Skip to main content

Pathway summary

Garddwriaeth

Framework:
Garddwriaeth
Lefel:
2/3/4

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn yr awyr agored, os ydych yn mwynhau gweithio gyda phlanhigion neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal a chadw tiroedd sy'n cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon a/neu hamdden, gallai garddwriaeth fod yn yrfa addas i chi.

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant eang ac amrywiol y gellir ei rannu'n bedwar prif faes. Mae'n cynnwys llawer o agweddau gwahanol ar weithio ar y tir a'i gynnal, at ddibenion pleser, hamdden a bwyd.

1. Tirweddu

2. Garddwriaeth cynhyrchu

3. Cynnal a chadw tiroedd chwaraeon a meysydd golff 

4. Parciau, gerddi a mannau gwyrdd

Mae llawer o wahanol fathau o swyddi ar gael ym maes garddwriaeth, er enghraifft, gallech fod yn arddwr sy'n tyfu ac yn gofalu am blanhigion, neu'n ofalwr y grin sy'n gofalu am diroedd penodol, neu'n rheolwr cynhyrchu sy'n cynhyrchu salad a ffrwythau at ddibenion manwerthu.

Pathway options and levels

Garddwriaeth - Lefel 2

Addas ar gyfer swyddi Garddwr, Tirluniwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Gweithiwr Mynwentydd, Gofalwr y Grin a Gofalwr Tir.  

Garddwriaeth - Lefel 3

Addas ar gyfer swyddi Technegydd Garddwriaethol, Dirprwy Brif Ofalwr y Grin, Dirprwy Brif Ofalwr Tir, Dylunydd Gerddi, Uwch Arddwr, Garddwr (Hanesyddol a Botaneg) a Swyddog Parciau. 

Garddwriaeth - Lefel 4

Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Cwrs Golff, Rheolwr Tirlunio, Prif Arddwr, Rheolwr Planhigfa a Rheolwr Cynhyrchu.

Further information

Duration

Lefel 2: 12-24 mis

Lefel 3: 20-30 mis 

Lefel 4: 24-36 mis 

Progression routes

Lefel 2

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Diploma/Prentisiaeth Lefel 3.

Lefel 3

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Cyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D
  • Diploma/Prentisiaeth Lefel 4.

Lefel 4

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Cyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D.

Cymwysterau

Lefel 2:   Diploma mewn Garddwriaeth seiliedig ar Waith

Lefel 3:   Diploma mewn Garddwriaeth seiliedig ar Waith

Lefel 4:   Diploma mewn Garddwriaeth seiliedig ar Waith

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 2

Lefel 2: Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Garddwriaeth, ond mae diddordeb cryf yn y sector ac ymrwymiad iddo yn hanfodol er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.

Hefyd, bydd rhai cymwysterau a chyrsiau yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau:

  • Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir
  • Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth
  • Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth seiliedig ar Waith
  • NVQ Lefel 1 mewn Garddwriaeth Amwynderau/Cynhyrchu
  • Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol
  • Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith
  • Dyfarniad Rhagarweiniol RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol
  • Dyfarniad RHS Lefel 1 mewn Garddwriaeth Ymarferol
  • Cymwysterau TGAU/Safon Uwch 

Lefel 3

Lefel 3: Mae diddordeb cryf yn y sector ac ymrwymiad iddo yn hanfodol er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.

Argymhellir profiad ymarferol o'r diwydiant Garddwriaeth ar y lefel hon.

Hefyd, bydd rhai cymwysterau a chyrsiau yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau, gan gynnwys:

  • Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth seiliedig ar Waith
  • NVQ Lefel 2 mewn Garddwriaeth Amwynderau/Cynhyrchu
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol
  • Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth
  • Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 2 mewn Rheoli Tir Chwaraeon ac Amwynderau
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddio
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Dylunio Gerddi
  • Tystysgrif RHS Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol
  • Diploma RHS Lefel 2 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth
  • RHS Lefel 2 mewn Egwyddorion Twf, Lledaeniad a Datblygiad Planhigion
  • RHS Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynllunio, Sefydlu a Chynnal a Chadw Gerddi
  • Tystysgrif RHS Lefel 2 mewn Egwyddorion Garddwriaeth
  • 3 chymhwyster TGAU (A*-C)/Safon Uwch

Lefel 4

Lefel 4: Mae diddordeb cryf yn y sector ac ymrwymiad iddo yn hanfodol er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.

Argymhellir profiad ymarferol o'r diwydiant Garddwriaeth ar y lefel hon.

Mae'r diwydiant Garddwriaeth yn awyddus i sicrhau bod y gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:

Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith

NVQ Lefel 3 mewn Garddwriaeth Amwynderau/Cynhyrchu

Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol

Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth

Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Tir Chwaraeon ac Amwynderau

Tystysgrif Lefel 3 mewn Garddio

Tystysgrif Lefel 3 mewn Dylunio Gerddi

Tystysgrif RHS Lefel 3 mewn Garddwriaeth Ymarferol

Diploma RHS Lefel 3 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth

RHS Lefel 3 mewn Egwyddorion Twf, Lledaeniad a Datblygiad Planhigion

RHS Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynllunio, Sefydlu a Chynnal a Chadw Gerddi

2 gymhwyster Safon UG/Safon Uwch

View full pathway

Document revisions

12 Tachwedd 2021