadoedd a'i gwsmeriaid wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)

 Grŵp Unedau Dewisol 5 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned o'r grŵp hwn)

  • Darparu arweinyddiaeth i'ch tîm mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Darparu arweinyddiaeth yn eich maes cyfrifoldeb eich hun wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Recriwtio, dethol a chadw cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Adeiladu a rheoli timau mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Helpu aelodau'r tîm i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar eu perfformiad mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun ar weithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Sefydlu cysylltiadau strategol o fewn y gadwyn gyflenwi (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)

Atodiad 2 Lefel 5: Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 5 - Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, sy'n cael eu hasesu ar wahân. RHAID i ddarparwyr sicrhau bod Prentisiaid yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 10 credyd gwybodaeth wrth ddewis unedau i fodloni gofynion SASW.

Mae'r Llwybr hwn yn dod i gyfanswm o 83 credyd sy'n cynnwys cymhwysedd, gwybodaeth, Dyfarniad CHC, Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol. Mae'r llwybr hwn yn fwy na'r isafswm o 37 credyd a bennir gan SASW.

Cyfanswm y Credydau ar gyfer y cymhwyster cyfun hwn yw 60 credyd, sy'n cynnwys:

Unedau Gorfodol

  • Darparu arweinyddiaeth wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Sicrhau dull sefydliadol effeithiol o ymdrin ag iechyd a diogelwch a diogeledd wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, moesegol a chymdeithasol mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Datblygu cysylltiadau gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid mewn gwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)

Grŵp Unedau Dewisol 1 (rhaid cyflawni o leiaf dair uned o'r grŵp hwn)

  • Datblygu cynllun busnes strategol ar gyfer rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Gweithredu cynllun busnes strategol ar gyfer rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Cynllunio newid yn y broses rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Gweithredu newid yn y broses rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (4 credyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Dadansoddi gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Datblygu a gweithredu cynlluniau gweithredol wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)

Grŵp Unedau Dewisol 2 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned o'r grŵp hwn)

  • Rheoli prosesau busnes yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli rhaglen yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Rheoli cyllid ar gyfer rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Rheoli cyllid ar gyfer eich maes cyfrifoldeb eich hun wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)

Grŵp Unedau Dewisol 3 (rhaid cyflawni o leiaf dair uned o'r grŵp hwn)

  • Meithrin dealltwriaeth eich sefydliad eich hun o'i farchnadoedd a'i gwsmeriaid wrth reoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Mapio'r amgylchedd logisteg y mae eich sefydliad eich hun yn gweithredu ynddo (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Datblygu diwylliant eich sefydliad eich hun yn y gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Annog arloesi yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Sefydlu cysylltiadau strategol o fewn y gadwyn gyflenwi (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
  • Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Rheoli risg yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)

 Grŵp Unedau Dewisol 4 (rhaid cyflawni o leiaf dwy uned o'r grŵp hwn)

  • Cynllunio'r gweithlu yng ngwaith rheoli'r gadwyn gyflenwi neu weithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Recriwtio, dethol a chadw cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
  • Helpu aelodau'r tîm i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar eu perfformiad mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)

Diwygiadau dogfennau

22 Tachwedd 2021