Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/03/2021 ACW Fframwaith Rhif. FR05013
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Cynorthwywyr Nyrsio mewn
Amgylchedd Milfeddygol (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw: 71 credyd
Credydau isafswm yw'r gwerthoedd credyd a nodir yn y ddogfen hon. Fodd bynnag, efallai y bydd ystod o gredydau ar gael sy'n uwch na'r isafswm hwn, yn dibynnu ar y cymhwyster ac ar yr unedau/y llwybrau dewisol a ddewisir yn unol â chanllawiau'r sefydliad dyfarnu perthnasol.
HYD
Lefel 2: Isafswm o 12 mis (hyblyg)
Gofynion mynediad
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i gael eich derbyn i Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol. Fodd bynnag, mae'r diwydiant yn argymell yn fawr y dylid bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol a ganlyn:
- 3 TGAU gradd D (neu 3) o leiaf, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyfatebol
Yn ogystal â hyn, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Profiad o wirfoddoli mewn amgylchedd gofal anifeiliaid milfeddygol a reoleiddir, neu amgylchedd arall priodol.
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- Diploma Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
- NVQ Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Gofal Anifeiliaid
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Anifeiliaid Bach Ymarferol
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Mae cyfleoedd i gwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad yn y diwydiant gofal milfeddygol, neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:
Lefel 2 Diploma City & Guilds ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0313/4 600/0106/9 | 53 | 530 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma CQ ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Central Qualifications | C00/0583/8 600/9504/0 | 57 | 570 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg (isafswm o 12 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas/hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
53 credyd/530 o oriau TQT am Ddiploma Lefel 2 City & Guilds ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol
neu 57 credyd/570 o oriau TQT ar gyfer Diploma Lefel 2 CQ ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
- Iechyd Meddwl
Rolau swydd
Cynorthwyydd Gofal Milfeddygol/Cynorthwyydd Nyrsio Anifeiliaid
Mae cynorthwywyr nyrsio mewn amgylchedd milfeddygol yn helpu i ofalu am anifeiliaid o dan gyfarwyddyd staff milfeddygol cymwysedig. Mae'r gwaith yn cynnwys rhoi gofal milfeddygol sylfaenol, gan gynnwys trafod anifeiliaid, cynnal eu llety, darparu bwyd a dŵr a chynorthwyo gyda thriniaethau milfeddygol
Dilyniant
Lefel 2: Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2, efallai y bydd Prentisiaid yn gallu symud ymlaen i fod yn fyfyriwr nyrsio milfeddygol, yn amodol ar fodloni'r gofynion cofrestru a osodir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio Milfeddygol. Mae'n bosibl y ceir cyfle i symud ymlaen i'r canlynol:
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Anifeiliaid Anwes)
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau
- Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Ceffylau)
- Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol
- Prentisiaeth mewn Gofal Anifeiliaid
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid.
Ar gyfer prentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu sgiliau a chymwysterau y tu hwnt i Lefel 2, mae cyfleoedd ar gael i symud ymlaen ymhellach i gymwysterau Lefel 3 ac yna i Addysg Uwch drwy ddilyn Gradd Sylfaen/Gradd.
Efallai y bydd angen gofynion mynediad pellach ar gyfer rhai o'r cyfleoedd uchod, fel Sgiliau Hanfodol neu Weithredol Lefel 2 (Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif).
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar Brentisiaeth Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol neu fframwaith/llwybr/cymhwyster Lefel 3 o'ch dewis fewn y diwydiant.
Ceir rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant gweithgarwch milfeddygol ar wefan y BVNA www.bvna.org.uk
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol
Mae'n anodd rhoi ystadegau ar gyfer prentisiaid ar y llwybr Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol am eu bod yn croesi rhwng y diwydiant Nyrsio Milfeddygol a'r diwydiant Gofal Anifeiliaid.
Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg o'r ddau ddiwydiant yw mai menywod sy'n gweithio ynddynt yn bennaf, gyda 67% yn y diwydiant Gofal Anifeiliaid a thros 96% yn y diwydiant Nyrsio Milfeddygol, sydd yn sylweddol uwch na'r ganran o fenywod sy'n gweithio ym marchnad lafur y DU (47%), yn ogystal â chyfartaledd y sector tir lle mae 32% o fenywod (29% yw cyfartaledd Cymru)
Er nad yw'r diwydiant yn atal dynion rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae menywod yn gweithio ynddo yn bennaf yw gofal anifeiliaid, er bod dynion yn cyflawni llawer o rolau yn y ddau ddiwydiant.
Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus.
Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sy'n arddangos brwdfrydedd, a chanddynt sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol fel y gallu i weithio mewn tîm, cyrraedd yn brydlon a sgiliau cyfathrebu.
Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant, ond mae'n bosibl y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o rôl y cynorthwyydd nyrsio, yn enwedig wrth drafod a gweithio gydag anifeiliaid. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i bobl ag anabledd corfforol weithio yn rhan arall o'r diwydiant.
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr pwysig i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant.
Penderfyniadau a gwaith pellach
Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y cymwysterau cymhwysedd mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau yn y byd Ceffylau.
Mae Lantra yn gweithio gyda'r diwydiant gofal anifeiliaid a'r diwydiant gweithgarwch milfeddygol i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i'r angen i gynyddu amrywiaeth o fewn y diwydiant. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:
Marchnata a chyfathrebu i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd ac i grwpiau targed.
Mae'r diwydiant hefyd yn teimlo y gallai fod angen cymryd mwy o gamau ar y cyd â'r proffesiwn milfeddygol i ymgorffori'r rôl hon ymhlith y staff mewn clinig neu loches, a thrwy gynnig gwerth pellach i'r rôl hon, a helpu unrhyw un sy'n chwilio am brofiad gwaith i ddeall y gwaith o fewn practis milfeddygol.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Dylid cynnal CHC yn ystod y rhaglen sefydlu, edrych arno eto yn rheolaidd a'i gofnodi.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Cynorthwywyr Nyrsio mewn Amgylchedd Milfeddygol - Lefel 2
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae dau gymhwyster cyfun ar gael, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 2 City & Guilds ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol
600/0106/9 / C00/0313/4 53 credyd 530 o oriau TQT 398 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds), a byddant yn creu cyfanswm o 53 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Defnyddir aseiniadau i asesu'r unedau. Mae pob aseiniad yn cynnwys cyfres o restrau gwirio marcio ymarferol ac astudiaethau achos sy'n asesu elfennau cymhwysedd y cymhwyster, y dylid eu cwblhau a'u cadw mewn portffolio o dystiolaeth, a nifer o dasgau sy'n asesu elfennau gwybodaeth y cymhwyster, fel tasgau ysgrifenedig.
Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Unedau gwybodaeth
- 201 - Egwyddorion ac arferion trafod a gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd milfeddygol (8 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 202 - Egwyddorion ac arferion cynorthwyo i ofalu mewn amgylchedd milfeddygol (11 o 21 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- 203 - Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd gofal milfeddygol (8 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Diploma Lefel 2 CQ ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
600/9504/0 / C00/0583/8 57 credyd 570 o oriau TQT 468 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (Central Qualifications), a byddant yn creu cyfanswm o 57 credyd. Defnyddir aseiniadau, arholiadau theori a phortffolio Cofnod Sgiliau Canolog i asesu'r unedau.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (Central Qualifications) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
- F/502/1689 - Cynnal a datblygu perfformiad personol (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- H/502/6951 - Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol mewn amgylchedd gofal milfeddygol (10 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- A/502/7622 - Anatomeg a ffisioleg anifeiliaid anwes (5 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- M/502/6953 - Egwyddorion ac arferion wrth drafod a gofalu am anifeiliaid mewn amgylchedd milfeddygol (7 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- M/502/7620 - Egwyddorion rheoli heintiau ar gyfer cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
- L/ 504/1900 - Egwyddorion cefnogi gofal nyrsio milfeddygol ar gyfer anifeiliaid yn yr ysbyty (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)