- Framework:
- Coed a Phren
- Lefel:
- 2/3
Mae’r Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Coed a Phren seiliedig ar Waith yn cynnwys tri phrif ffrwd gwaith yn y diwydiant, Coedyddiaeth, Coetir Cyffredinol a Gwaith Coedwigaeth a Phrysgoedio a Masnachau Pren Gwyrdd.
Mae coedyddiaeth a choedwigaeth yn ymwneud â gweithio gydag ac o gwmpas coed. Mae coedwigoedd a choetiroedd yn adnoddau pren, amwynderau a hamdden, twristiaeth a bioamrywiaeth pwysig.
Mae coedwigaeth yn canolbwyntio ar reoli coedwigoedd a choetiroedd, gyda choedyddiaeth yn canolbwyntio ar drin, rheoli a gofalu am goed unigol, neu grwpiau o goed, gyda’r nod sylfaenol o’u cynnal a’u cadw at ddibenion amwynder.
Mae’r diwydiant yn un arbenigol iawn a gall y gwaith gynnwys gweithio gydag amrywiaeth helaeth o beiriannau, deunyddiau a chyfarpar; o blannu stoc a defnyddio cemegau i drin plâu a chlefydau i ddefnyddio llif gadwyn, cynaeafwyr a meddalwedd gyfrifiadurol. Felly, mae angen ystod eang o sgiliau a gwybodaeth gan fod amrywiaeth sylweddol o swyddi a thasgau sydd angen eu cyflawni.
Yn aml, ar ôl cymhwyso bydd gofyn i chi weithio ar eich pen eich hun neu mewn timau bach yn y maes, ac mae hyn yn gofyn am wybodaeth dda am ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ac o bolisïau gweithio ar eich pen eich hun.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Coed a Phren – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Cwympo Coed, Gweithiwr Coedwig, Tyfwyr Coed Sylfaenol (Lefel tir), Prysgoedio a Gweithiwr Crefft (Pren gwyrdd).
Coed a Phren – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Prif Goedwigwr Cynorthwyol, Contractwr (Cynaeafu a/neu Sefydlu), Coedwigwr Cymdeithasol, Goruchwylydd Coetir, Prysgoedio a (Pren gwyrdd), Goruchwylydd Crefftau a Swyddog Coedyddiaeth Cynorthwyol.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 – 24 mis
Lefel 3: 18 - 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth mewn Coed a Phren Lefel 3
- Cyrsiau Addysg Bellach fel:
- Tystysgrif/Diploma Lefel 3 mewn Coedwigaeth a BTEC Coedyddiaeth
- Diploma Estynedig lefel 4 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Cyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D, gan gynnwys:
- Gwyddorau Coedwig
- Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwigoedd
- Rheoli Coedwigaeth a Choetir
- Cadwraeth Coedwigaeth a Choetir
- Gwyddorau Ecolegol (Coedwigaeth)
- Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy
- Coedyddiaeth a Rheoli Coetiroedd Iseldir Coedwigaeth Drefol
- Tystysgrif Technegydd Lefel 4 mewn Coedyddiaeth
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma City & Guilds mewn Coed a Phren seiliedig ar Waith
Lefel 3: Diploma City & Guilds mewn Coed a Phren seiliedig ar Waith
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Does dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Coed a Phren, ond mae cymwysterau a/neu brofiad a allai helpu dysgwyr cyn dechrau:
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir
- Tystysgrif /Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau ar y Tir
- Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir seiliedig ar Waith
Wedi gweithio’n flaenorol yn y diwydiant neu’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.
Profiad o wirfoddoli yn y diwydiant coed a phren
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Gweld llwybr llawn