Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 31/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FR05036
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
49 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Garddwriaeth.
69 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Garddwriaeth.
Hyd y Brentisiaeth
Hyd y Brentisiaeth Sylfaen yw 18-24 mis (hyblyg), hyd y Brentisiaeth yw 20
-30 mis (hyblyg) a hyd y Brentisiaeth Uwch yw 24-36 mis (hyblyg).
Gofynion mynediad
Lefel 2: Garddwriaeth
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Garddwriaeth, ond mae'n hanfodol bod â diddordeb cryf yn y sector, ac ymroddiad cryf iddo, er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Yn ogystal â hyn, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir
- Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth
- Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith
- NVQ Lefel 1 mewn Garddwriaeth Amwynder / Cynhyrchu
- Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol
- Dyfarniad/Tystysgrif/Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau Tir Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad Rhagarweiniol yr RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol
- Dyfarniad Lefel 1 yr RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol
- TGAU/Safon Uwch
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.
Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Lefel 3: Garddwriaeth
Mae diddordeb cryf yn y sector, ac ymroddiad cryf iddo, yn hollbwysig er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Argymhellir profiad ymarferol o fewn y diwydiant Garddwriaeth ar y lefel hon.
Yn ogystal â hyn, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith
- NVQ Lefel 2 mewn Garddwriaeth Amwynder / Cynhyrchu
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol
- Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth
- Tystysgrif Estynedig Lefel 2 BTEC mewn Rheoli Glaswellt Chwaraeon ac Amwynder
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddio
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Dylunio Gardd
- Tystysgrif Lefel 2 yr RHS mewn Garddwriaeth Ymarferol
- Diploma Lefel 2 yr RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth
- Lefel 2 yr RHS Egwyddorion Tyfu, Lluosogi a Meithrin Planhigion
- Lefel 2 yr RHS Egwyddorion Cynllunio, Sefydlu a Chynnal Gardd
- Tystysgrif Lefel 2 yr RHS mewn Egwyddorion Garddwriaeth
- 3 TGAU (A*-C)/Safon Uwch
Dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru neu Lwybrau i Brentisiaethau Efallai y byddant wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol lle bo'n briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Garddwriaeth
Lefel 2: Garddwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 2 Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0622/0 601/2631/0 | 37 | 370 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Garddwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Garddwriaeth | 1292 | 323 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
37 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 1615 o oriau ar gyfer 12 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Garddwriaeth
Lefel 3: Garddwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0110/0 500/6255/4 | 57 | 570 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Garddwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Garddwriaeth | 1292 | 323 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
57 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 3 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 2692 o oriau ar gyfer 20 mis a 4037 o oriau ar gyfer 30 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Garddwriaeth
Lefel 4: Garddwriaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 4 Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/4264/2 | 80 | 800 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Garddwriaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Garddwriaeth | 1292 | 323 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
80 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Gan fod hyd y Brentisiaeth Uwch yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 3230 o oriau ar gyfer 24 mis a 4845 o oriau ar gyfer 36 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Lefel 2: Garddwriaeth Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen, mae'r diwydiant Garddwriaeth wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau tri o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae un ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido. Gorfodol:
Wedi'u hargymell ond heb fod yn orfodol:
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Garddwriaeth Ar gyfer y Brentisiaeth, mae'r diwydiant Garddwriaeth wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau tri o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae un ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido. Sylwer: Os yw prentis eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2, argymhellir y dylai ddilyn cyrsiau gwahanol. Gorfodol:
arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):
Wedi'u hargymell ond heb fod yn orfodol:
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Garddwriaeth Ar gyfer y Brentisiaeth Uwch, mae'r diwydiant Garddwriaeth wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau un Gofyniad Cyflogaeth Ychwanegol Gorfodol. Bydd y gofyniad cyflogaeth ychwanegol hwn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido. Sylwer: Os yw prentis eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 ac/neu 3, argymhellir y dylai ddilyn cyrsiau gwahanol. Gorfodol:
Wedi'u hargymell ond heb fod yn orfodol:
|
Rolau swydd
Mae'r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys:
Lefel 2: Garddwriaeth
Garddwr
Tirluniwr
Gweithiwr Planhigfa
Gweithiwr Cynhyrchu
Llysiau a Ffrwythau
Gweithiwr Mynwentydd
Gofalwr Grîn
Tirmon
Lefel 3: Garddwriaeth
Technegydd Garddwriaethol
Dirprwy Bennaeth
Gofalwr Grîn
Dirprwy Bennaeth
Tirmon
Dylunydd Gardd
Uwch Arddwr
Garddwr (Hanesyddol a
Botaneg)
Swyddog Parciau
Lefel 4: Garddwriaeth
Rheolwr Cwrs Golff
Rheolwr Tirwedd
Prif Arddwr
Rheolwr Planhigfa
Rheolwr Cynhyrchu
Dilyniant
Mae'r diwydiant Garddwriaeth yn rhoi gwerth ar y Brentisiaeth Sylfaen fel llwybr mynediad i'r sector. Yng Nghymru, mae'r diwydiant hefyd wedi datblygu'r Brentisiaeth Uwch i gynnig cyfleoedd am ddilyniant er mwyn sicrhau dyfodol y sgiliau a'r wybodaeth o fewn y diwydiant.
