Mae People 1st for GoSkills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 27/08/2015 ACW Fframwaith Rhif. FR03541
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
59 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 2 Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets).
Gofynion mynediad
Lefel 2: Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, ond:-
Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant bws neu goets, parodrwydd i weithio shifftiau a deall pwysigrwydd gwasanaethau i gwsmeriaid.
Bydd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ar brentisiaid y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt. Y syniad yw peidio â dileu unrhyw opsiynau fel bod ymgeiswyr yn diystyru eu hunain o’r dechrau. Bydd oedran a lefel profiad ymgeiswyr yn amrywio. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
- Wedi cyflawni dysgu sylfaen ar lefel 1
- Wedi cyflawni unrhyw Un o Sgiliau Hanfodol Cymru, wedi cwblhau Prentisiaeth Iau yn llwyddiannus
- Unrhyw un o'r Diplomâu (14-19) neu Fagloriaeth Cymru
- Cymwysterau galwedigaethol neu academaidd fel un neu fwy TGAU
Nid oes angen trwydded yrru pan fyddwch chi'n dechrau'r Brentisiaeth, er y byddai disgwyl i chi gael trwydded yrru yn ystod y Brentisiaeth. Fodd bynnag, er mwyn cael trwydded yrru dros dro ar gyfer Cerbydau Cludo Teithwyr (PCV), bydd rhaid i unigolyn fodloni'r safonau meddygol sy'n ofynnol gan yrrwr PCV fel y'u pennir gan y DVLA.
Ni all gyrwyr hyfforddi ar gyfer y drwydded PCV a'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr nes eu bod yn 18 oed neu'n hŷn. Yn 18 oed, ni all gyrwyr PCV yrru pob llwybr ac, fel arfer, rhaid iddynt aros nes eu bod yn 21 oed i gael gyrru ar brif lwybrau bysiau neu goetsys.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Lefel 2: Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma NVQ mewn Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
iCQ | C00/2437/0 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Highfield | C00/4090/9 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Dyfarniad mewn Gwybodaeth ar gyfer Gyrrwr Bws Neu Goets Proffesiynol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
iCQ | C00/2436/9 | 10 | 100 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Highfield | C00/4091/0 | 10 | 100 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) | 206 | 217 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
47 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) a Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwybodaeth ar gyfer Gyrrwr Bws neu Goets Proffesiynol
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr (Bws a Choets) yw 423.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Ni all gyrwyr hyfforddi ar gyfer y drwydded PCV a'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr nes eu bod yn 18 oed neu'n hŷn. Yn 18 oed, ni all gyrwyr PCV yrru pob llwybr ac, fel arfer, rhaid iddynt aros nes eu bod yn 21 oed i gael gyrru ar brif lwybrau bysiau neu goetsys.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen lefel 2 mewn Gyrru PCV (Bws a Choets), bydd prentisiaid llwyddiannus yn gymwys i weithio fel gyrwyr bws neu goets.
Mae'r brentisiaeth yn sylfaen ar gyfer ysgol ddilyniant i'r rhai sydd am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant. Gallai dilyniant pellach yn y diwydiant o fod yn yrrwr bws neu goets gynnwys:
- Arweinydd Tîm
- Amserlennydd
- Goruchwyliwr
- Hyfforddwr gyrru.
Gallai prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i'r Diploma NVQ Lefel 3 mewn Hyfforddiant Gyrru ar gyfer Cerbydau Cludo Teithwyr neu i gymwysterau arwain neu reoli tîm. Ar hyn o bryd, nid oes Prentisiaeth lefel 3 yn y maes hwn, ond mae'r diwydiant yn ystyried a oes galw am Lwybr o'r fath.
Gallai dilyniant pellach y tu hwnt i lefel 3 fod i rolau rheoli o fewn y diwydiant bysiau a choetsys neu gymwysterau rheoli ar lefel 4 ac uwch.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dangosodd arolwg cyflogwyr GoSkills yn 2009 fod 70% o bobl yn y diwydiant Bysiau a Choetsys yn ddynion a bod 30% o bobl yn y diwydiant yn fenywod. Un o'r prif rwystrau i ymuno â'r diwydiant i fenywod yw'r canfyddiad mai dim ond ar gyfer dynion y mae rôl gyrrwr bws neu goets yn addas. Mewn gwirionedd, nid oes rheswm pam na all menywod weithio fel gyrwyr a dylai cyflwyno mwy o drefniadau gweithio rhan-amser/hyblyg helpu i wneud y diwydiant yn fwy deniadol i fenywod.
