Skip to main content

Llwybr

Coed a Phren

Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

DYDDIAD CYHOEDDI: 31/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FRO5038

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

59 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Coed a Phren.

60 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Coed a Phren.

Hyd y Brentisiaeth

Hyd y Brentisiaeth Sylfaen yw 18-24 mis (hyblyg) a'r

Brentisiaeth yw 18-24 mis (hyblyg)

Gofynion mynediad

Lefel 2: Coed a Phren

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Coed a Phren, fodd bynnag, ceir cymwysterau ac/neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr cyn dechrau:

  • Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir
  • Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir
  • Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir Seiliedig ar Waith
  • Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
  • Profiad o wirfoddoli o fewn y diwydiant coed a phren
  • TGAU

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.

Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol. 

Efallai y bydd rhai is-sectorau o'r diwydiant coed a phren na chaiff prentisiaid dan 18  weithio ynddynt, neu na fyddant yn cael defnyddio rhai mathau o offer oherwydd deddfwriaeth.

Lefel 3: Coed a Phren

Mae'r diwydiant coed a phren am i ofynion mynediad y Brentisiaeth fod yn hyblyg, a allai gynnwys y canlynol:

  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Coed a Phren
  • Diploma Lefel 2 mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith
  • NVQ Lefel 2 mewn Coedwigaeth neu Goedyddiaeth
  • Dyfarniad Lefel 2 ar gyfer Gweithiwr Tir Uwch (Torri coed unigol sydd wedi codi o'u gwreiddiau
  • ac amryw o goed sydd wedi chwythu drosodd)
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Technegau i Ymdrin â Choed wedi'u Difrodi
  • Cymhwyster Lefel 2 arall addas
  • Profiad ymarferol o fewn y diwydiant coed a phren
  • 3 TGAU (A* -C) / Safon Uwch yn ogystal â phrofiad ymarferol o fewn y diwydiant Coed a Phren

Dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru neu Lwybrau i Brentisiaethau Efallai y byddant wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol lle bo'n briodol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Coed a Phren

Lefel 2: Coed a Phren Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Lefel 2 Diploma mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0523/3 600/7616/1 37 370 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 2 Dyfarniad mewn Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tir
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0284/6 500/9311/3 10 100 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 2 Tystysgrif mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0283/4 500/8552/9 15 150 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Coed a Phren Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Coed a Phren 1292 323
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

59 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Coed a Phren

Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 2422 o oriau ar gyfer 18 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Lefel 2: Coed a Phren

Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mae’r diwydiant Coed a Phren wedi gofyn am gwblhau tri o’r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol canlynol, un Gorfodol a dau Ddewisol. 

Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella’r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol ar gyfer ardystiad ac efallai na fyddant yn cael eu cyllido.

Gorfodol:

  • Cymorth Cyntaf Coedwigaeth (4 diwrnod)

Dau arall o blith profion galwedigaethol achrededig, deddfwriaethol neu a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n berthnasol i’r diwydiant (rhestr awgrymedig isod):

  • Codi a Chario

  • Naddwr prysglwyni

  • Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel – Llif gadwyn a gweithrediadau cysylltiedig

  • Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR)

Argymelledig ond nid gorfodol:

  • Iechyd a Llesiant

  • Gofal Bugeiliol

  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl/ Cyflwyniad i Iechyd Meddwl)

Rolau swydd

Mae'r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel 2: Coed a Phren

Gweithiwr Coedwig

Torrwr Coed

Tyfwr Coed Lefel Sylfaen (Gweithiwr daear)

Gweithiwr Crefft Coedlannau (a Choedwigoedd)

Lefel 3: Coed a Phren

Prif Goedwigwr Cynorthwyol

Contractwr (Cynaeafu a/neu Sefydlu)

Coedwigwr Cymdeithasol

Goruchwyliwr Coetir

Goruchwylydd Crefft Coedlannau (a Choedwigoedd)

Swyddog Coedyddiaeth Cynorthwyol

Dilyniant

Lefel 2: Coed a Phren

Mae cyfleoedd i gamu ymlaen at y Brentisiaeth Sylfaen Coed a Phren yn bodoli ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion a chanddynt brofiad yn y diwydiant coed a phren neu sydd â’u bryd ar newid gyrfa.

Mae gan brentisiaid sy’n cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus gyfleoedd i gamu ymlaen yn y diwydiant trwy gamu ymlaen at y Brentisiaeth mewn Coed a Phren neu gyrsiau Addysg Bellach eraill megis:

  • Tystysgrif/Diploma Lefel 3 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth

  • Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth

  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol.

Bydd swyddi nodweddiadol y bydd prentisiaid yn gallu camu ymlaen atynt ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen yn dibynnu ar y cymwysterau a’r profiad a enillwyd, ond gallent gynnwys:

Gweithiwr Coedwig, Triniwr Coed Lefel Sylfaen (Gweithiwr tir), Gweithiwr Coedlannau a Chrefft (Glasgoed), Cwympwr Coed, Gweithredwr Peiriannau Coedwig, Gweithredwr Coedwig, Triniwr Coed

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Dynion yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant coed a phren (93%), sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd y dynion sy'n gweithio yn y sector, sef 68% (y DU) a chyfartaledd Cymru o 71%. Er nad yw'r diwydiant yn atal menywod rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae dynion yn gweithio ynddo yn bennaf yw coed a phren, er bod llawer o rolau yn y maes hwnnw yn cael eu cyflawni gan fenywod. Mae'n ddiddorol mai dynion yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig â Choed a Phren, sef cyfartaledd o 92% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 100%.

Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant

Efallai y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r diwydiant coed a phren, yn enwedig wrth ddringo coed neu weithio gyda chyfarpar a pheiriannau trwm. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli yn rhannau eraill o'r diwydiant.

Penderfyniadau a gwaith pellach:

Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma Coed a Phren Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, er mwyn sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Coed a Phren. Oherwydd natur amrywiol y sector Coed a Phren mae'r Diploma Coed a Phren Seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.

Bydd Lantra yn gweithio gyda'i Grŵp Diwydiant Coed a Phren i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad yn y diwydiant ymhlith menywod a phobl o gefndiroedd ethnig. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r Brentisiaeth Coed a Phren Lefel 2 a 3 drwy ymgyrchoedd penodol, gan ganolbwyntio ar grwpiau wedi'u tangynrychioli fel menywod. Cynyddu marchnata a chyfathrebu mwy i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod o yrfaoedd o fewn y sector, ac yn gysylltiedig â'r sector.
  • Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu cynghorwyr gyrfa a phrentisiaid ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant / y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

 


Diwygiadau dogfennau

03 Mai 2023  
19 Medi 2025 - By Wayne Scoberg   removed level 3 pathway as competence qualification had expired