Lefel 2: Garddwriaeth
Ceir cyfleoedd am ddilyniant i'r Brentisiaeth Sylfaen Garddwriaeth hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o'r diwydiant Garddwriaeth, neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Garddwriaeth
I brentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i Ddiploma Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith, byddai cyfle hefyd i symud ymlaen i yrfaoedd eraill cysylltiedig, fel cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, manwerthu planhigion, garddio.
Lefel 4: Garddwriaeth
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch eraill, fel HNC/D.
Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a y Deyrnas Unedig:
- Garddwriaeth
- Garddwriaeth Gymhwysol
- Gwyddor Planhigion
- Dylunio Gardd
- Dylunio Tirwedd a Gardd
Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Dynion yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant Garddwriaeth (73%), sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd y dynion sy'n gweithio yn y sector, sef 68% (y DU) a chyfartaledd Cymru o 71%. Er nad yw'r diwydiant yn atal menywod rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae dynion yn gweithio ynddo yn bennaf yw garddwriaeth, er bod llawer o rolau yn y maes hwnnw yn cael eu cyflawni gan fenywod. Mae'n ddiddorol mai dynion yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig â Garddwriaeth, sef cyfartaledd o 70% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 97%.
Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Mae ymchwil Lantra yn rhagweld y bydd cynnydd yn y galw am weithwyr Garddwriaeth dros y degawd nesaf.
Mae busnesau mewn Garddwriaeth yn amrywio'n fawr, gan ei fod yn ddiwydiant mor amrywiol, wedi'i rannu'n 2 brif faes - amwynder a garddwriaeth cynhyrchu. Mae'r diwydiant yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd, fel tirlunio, cynnal caeau chwaraeon a meysydd golff, gerddi botaneg a threftadaeth preifat, tir masnachol, parciau cyhoeddus a llecynnau glas, canolfannau garddio a phlanhigfeydd.
Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant Efallai y ceir rhai cyfyngiadau ffisegol yn rhannau o'r diwydiant garddwriaeth, yn enwedig wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau trwm. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli yn rhannau eraill o'r diwydiant.
Penderfyniadau a gwaith pellach:
Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma Garddwriaeth Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Garddwriaeth. Oherwydd natur amrywiol y sector Garddwriaeth mae'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu datblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.
Bydd Lantra yn gweithio gyda'r diwydiant Garddwriaeth i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad yn y diwydiant ymhlith menywod a phobl o gefndiroedd ethnig. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o'r Brentisiaeth Garddwriaeth drwy ymgyrchoedd penodol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar grwpiau wedi'u tangynrychioli, menywod ac ati. Cynyddu marchnata a chyfathrebu mwy i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod o yrfaoedd.
- Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu cynghorwyr gyrfa a phrentisiaid ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Annex 1 - Level 2: Horticulture
There is one qualification, Level 2 Diploma in Work-based Horticulture, which includes
both competence and knowledge.
The competence and knowledge elements will be achieved through completion of the
mandatory and optional units listed within the awarding organisation's (ABC Awards, C&G or
Highfield) guidance and will total a minimum of 37 credits, 10 of which will form the
knowledge element and be assessed via independent methods.
The competence units will be separately assessed to the knowledge units listed below.
The choice of knowledge units will depend on the role and workplace the apprentice is working in and will need to be agreed with the apprentice, employer and providers at the start of the programme.
Knowledge units:
- Monitoring and maintaining health and safety (2 credits knowledge)
- Maintain and develop personal performance (1 credit knowledge)
- Establishing and maintaining effective working relationship with others (1 credit knowledge)
- Levelling and preparing sites for landscaping (3 credits knowledge)
- Clearing horticultural and landscaping sites (1 credit knowledge)
- Establishing crops or plants in growing medium (2 credits knowledge)
- Preparing ground for seeding and planting (2 credits knowledge)
- Establishing plants and/or seeds in soil (2 credits knowledge)
- Maintain the health of sports turf (3 credits knowledge)
- Maintain the condition of sports turf surfaces (4 credits knowledge)
- Renovate and repair sports surfaces (2 credits knowledge)
- Prepare and excavate internment plots (Dig graves) (2 credits knowledge)
- Prepare, backfill and restore graves and internment plots (3 credits knowledge)
- Use and maintain non-powered and hand held powered tools and equipment (1credit knowledge)
- Use and maintain pedestrian controlled powered equipment (1 credit knowledge)
- Use and maintain ride-on powered equipment (2 credits knowledge)
- Monitor and report on the growth and development of crops and plants (2 credits knowledge)
- Remove unwanted plant growth to maintain development (3 credits knowledge)
- Carry out harvesting operations (2 credits knowledge)
- Plant nomenclature, terminology and identification (3 credits knowledge)
- Communicate information within the workplace (1 credit knowledge)
- Load and unload physical resources within the work area (1 credit knowledge)
- Prepare and operate a tractor and attachments (2 credits knowledge)
- Identify and report the presence of pests, diseases and disorders (2 credits knowledge)
Annex 2 - Level 3: Horticulture
There is one qualification, Level 3 Diploma in Work-based Horticulture, which includes both competence and knowledge.
The competence and knowledge elements will be achieved through completion of the mandatory and optional units listed within the awarding organisation's (ABC Awards or C&G) guidance and will total a minimum of 57 credits, 10 of which will form the knowledge element and be assessed via independent methods.
The competence units will be separately assessed to the knowledge units listed below.
The choice of knowledge units will depend on the role and workplace the apprentice is working in and will need to be agreed with the apprentice, employer and providers at the start of the programme.
Knowledge units:
- Promote, monitor, and maintain health and safety and security (3 credits knowledge)
- Specify the maintenance of landscapes (3 credits knowledge)
- Plan and manage the control of pests, diseases and disorders (2 credits knowledge)
- Estimate and programme resource requirements for landscaping (3 credits knowledge)
- Manage your own resources (2 credits knowledge)
- Monitor landscape maintenance and inspect landscape features and facilities (2 credits
- knowledge)
- Evaluate ground and environmental conditions to establish grassed and planted areas (2
- credits knowledge)
- Prepare sites for soft landscape establishment (2 credits knowledge)
- Establish grass swards (2 credits knowledge)
- Plan the maintenance, repair and renovation of sports turf areas (3 credits knowledge)
- Plan and set out sports areas (2 credits knowledge)
- Maintain irrigation systems (2 credits knowledge)
- Provide nutrients to plants or crops (3 credits knowledge)
- Monitor the development of crops or plants (2 credits knowledge)
- Manage information for action (3 credits knowledge)
Annex 3 - Level 4: Horticulture
An integrated qualification at Level 3 which combines competence and technical knowledge elements in which each element is separately assessed and in which each element carries at least ten credits.
There is one qualification, Level 4 Diploma in Work-based Horticulture, which includes both competence and knowledge.
The competence and knowledge elements will be achieved through completion of the mandatory and optional units listed within the awarding organisation's (Agored Cymru) guidance and will total a minimum of 80 credits, a minimum of 10 of which will form the
knowledge element and be assessed via independent methods.
The competence will be separately assessed to the knowledge as listed below. The choice of knowledge units will depend on the role and workplace the apprentice is working in and will need to be agreed with the apprentice, employer and providers at the start of the programme.
Mandatory units:
- Plant use and association (4 credits competence and 4 credits knowledge)
- Manage the establishment, maintenance and sustainability of plants (6
- credits competence and 2 credits knowledge)
- Plan the control of weeds, pests and diseases (3 credits competence and 2
- credits knowledge)
Optional units
- Plant and soil systems (1 credit competence and 3 credits knowledge)
- Management of established environmental areas (3 credits competence and 3 credits knowledge)
- Management of hydro systems (3 credits competence and 3 credits knowledge)
- Plant nutrition (2 credits competence and 2 credits knowledge)
- Manage horticultural resources (3 credits competence and 2 credits knowledge)
- Customer care within land-based business operations (2 credits competence and 3 credits knowledge)
- Quality and performance in sports turf (3 credits competence and 4 credits knowledge)
- Mechanisation management for sports turf (4 credits knowledge)
- Plan and manage the construction and maintenance of sports turf surfaces (5 credits competence and 2 credits knowledge)
- Design concepts (4 credits competence and 1 credit knowledge) - Surveying (4 credits competence and 1 credit knowledge)
- Garden heritage (3 credits competence and 5 credits knowledge)
- Principles of woodland management (2 credits competence and 2 credits knowledge)
- Fruit and vegetable production management (6 credits competence and 2 credits knowledge)
- Organic horticulture (4 credits knowledge)
- Manage nursery crop production (5 credits competence and 2 credits knowledge)
- Manage harvesting operations (4 credits competence and 1 credit knowledge)
- Workplace management for landscaping (20 credits competence and 5 credits knowledge)
- Workplace management for parks, gardens & green spaces (20 credits competence and 5 credits knowledge)
- Workplace management for production horticulture (20 credits competence and 5 credits knowledge)
- Workplace management for sports turf (20 credits competence and 5 credits knowledge)