Mae atebion eraill i'r mater hwn wedi deillio o'r Prosiect Atebion Amrywiaeth, gyda chefnogaeth GoSkills, lle mae cyflogwyr wedi datblygu ffyrdd effeithiol o hyrwyddo recriwtio a chadw gweithwyr benywaidd mewn cludiant teithwyr. Roedd y rhain yn cynnwys:
Hysbysebu yn atodiad menywod y papur newydd lleol a chynnwys tysteb gan fenyw a recriwtiwyd yn ddiweddar yn yr hysbyseb:
- Hysbysebu ar y radio sy'n targedu gweithwyr manwerthu sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid,
- defnyddio llais benywaidd
- Mynychu ffeiriau swyddi gydag aelodau benywaidd o staff
- Gwella'r wefan i gynnwys tystebau staff mwy cyfredol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan greu 'Diwrnod Rhoi Cynnig arni' ar gyfer darpar recriwtiaid a chynnal diwrnod agored blynyddol
Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i’r diwydiant, felly mae amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn hyblyg.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) bellach yn orfodol mewn Llwybrau, ond bernir bod CHC yn Orfodol yn y Llwybr hwn.
Mae naw canlyniad/safon genedlaethol ar gyfer CHC fel y nodir yn SASW. Mae SASW yn nodi bod rhaid dylunio'r cwrs hyfforddi mewn CHC fel bod y prentis:
Yn gwybod ac yn deall yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau statudol cyflogwyr a gweithwyr o dan Gyfraith Cyflogaeth ac y gall deddfwriaeth arall effeithio ar hawliau cyflogaeth hefyd. Dylai hyn gynnwys hawliau a chyfrifoldebau'r prentis o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol arall ac Iechyd a Diogelwch, ynghyd â chyfrifoldebau a dyletswyddau cyflogwyr;
- Yn gwybod ac yn deall y gweithdrefnau a'r dogfennau yn ei sefydliad sy'n cydnabod ac yn diogelu ei berthynas â'i gyflogwr.
- Rhaid i hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth fod yn rhan annatod o raglen ddysgu'r prentis;
- Yn gwybod ac yn deall yr ystod o ffynonellau gwybodaeth a chyngor sydd ar gael iddo ar ei hawliau a'i gyfrifoldebau cyflogaeth.
- Rhaid cynnwys manylion Mynediad at Waith a Chymorth Dysgu Ychwanegol yn y rhaglen;
- Yn deall y cyfraniad mae ei alwedigaeth yn ei wneud o fewn ei sefydliad a'i ddiwydiant; yn meddu ar farn wybodus am y mathau o lwybrau gyrfa sy'n agored iddo;
- Yn gwybod y mathau o gyrff cynrychiadol a deall eu perthnasedd i'w ddiwydiant a'i sefydliad, a’r prif rolau a chyfrifoldebau yn cynnwys gwybod ble a sut i gael gwybodaeth a chyngor am ei ddiwydiant, ei alwedigaeth, ei hyfforddiant a'i yrfa;
- Yn gallu disgrifio a gweithio o fewn egwyddorion a chodau ymarfer ei sefydliad;
- Yn cydnabod ac yn gallu llunio barn ar faterion sy'n berthnasol i'r cyhoedd sy'n effeithio ar ei sefydliad a'i ddiwydiant.
Mae CHC yn cael ei gwmpasu wrth gwblhau'r uned Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr sydd wedi'i chynnwys fel uned ychwanegol o fewn y cymhwyster gwybodaeth: Dyfarniad Lefel 2 ar gyfer Gyrrwr Bws neu Goets Proffesiynol.
Bydd tystiolaeth o gyflawniad CHC yn cael ei dangos mewn ardystiad drwy gyflawni'r cymhwyster gwybodaeth, ynghyd â chopi wedi'i gwblhau a'i lofnodi o'r Ffurflen Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr (CHC) Cyffredinol.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr