- Framework:
- Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
- Lefel:
- 2
Mae cynorthwywyr nyrsio mewn amgylchedd milfeddygol yn cynorthwyo gyda gofal am anifeiliaid dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwysedig. Mae’r gwaith yn cynnwys rhoi gofal milfeddygol sylfaenol, gan gynnwys trafod anifeiliaid, cynnal a chadw eu llety, darparu bwyd a dŵr a chynorthwyo gyda thriniaethau milfeddygol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol - Lefel 2
Supports the role of a Nursing Assistant in a Veterinary Environment.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Anifeiliaid Anwes)
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Ceffylau)
Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol
Prentisiaeth mewn Gofal Anifeiliaid
Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid.
Cymwysterau
Diploma Lefel 2 CQ ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i gael eich derbyn i Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol. Fodd bynnag, mae'r diwydiant yn argymell yn fawr y dylid bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol a ganlyn:
3 TGAU gradd D (neu 3) o leiaf, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyfatebol
Yn ogystal â hyn, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
Profiad o wirfoddoli mewn amgylchedd gofal anifeiliaid milfeddygol a reoleiddir, neu amgylchedd arall priodol.
Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
Diploma Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
Tystysgrif Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
Dyfarniad Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
NVQ Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Gofal Anifeiliaid
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
Gweld llwybr llawn