Mae Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Cerbydau, Cludiant a Logisteg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 29/01/2018 ACW Framwaith Rhif. FR04218
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credydau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer:
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic - 48 credyd.
Lefel 2: Gyrrwr Fan - 46 credyd.
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg - 46 credyd.
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu - 46 credyd.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic/Gyrrwr Fan/Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg /Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio ym maes trafnidiaeth ffyrdd ac yn y sector logisteg. Rhaid iddynt fod yn barod i dreulio nosweithiau oddi cartref a gallu cadw amser yn dda. Mae gan gyflogwyr ddiddordeb hefyd mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y Brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt. Bydd ymgeiswyr yn amrywio o ran oedran a phrofiad.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith neu brofiad gwaith
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud
- unrhyw un o'r Sgiliau Hanfodol neu Sgiliau Allweddol Ehangach
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys y Cymhwyster Prif Ddysgu ar gyfer Busnes Manwerthu sy'n cynnwys logisteg a'r gadwyn gyflenwi
- cymhwyster/cymwysterau galwedigaethol neu academaidd
Yn ogystal â'r amodau mynediad cyffredinol:
Cludwr Beic Modur/Beic - RHAID i Brentisiaid Sylfaen fod â Thrwydded Categori A (Beic Modur) cyn iddynt ddechrau ar y llwybr hwn os ydynt yn dymuno ymgymryd â'r opsiwn Beiciau Modur gan nad yw hyn yn cael ei ariannu fel rhan o'r llwybr hwn.
Gyrrwr Fan - RHAID i Brentisiaid Sylfaen fod â Thrwydded Categori B (Car) cyn iddynt ddechrau ar y llwybr hwn, gan nad yw hyn yn cael ei ariannu fel rhan o'r Llwybr.
Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg - Mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol i brentisiaid sy'n dymuno gyrru Cerbyd Nwyddau Mawr (LGV). RHAID i brentisiaid fod â Thrwydded Categori B (Car) cyn iddynt ddechrau ar y llwybr hwn, gan na fyddant yn gallu ymgymryd â hyfforddiant LGV hebddi. Yr isafswm oedran ar gyfer gyrru Cerbyd Nwyddau Mawr yw 18 oed.
Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu - RHAID i brentisiaid fod â Thrwydded Categori C (Trwydded Cerbyd Anhyblyg) o leiaf cyn iddynt ddechrau ar y llwybr hwn, gan na fyddant yn gallu dechrau'r hyfforddiant LGV ychwanegol hebddi.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic Cymwysterau
Defnyddir yr un cymhwyster cyfun ym mhob un o'r llwybrau, ond mae'r Atodiad yn nodi'r unedau perthnasol
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster Cyfun isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cludwr Beic Modur/Beic | 129 | 240 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
31 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth gyda'i gilydd
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Cludwr Beic Modur/Beic yw 369.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Gyrrwr Fan
Lefel 2: Gyrrwr Fan Cymwysterau
Defnyddir yr un cymhwyster cyfun ym mhob un o'r llwybrau, ond mae'r Atodiad yn nodi'r unedau perthnasol
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gyrrwr Fan | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gyrrwr Fan | 129 | 240 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
29 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth gyda'i gilydd
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gyrrwr Fan yw 369.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg Cymwysterau
Defnyddir yr un cymhwyster cyfun ym mhob un o'r llwybrau, ond mae'r Atodiad yn nodi'r unedau perthnasol
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg | 169 | 240 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
29 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth gyda'i gilydd
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg yw 409.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu Cymwysterau
Defnyddir yr un cymhwyster cyfun ym mhob un o'r llwybrau, ond mae'r Atodiad yn nodi'r unedau perthnasol
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu | 169 | 240 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
29 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth gyda'i gilydd
Cyfanswm yr oriau dysgu sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu yw 409.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/55 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2 - Cludwr Beic Modur/Beic/Gyrrwr Fan/Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg/Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu
Prentisiaethau Sylfaen/Prentisiaethau mewn unrhyw un o'r canlynol:
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Tîm
- Prentisiaeth y Swyddfa Draffig
- Prentisiaeth Gweithrediadau Logisteg
