- Framework:
- Gyrru Cerbydau Nwyddau
- Lefel:
- 2/3
Os oes gennych ddiddordeb brwd mewn gweithio yn y sector trafnidiaeth ffordd a logisteg, os ydych chi’n fodlon treulio nosweithiau oddi cartref a'ch bod yn gallu rheoli'ch amser yn dda, gallai'r Brentisiaeth hon fod yn addas i chi.
Yn ystod y diwrnod gwaith byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun yn casglu ac yn dosbarthu nwyddau i fusnesau a chartrefi cwsmeriaid domestig. Byddwch yn gweithio y tu allan i'ch prif ganolfan y rhan fwyaf o'r dydd ac weithiau dros nos. Byddwch yn gyfrifol am eich cerbyd a'ch llwyth, a bydd angen i chi gadw cofnodion cywir o nwyddau sy'n cael eu dosbarthu a'u dychwelyd.
Wrth gamu ymlaen i Lefel 3, mae'n bosibl y byddwch yn gyfrifol am arwain tîm o yrwyr, darparu arweiniad a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf yn ystod gweithgareddau gwaith arferol.
Mae'r Brentisiaeth hon yn darparu llwybrau hyblyg i bobl sy'n dymuno gweithio ym maes trafnidiaeth ffordd a chamu ymlaen i amrywiaeth o swyddi, hyfforddiant a chymwysterau eraill mewn logisteg.
Gan ddibynnu ar y llwybr o'ch dewis, bydd angen trwydded car, beic modur neu gerbyd un cymal arnoch, ac mae'n bosibl y bydd angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gyrru Cerbydau Nwyddau – Lefel 2
Addas ar gyfer swyddi:
Llwybr 1: Cludwr Beic Modur/Beic
Llwybr 2: Gyrrwr Fan
Llwybr 3: Gyrrwr Cerbyd Un Cymal
Llwybr 4: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu
Gyrru Cerbydau Nwyddau – Lefel 3
Addas ar gyfer swyddi:
Llwybr 1: Gyrrwr Fan - yn cefnogi rôl Arweinydd Tîm hefyd
Llwybr 2: Gyrrwr Cerbyd Un Cymal
Llwybr 3: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu
Llwybr 4: Cludo Nwyddau ar y Ffordd (Fan)
Llwybr 5: Cludo Nwyddau ar y Ffordd (Cerbyd Un Cymal)
Llwybr 6: Cludo Nwyddau ar y Ffordd (Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu)
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis Lefel 3: 12 mis
|
Llwybrau dilyniant
Lefel 2:
- Cyflogaeth
- Prentisiaethau Sylfaen/Prentisiaethau mewn: Arwain Timau/ Swyddfa Draffig/ Gweithrediadau Logisteg/ Gyrru Cerbydau Nwyddau.
- Ar ôl cael rhagor o hyfforddiant a datblygiad: Gradd Sylfaen mewn logisteg/cynllunio trafnidiaeth/gweithrediadau logisteg/gweinyddiaeth.
Lefel 3:
- Cyflogaeth
- Prentisiaethau Uwch mewn Rheoli/Rheoli Prynu a Chyflenwi.
- Ar ôl cael rhagor o hyfforddiant a datblygiad: Gradd Sylfaen mewn logisteg, cynllunio trafnidiaeth, gweithrediadau logisteg a gweinyddiaeth.
- Rhaglenni Addysg Uwch fel Logisteg a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi, Busnes a Rheoli.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif yn y llwybr o'ch dewis.
Lefel 3: Diploma yn y llwybr o'ch dewis
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Gall ymgeiswyr ddod o lwybrau amrywiol gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos eu bod wedi cyflawni rhai o'r Sgiliau Hanfodol neu'r Sgiliau Allweddol Ehangach
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu ar gyfer Busnes Manwerthu sy'n cynnwys logisteg a chymhwyster/cymwysterau galwedigaethol neu academaidd yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi.
Lefel 2:
Llwybr 1: RHAID cael Trwydded Categori A (Beic Modur) i ymgymryd â'r opsiwn Beic Modur gan nad yw'r drwydded yn cael ei hariannu fel rhan o'r fframwaith hwn.
Llwybr 2: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) gan nad yw'r drwydded yn cael ei hariannu fel rhan o'r fframwaith.
Llwybr 3: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) a bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Llwybr 4: RHAID cael Trwydded Categori C (Trwydded Cerbydau Un Cymal) o leiaf i ddechrau hyfforddiant LGV.
Lefel 3
Lefel 3:
Llwybr 1: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) gan nad yw'r drwydded yn cael ei hariannu fel rhan o'r fframwaith.
Llwybr 2: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) Lawn gan na fydd modd ymgymryd â hyfforddiant LGV. Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Llwybr 3: RHAID cael Trwydded Categori C (Trwydded Cerbydau Un Cymal) o leiaf i ddechrau'r hyfforddiant LGV ychwanegol.
Llwybr 4: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) gan nad yw'r drwydded yn cael ei hariannu fel rhan o'r fframwaith.
Llwybr 5: RHAID cael Trwydded Categori B (Car) Lawn gan na fydd modd ymgymryd â hyfforddiant LGV. Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Llwybr 6: RHAID cael Trwydded Categori C (Trwydded Cerbydau Un Cymal) o leiaf gan na fydd modd ymgymryd â hyfforddiant LGV ychwanegol.
Gweld llwybr llawn