- Framework:
- Ceffylau
- Lefel:
- 2 / 3 / 4
Mae'r diwydiant ceffylau yng Nghymru yn cynnwys nifer o is-feysydd gan gynnwys: ysgolion marchogaeth, stablau hurio, buarthau cystadlu, buarthau rasio, clybiau a helfeydd, hyfforddwyr, ceffylau gwaith a meirch, a gweithgareddau Ceffylau amrywiol. Mae hyn yn darparu ystod eang o swyddi sy'n cynnwys: gofalu am iechyd a lles y ceffylau, glanhau stablau, marchogaeth ceffylau ar gyfer ymarfer corff a pharatoi ceffylau ar gyfer cystadlaethau.
Mae Prentisiaeth mewn Ceffylau yn darparu llwybr mynediad i'r sector ac mae'n addas ar gyfer pobl sydd â diddordeb brwd mewn ceffylau ac sy'n chwilio am yrfa yn gweithio gyda cheffylau. Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus, mae llawer o gyfleoedd ar gael gan gynnwys arbenigo yn y proffesiwn, cwblhau cyrsiau galwedigaethol eraill neu gamu ymlaen i Addysg Bellach a/neu Addysg Uwch.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda cheffylau, mae pob math o swyddi gwahanol ar gael. Er enghraifft, gallech weithio mewn ysgol farchogaeth, gweithio fel gwas stabl mewn stablau neidio ceffylau neu fridio ceffylau, dysgu sut i farchogaeth ceffylau harnais, dod yn rheolwr stabl neu'n reidiwr ac yn hyfforddwr ceffylau, neu weithio mewn maes mwy arbenigol fel ceffylau rasio.
Yr amodau mynediad ar gyfer y fframwaith yw hyder y cyflogwr a'r darparwr hyfforddiant yn eich gallu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant Ceffylau.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Ceffylau – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl Cynorthwyol - Ddim yn marchogaeth, Gwas Stabl Cynorthwyol – Gwas Stabl Marchogaeth a Gwas Stabl Meirch Cynorthwyol/Cynorthwyydd Teithiau Tywys.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl Meirch Cynorthwyol, Gwas Stabl Cynorthwyol - Ddim yn marchogaeth, Gwas Stabl Cynorthwyol – Marchogaeth, Joci Prentis, a Joci Amodol.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl Cynorthwyol - Hyfforddwr Ceffylau Harnais Heb Fod yn Marchogaeth a Gwas Stabl Cynorthwyol – Amaethyddiaeth.
Ceffylau – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl, Rheolwr Stabl Cynorthwyol, Arweinydd Teithiau Tywys a Hyfforddwr Canolradd/Hyfforddwr Lefel 3.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl, Cynorthwyydd, Rheolwr Stabl a Joci.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi fel Gwas Stabl Ceffylau Harnais, Gyrrwr Ceffylau Harnais, Hyfforddwr Ceffylau Harnais Cynorthwyol a Gwas Stabl Ceffylau Harnais – Amaethyddiaeth.
Ceffylau – Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Rheolwr Stabl.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Reidiwr a Hyfforddwr Ceffylau.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Lefel 3: 24 mis
Lefel 4: 18-24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Camu ymlaen i gyflogaeth neu gyrsiau Addysg Bellach megis:
- Prentisiaeth Ceffylau Lefel 3
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau - Ymddygiad Ceffylau
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau
Lefel 3 Camu ymlaen i Gyflogaeth neu Brentisiaeth Uwch mewn Ceffylau neu gyrsiau Addysg Uwch eraill fel HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Os ydych chi'n dymuno parhau i ddatblygu'ch sgiliau a'ch cymwysterau y tu hwnt i lefel Gradd, mae cyfleoedd ar gael i gamu ymlaen ymhellach trwy ddilyn cyrsiau fel Gradd Meistr.
Lefel 4 Camu ymlaen i gyflogaeth, cyfleoedd eraill i gamu ymlaen o fewn y diwydiant, cyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd.
Cymwysterau
Lefel 2: Cymhwyster Lefel 2 yn y llwybr o'ch dewis
Lefel 3: Cymhwyster Lefel 2 yn y llwybr o'ch dewis
Lefel 4: Cymhwyster Lefel 4 yn y llwybr o'ch dewis
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Lefel 2: Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Ceffylau. Fodd bynnag, bydd rhai cymwysterau neu brofiadau yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau:
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
- Diploma Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Marchogaeth Lefel 1 yng Ngham 1 Gwybodaeth, Gofal a Marchogaeth Ceffylau
- NVQ Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
- Wedi gweithio yn y diwydiant o'r blaen, neu'n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd. Cymwysterau TGAU/Safon Uwch
- Unedau neu gyrsiau byr Bagloriaeth Cymru sy'n darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.
Mae cyfleoedd i gamu ymlaen i Brentisiaeth Sylfaen Ceffylau ar gael hefyd ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion sydd â phrofiad o weithio yn y diwydiant ceffylau neu sy'n chwilio am yrfa newydd.
Lefel 3
Lefel 3: Mae'r diwydiant Ceffylau yn awyddus i sicrhau bod y gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau/Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 2 ar gyfer Gwas Stabl Ceffylau Harnais
- Diploma Lefel 2 mewn Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 2 Estynedig mewn Profiad Ymarferol o Ofal Ceffylau o fewn y diwydiant Ceffylau
- Tri chymhwyster TGAU (A*-C)/Safon Uwch
- Unedau neu gyrsiau byr Bagloriaeth Cymru sy'n darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth.
Mae llawer o gymwysterau ar gael yn y diwydiant Ceffylau, ac enghreifftiau’n unig yw’r rhai a enwir uchod.
Lefel 4
Lefel 4: Mae'r diwydiant Ceffylau yn awyddus i sicrhau bod y gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch yn hyblyg, felly mae wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau Seiliedig ar Waith/Gofal a Rheolaeth Ceffylau Rasio
- Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Gofal a Rheolaeth Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofal Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Marchogaeth Ceffylau ar Dir Gwastad
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau
- Tair blynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant Ceffylau
- 2 gymhwyster Safon UG/Safon Uwch
Unedau neu gyrsiau byr Bagloriaeth Cymru a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth Uwch.
Gweld llwybr llawn