- Prentisiaeth Gyrru Cerbydau Nwyddau
I mewn i swydd fel gyrrwr neu gyda datblygiad a hyfforddiant pellach e.e. rhaglen ddatblygu fewnol neu allanol (DPP) wedi'i hachredu neu heb ei hachredu i'r swyddi canlynol ar lefel 3:
- Rheolwr Cludiant
- Rheolwr y Swyddfa Draffig
Ar ôl hyfforddiant a datblygiad pellach i'r rhai sy'n dewis gwneud hynny:
- Gradd sylfaen mewn logisteg, cynllunio cludiant, gweithrediadau logisteg a gweinyddu.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r sector Logisteg ac, er gwaethaf cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw menywod, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl ag anhawster dysgu neu anabledd yn cael eu denu i'r sector. Mae pobl yn dueddol o feddwl mai swyddi ar gyfer dynion sydd ar gael yn y Diwydiant Cludiant ar y Ffordd ac mae'r ffaith bod y gweithlu cyfredol yn heneiddio’n rhoi cyfle i ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr i lenwi'r rolau gyrru hyn. Mae ymwybyddiaeth o Logisteg fel proffesiwn yn cael ei chodi drwy Gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Busnes Manwerthu, sydd â chynnwys logisteg, yn ogystal â thrwy daflenni hyrwyddo wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion. Bydd y camau hyn yn dechrau newid canfyddiadau pobl ac yn helpu i hyrwyddo'r ystod o swyddi mewn logisteg. Ystyrir bod prentisiaethau'n ffordd hanfodol o annog a hwyluso mwy o amrywiaeth o unigolion i mewn i'r diwydiant ac mae cynlluniau gweithredu ar waith i gynyddu nifer y prentisiaethau o leiaf 10% bob blwyddyn. Mae'r camau i gynyddu’r nifer o bobl sy’n dod i mewn i’r sector a chynyddu amrywiaeth yn y gweithlu Logisteg yn cynnwys:
Mae Skills for Logistics yn disgwyl i ddarparwyr gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r sector a dyrchafiad o fewn y sector. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1: Cludwr Beic Modur/Beic - Lefel 2
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, ac asesir y rhain ar wahân.
Cyfanswm y credydau ar gyfer y llwybr cymhwyster cyfun hwn yw 29, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Paratoi'r cerbyd ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r cerbyd a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gweithredu a monitro systemau'r cerbyd (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Symud y cerbyd mewn mannau cyfyngedig (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Cael gwybodaeth am gasglu a/neu gludo llwythi (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 1 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Gyrru'r cerbyd ar ffyrdd cyhoeddus mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Gyrru'r cerbyd ar ffyrdd preifat mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 2 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei lwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Llwytho'r cerbyd yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 3 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei ddadlwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Dadlwytho'r cerbyd yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 4 (o leiaf 5 credyd o'r grŵp hwn)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Ymdrin â thrafodion taliadau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cynllunio'r llwybr a'r amseriadau ar gyfer casglu a chyflenwi nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
Atodiad 2 – Gyrrwr Fan - Lefel 2
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, ac asesir y rhain ar wahân.
Cyfanswm y credydau ar gyfer y llwybr cymhwyster cyfun hwn yw 29, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Paratoi'r fan ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r fan a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gweithredu a monitro systemau'r fan (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Symud y fan mewn mannau cyfyngedig (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Cael gwybodaeth am gasglu a/neu gludo llwythi (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 1 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Gyrru'r fan ar ffyrdd cyhoeddus mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Gyrru'r fan ar ffyrdd preifat mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 2 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y fan yn cael ei llwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Llwytho'r fan yn gywir (3 chredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 3 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y fan yn cael ei dadlwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Dadlwytho'r fan yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 4 (o leiaf 5 credyd o'r grŵp hwn)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Ymdrin â thrafodion taliadau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cynllunio'r llwybr a'r amseriadau ar gyfer casglu a chyflenwi nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth).
Atodiad 3 Gyrrwr Cerbyd Anhyblyg - Lefel 2
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, ac asesir y rhain ar wahân.
Cyfanswm y Credydau ar gyfer y llwybr cymhwyster cyfun hwn yw 29, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Paratoi'r cerbyd anhyblyg ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r cerbyd anhyblyg a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gweithredu a monitro systemau'r cerbyd anhyblyg (2 gredyd ar gyfer cymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Symud y cerbyd anhyblyg mewn mannau cyfyngedig (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Cael gwybodaeth am gasglu a/neu gludo llwythi (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 1 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Gyrru'r cerbyd anhyblyg ar ffyrdd cyhoeddus mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Gyrru'r cerbyd anhyblyg ar ffyrdd preifat mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 2 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd anhyblyg yn cael ei lwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Llwytho'r cerbyd anhyblyg yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 3 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd anhyblyg yn cael ei ddadlwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Dadlwytho'r cerbyd anhyblyg yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 4 (o leiaf 5 credyd o'r grŵp hwn)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Ymdrin â thrafodion taliadau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cynllunio'r llwybr a'r amseriadau ar gyfer casglu a chyflenwi nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Cysylltu a datgysylltu cynwysyddion a osodir ar gerbydau anhyblyg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cyplu a dadgyplu'r cerbyd anhyblyg (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Asesiadau ar ôl Prawf Gyrru
Ar gyfer Prentisiaid sy'n ennill eu trwydded Categori C fel rhan o'r llwybr hwn, bydd dau asesiad ar ôl prawf y gyrru.
Atodiad 4 Gyrrwr Cerbyd Cymalog/Bar Tynnu -Lefel 2
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Dystysgrif mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau ar Lefel 2 yn gymhwyster cyfun sy'n ymgorffori cymhwysedd a gwybodaeth, ac asesir y rhain ar wahân.
Cyfanswm y credydau ar gyfer y llwybr cymhwyster cyfun hwn yw 29, sy'n cynnwys:
Unedau Gorfodol
- Paratoi'r cerbyd cymalog/bar tynnu ar gyfer gyrru (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Diogelu'r cerbyd cymalog/bar tynnu a'r llwyth (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Gweithredu a monitro systemau'r cerbyd cymalog/bar tynnu (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Symud y cerbyd cymalog mewn mannau cyfyngedig (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Cael gwybodaeth am gasglu a/neu gludo llwythi (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 1 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Gyrru'r cerbyd cymalog/bar tynnu ar ffyrdd cyhoeddus mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Gyrru'r cerbyd cymalog/bar tynnu ar ffyrdd preifat mewn modd diogel ac effeithlon o ran tanwydd (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 2 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd cymalog/bar tynnu yn cael ei lwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
- Llwytho'r cerbyd cymalog/bar tynnu yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd a 2 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 3 (1 uned o'r grŵp hwn)
- Sicrhau bod y cerbyd cymalog/bar tynnu yn cael ei ddadlwytho'n gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Dadlwytho'r cerbyd cymalog/bar tynnu yn gywir (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Grŵp Unedau Dewisol 4 (o leiaf 5 credyd o'r grŵp hwn)
- Gwneud cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg (0 credyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg (0 credyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Ymdrin â thrafodion taliadau mewn gweithrediadau logisteg (1 credyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cynllunio'r llwybr a'r amseriadau ar gyfer casglu a chyflenwi nwyddau (3 chredyd am gymhwysedd a 3 am wybodaeth)
- Cysylltu a datgysylltu cynwysyddion a osodir ar gerbydau cymalog/bar tynnu (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
- Cysylltu a datgysylltu’r cynwysyddion a osodir ar gerbydau cymalog/bar tynnu (2 gredyd am gymhwysedd ac 1 am wybodaeth)
Asesiadau ar ôl Prawf Gyrru
Ar gyfer Prentisiaid sy'n ennill eu trwydded Categori CE fel rhan o'r llwybr hwn, bydd dau asesiad ar ôl prawf gyrru.