- Framework:
- Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bysiau a Choetsis)
- Lefel:
- 2
Diben y fframwaith hwn yw hyfforddi ac uwchsgilio'r gweithlu presennol yn unol â safon cymhwysedd gydnabyddedig y diwydiant ar gyfer Gyrwyr Bysiau a Choetis proffesiynol.
Fel Prentis Sylfaen byddwch yn gallu gweithio i weithredwr mawr ledled y DU, gweithredwr trefol neu fusnes teuluol. Byddwch yn dysgu technegau gyrru diogel sy'n defnyddio tanwydd yn effeithlon ac yn datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid i gynyddu teyrngarwch cwsmeriaid a chynnal busnesau.
Nid oes angen trwydded yrru wrth ddechrau'r Brentisiaeth, ond disgwylir i chi ennill trwydded yn ystod y Brentisiaeth. Fodd bynnag, er mwyn cael trwydded dros dro i yrru Cerbyd Cludo Teithwyr (PCV), bydd yn rhaid i unigolyn fodloni'r safonau meddygol ar gyfer gyrwyr PCV yn unol â gofynion y DVLA.
Ni all gyrwyr hyfforddi ar gyfer y drwydded PCV a'r Driver CPC nes eu bod yn 18 oed neu'n hŷn. Os ydynt yn 18 oed, ni all gyrwyr PCV yrru ar hyd pob llwybr, ac fel arfer rhaid iddynt aros nes eu bod yn 21 oed cyn gallu gyrru ar hyd prif lwybrau bysiau neu goetsis.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bysiau a Choetsis) - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gyrrwr Bysiau neu Goetsis
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Llwybrau dilyniant
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i weithio fel gyrrwr bws neu goets.
Mae'r brentisiaeth hon yn gam cyntaf ar yr ysgol er mwyn gallu camu ymlaen os ydych am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant. Gallech gamu ymlaen yn y diwydiant o swydd gyrrwr bws neu goets i fod yn arweinydd tîm, yn drefnydd amserlenni, yn oruchwylydd neu'n hyfforddwr gyrru.
Gallech gamu ymlaen i Ddiploma NVQ Lefel 3 mewn Hyfforddiant Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr neu i gymwysterau arwain neu reoli tîm.
Gallech gamu ymlaen y tu hwnt i lefel 3 i swyddi rheoli yn y diwydiannau bws a choets neu i gymwysterau rheoli ar lefel 4 ac uwch.
Cymwysterau
Level 2: Diploma NVQ mewn Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bysiau a Choetsis)
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiannau bws neu goets, a pharodrwydd i weithio shifftiau a deall pwysigrwydd gwasanaeth cwsmeriaid.
Bydd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol arnoch, a bydd y Brentisiaeth hon yn datblygu'r sgiliau hyn.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o lwybrau amrywiol gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni a'i ddysgu ar lefel 1 (sylfaen)
- wedi cwblhau'n llwyddiannus unrhyw un o Sgiliau Hanfodol Cymru neu Brentisiaeth Ifanc
- wedi cwblhau unrhyw un o'r Diplomâu (14-19) neu Fagloriaeth Cymru
- wedi ennill cymhwyster/cymwysterau galwedigaethol neu academaidd fel un cymhwyster TGAU neu fwy.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn