Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/06/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05111
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Lefel 2 Ceffylau (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw:
- Gofalu am Geffylau: 53 credyd
- Gofalu am Geffylau Rasio: 57 credyd
- Hyfforddi: 67 credyd
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Lefel 3 Ceffylau (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw:
- Rheoli a Gofalu am Geffylau: 53 credyd
- Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio: 58 credyd
- Hyfforddi: 59 credyd
Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Lefel 4 Ceffylau (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw:
- Rheoli Iard: 61 credyd
- Marchogaeth a Hyfforddi Ceffylau: 85 credyd
- Hyfforddi: 97 credyd
Lefel 2: 12-18 mis (hyblyg)
Lefel 3: 18-36 mis (hyblyg)
Lefel 4: 15-24 mis (hyblyg)
Gofynion mynediad
Lefel 2: Ceffylau
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Ceffylau. Fodd bynnag, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn:
- Tystysgrif Lefel 1 mewn Gofalu am Geffylau
- Diploma Lefel 1 mewn Gofalu Ceffylau Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 1 mewn Marchogaeth a Gofalu am Geffylau Rasio yn seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 1 yng Ngham 1 Gwybodaeth, Gofal a Marchogaeth Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 1 yn BHS Gwybodaeth a Gofalu am Geffylau BHS
- Cymhwyster Ceffylau Lefel 1 perthnasol arall
- Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
- TGAU/Safon Uwch
Efallai y ceir gofynion pellach ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 2 a ddewiswyd.
Ar gyfer cymhwyster ‘BHSQ Sylfaen Lefel 2 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn', gallai'r rhain gynnwys:
- Yn 17 oed o leiaf (ar gyfer Uned 4)
- BHS Cam 1 Gofal neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Unedau 1 a 2)
- BHS Cam 1 Marchogaeth neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Uned 3)
- BHSQ Sylfaen Lefel 2 Gwastrawd gyda Marchogaeth (Cam 2)
neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Uned 4) - Aelod Aur o'r BHS
Mae'r cymhwyster hwn hefyd ar gael i ddysgwyr ar y lefel briodol a chanddynt brofiad o'r diwydiant ac/neu sy'n dal cymwysterau ceffylau nad ydynt wedi'u darparu gan y BHS.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Ceffylau i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant Ceffylau neu sy'n ystyried newid gyrfa.
Lefel 3: Ceffylau
Mae'r diwydiant Ceffylau am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau/Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- Diploma Lefel 2 ar gyfer Gwastrawd Ceffylau Harnais
- Diploma Lefel 2 mewn Gofalu a Gwybodaeth am Geffylau
- Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gofalu am Geffylau
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofalu am Geffylau
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Marchogaeth Ceffylau ar Dir Gwastad
- Sylfaen Lefel 2 Gwastrawd
- Sylfaen Lefel 2 Gwastrawd gyda Marchogaeth
- Sylfaen Lefel 2 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn
- Cymhwyster Ceffylau Lefel 2 arall perthnasol
- Profiad ymarferol o fewn y diwydiant Ceffylau
- 3 TGAU (A*-C/9-4)/Safon Uwch
Ceir llawer o gymwysterau ym maes Ceffylau - dim ond ychydig o awgrymiadau a geir uchod.
Efallai y ceir gofynion pellach ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3 a ddewiswyd.
Ar gyfer cymhwyster ‘BHSQ Sylfaen Lefel 3 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn', gallai'r rhain gynnwys:
- 18 oed o leiaf (ar gyfer Uned 5)
- BHS Cam 2 Gofal neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Uned 1)
- BHS Cam 2 Rhuthro Ceffyl Ymlaen neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Uned 2)
- BHS Cam 2 Marchogaeth neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Unedau 3 a 4)
- BHS Cam 2 Hyfforddwr neu gymhwyster BHSQ/BHS cyfwerth (ar gyfer Uned 5)
- Aelod Aur o'r BHS
Mae'r cymhwyster hwn hefyd ar gael i ddysgwyr ar y lefel briodol a chanddynt brofiad o'r diwydiant ac/neu sy'n dal cymwysterau ceffylau nad ydynt wedi'u darparu gan y BHS.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Os nad oes gan ddysgwr gymhwyster neu brofiad perthnasol, bydd angen i'r dysgwr/darparydd hyfforddiant ofyn am gymeradwyaeth y sefydliad perthnasol cyn i'r dysgwr gofrestru ar y Brentisiaeth.
Lefel 4: Ceffylau
Mae'r diwydiant Ceffylau am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Uwch fod yn hyblyg, ac felly wedi awgrymu y dylid cwblhau un o'r canlynol:
- Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau/Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofalu am Geffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Marchogaeth Ceffylau ar Dir Gwastad
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau
- Diploma Lefel 3 mewn Gofalu a Gwybodaeth am Geffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Egwyddorion Rheoli a Gofalu am Geffylau
- Lefel 3 Gwastrawd
- Lefel 3 Gwastrawd gyda Marchogaeth
- Lefel 3 Hyfforddwr (Reid Dressage, Reid Neidio neu Farchogwriaeth Gyflawn)
- Cymhwyster Ceffylau Lefel 3 arall perthnasol
- Tair blynedd o brofiad ymarferol o fewn y diwydiant Ceffylau
- 2 Safon UG/Uwch
Ceir llawer o gymwysterau ym maes Ceffylau - dim ond ychydig o awgrymiadau a geir uchod.
Yn ychwanegol:
Mae'n rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster lefel 3 perthnasol neu gael 3 blynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant.
Efallai y ceir gofynion pellach ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 4 a ddewiswyd.
Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Uwch. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.
Os nad oes gan ddysgwr gymhwyster neu brofiad perthnasol, bydd angen i'r dysgwr/darparydd hyfforddiant ofyn am gymeradwyaeth y sefydliad perthnasol cyn i'r dysgwr gofrestru ar y Brentisiaeth Uwch.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2 - Ceffylau
Lefel 2 - Ceffylau Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gyflawni un elfen cymhwysedd ac un elfen gwybodaeth o blith y canlynol (gallai'r elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y gellir eu paru o'r rhestr isod ddibynnu ar ofynion y cyrff dyfarnu perthnasol) neu un o'r cymwysterau cyfun o fewn eu llwybrau isod.
Lefel 2 Diploma City & Guilds mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0312/1 501/1857/2 | 41 | 645 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 2 Tystysgrif BHSQ mewn Gofalu am Geffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/0309/5 501/1825/0 | 30 | 298 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Sylfaen BHSQ Gwastrawd a Marchogaeth (Cam 2) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4074/7 603/5520/7 | 33 | 327 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Dyfarniad BHSQ mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/0309/4 501/1826/2 | 12 | 115 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma 1st4sport mewn Gofal Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
1st4Sport | C00/0690/8 601/5036/1 | 45 | 606 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 2 Sylfaen BHSQ Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4074/8 603/5521/9 | 55 | 547 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2 - Ceffylau | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru/Medr.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg (12-18 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas/hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2 - Ceffylau | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
- 41 credyd/645 o oriau TQT ar gyfer Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith
- 42 credyd / 413 o oriau awr TQT ar gyferBHSQ Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 45 credyd / 442 o oriau TQT ar gyfer Sylfaen Lefel 2 BHSQ Gwastrawd gyda Marchogaeth (Cam 2) (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 45 credyd/606 o oriau TQT ar gyfer 1st4Sport Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- 55 credyd/547 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Sylfaen Lefel 2 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 credyd/60 o oriau TQT ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3
Lefel 3 Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gyflawni un elfen cymhwysedd ac un elfen gwybodaeth o blith y canlynol (gallai'r elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y gellir eu paru o'r rhestr isod ddibynnu ar ofynion y cyrff dyfarnu perthnasol) neu un o'r cymwysterau cyfun o fewn eu llwybrau isod.
Lefel 3 Diploma City & Guilds mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0312/2 501/1885/7 | 64 | 640 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 4 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 3 Tystysgrif BHSQ mewn Gofalu am Geffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/0309/9 501/1831/6 | 27 | 265 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 BHSQ Gwastrawd gyda Marchogaeth - Dressage (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/0 603/5524/4 | 30 | 299 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Level 3 BHSQ Gwastrawd gyda Marchogaeth - Neidio (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/1 603/5525/6 | 33 | 325 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 BHSQ Gwastrawd gyda Marchogaeth - Cyflawn (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/2 603/5526/8 | 47 | 471 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma 1st4sport mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio Seiliedig ar Waith | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
1st4Sport | C00/1086/0 | 44 | 438 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 5 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr - Reid Dressage (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/3 603/5527/X | 45 | 447 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr - Reid Neidio (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/4 603/5528/1 | 47 | 473 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn (Cam 3) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/5 603/5529/3 | 62 | 619 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 6 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3 | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 7 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 7 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru/Medr.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg (18-36 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas / hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3 | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 64 credyd/640 o oriau TQT ar gyfer City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Seiliedig ar Waith
- 39 credyd/385 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofal Ceffylau (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 42 credyd/419 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Gwastrawd gyda Marchogaeth - Dressage (Cam 3) (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 45 credyd/445 o oriau awr TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Gwastrawd gyda Marchogaeth - Neidio (Cam 3) (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 59 credyd/591 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Gwastrawd gyda Marchogaeth - Cyflawn (Cam 3) (Cymhwysedd) a BHSQ Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau (Gwybodaeth)
- 44 credyd/438 o oriau TQT ar gyfer 1st4sport Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio Seiliedig ar Waith
- 45 credyd/447 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Hyfforddwr - Reid Dressage (Cam 3)
- 47 credyd/473 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Hyfforddwr - Reid Neidio (Cam 3)
- 62 credyd/619 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 3 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn (Cam 3)
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4
Lefel 4 Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gyflawni un elfen cymhwysedd ac un elfen gwybodaeth o blith y canlynol (gallai'r elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y gellir eu paru o'r rhestr isod ddibynnu ar ofynion y cyrff dyfarnu perthnasol) neu un o'r cymwysterau cyfun o fewn eu llwybrau isod.
Lefel 4 BHSQ Uwch Reolwr Iard gyda Marchogaeth (Cam 4) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/7 603/5124/X | 48 | 478 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 7 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 4 BHSQT ystysgrif mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/1211/3 600/4767/7 | 16 | 157 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 BHSQ Uwch Reolwr Iard (Cam 4) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/6 603/5123/8 | 18 | 176 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 BHSQ Tystysgrif mewn Egwyddorion Rheoli a Gofalu am Geffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/1211/4 600/4809/8 | 24 | 244 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 BHSQ Diploma mewn BHS Marchogaeth a Hyfforddi Ceffylau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/1211/5 600/4822/0 | 64 | 637 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 8 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Dressage (Cam 4) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/9 603/5126/3 | 76 | 756 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Neidio Sioe (Cam 4) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4076/0 603/5127/5 | 76 | 756 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Cystadlaethau (Cam 4) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
BHSQ | C00/4075/8 603/5125/1 | 76 | 756 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 9 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4 | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 7 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 7 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 7 |
Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru/Medr.
https://www.tribalgroup.com/software-and-services/student-information-systems/wales-essential-skills-toolkit
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Gan fod hyd y Brentisiaeth Uwch yn hyblyg (15-24 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.
Cymysgedd addas/hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.
Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4 | Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol o 1292 awr y flwyddyn | Argymhellir 20%, yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol: 323 o oriau'r flwyddyn |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 48 credyd/478 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 4 Uwch Reolwr Iard gyda Marchogaeth (Cam 4)
- 40 credyd/401 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau (Cymhwysedd) a BHSQ Tystysgrif Lefel 4 mewn Egwyddorion Rheoli a Gofalu am Geffylau (Gwybodaeth)
- 42 credyd/420 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 4 Uwch Reolwr Iard (Cam 4) Cymhwysedd) a BHSQ Tystysgrif Lefel 4 mewn Egwyddorion Rheoli a Gofalu am Geffylau (Gwybodaeth)
- 64 credyd/637 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Diploma Lefel 4 mewn BHS Marchogaeth a Hyfforddi Ceffylau
- 76 credyd/756 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Dressage (Cam 4)
- 76 credyd/756 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Neidio Sioe (Cam 4)
- 76 credyd/756 o oriau TQT ar gyfer BHSQ Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Cystadlaethau (Cam 4)
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Lefel 2
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Cymorth Cyntaf Dynol Sylfaenol
- Diogelu
- Cymorth Cyntaf Ceffylau
Efallai y bydd gofynion penodol yn berthnasol ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 2 a ddewiswyd.
Ar gyfer y cymhwyster 'BHSQ Sylfaen Lefel 2 Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn', wrth gyflwyno'r dystysgrif bydd yn rhaid i ddysgwyr fod wedi ennill y canlynol - bydd yn rhaid i'r tystysgrifau hyn fod yn gyfredol:
- BHS Cymorth Cyntaf Penodol i Geffylau a Chymorth Cyntaf yn y Gwaith gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu gwrs rhyngwladol cyfatebol.
- Gweithdy Diogelu Marchogion a gymeradwyir gan yr NSPCC/CPSU neu'r BEF.
Lefel 3
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
- Diogelu
- Cymorth Cyntaf Ceffylau
- Egwyddorion busnes
- Dosbarthiadau meistr

Efallai y bydd gofynion penodol yn berthnasol ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3 a ddewiswyd.
Lefel 4
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:
- Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
- Diogelu
- Cymorth Cyntaf Ceffylau
- Egwyddorion busnes
- Dosbarthiadau meistr
- BHS Cymorth Cyntaf Penodol i Geffylau a Chymorth Cyntaf yn y Gwaith gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu gwrs rhyngwladol cyfatebol.
- Gweithdy Diogelu Marchogion a gymeradwyir gan yr NSPCC/CPSU neu'r BEF.
Efallai y bydd gofynion penodol yn berthnasol ar gyfer rhai cymwysterau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan y sefydliad dyfarnu ar gyfer y cymhwyster/cymwysterau Lefel 4 a ddewiswyd.
Rolau swydd
Lefel 2: Ceffylau
Gall rolau swydd ar Lefel 2 (Prentisiaeth Sylfaen) gynnwys:
Gwastrawd Cynorthwyol - Dim marchogaeth
| Bydd Gwastrodion Cynorthwyol yn gofalu am geffylau bob dydd i sicrhau eu bod yn cadw'n iach, yn hapus ac mewn cyflwr da. Bydd Gwastrodion Cynorthwyol fel arfer yn gweithio o dan oruchwyliaeth Gwastrawd neu Reolwr Iard. |
Gwastrawd Cynorthwyol - Marchogaeth
| Yn ychwanegol at gyfrifoldebau'r Gwastrawd Cynorthwyol (Dim Marchogaeth), gall y Gwastrawd Cynorthwyol (Marchogaeth) hefyd fod yn gyfrifol am ymarfer y ceffylau bob dydd. Gallai hyn gynnwys ymarfer o'r ddaear, marchogaeth allan ar y ffordd, mewn mannau caeedig ac agored a hyfforddi ar dir gwastad a thros ffensys. |
Gweithiwr/Gwas Gre Cynorthwyol
| Bydd Gweithiwr/Gwas Gre Cynorthwyol yn cynorthwyo'r Gwas Gre i gynnal y gre yn effeithiol o ddydd i ddydd, gan ofalu am geffylau bob dydd. Bydd yn hwyluso gweithgarwch bridio ac yn cynorthwyo milfeddygon a phedolwyr wrth eu gwaith. Gallant gymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb Gwas Gre. |
Cynorthwyydd Treciau
| Bydd Cynorthwyydd Treciau yn helpu Arweinydd Treiau i drefnu gweithgareddau marchogaeth ceffylau a merlod, yn enwedig treciau a haciau ar draws ardaloedd o gefn gwlad agored. Gallant weithio gyda grwpiau wedi'u trefnu, unigolion neu unedau teulu bach. Gall ymwelwyr fod yn marchogaeth am y tro cyntaf, yn newydd i farchogaeth neu'n farchogion profiadol. |
Cynorthwyydd Iard | Gall Cynorthwyydd Iard weithio mewn lleoliad addysgol, fel canolfan geffylau coleg neu ysgol farchogaeth. Bydd y tasgau'n amrywio, ond gallant gynnwys lles ceffylau, arwain drwy esiampl i arwain a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu sesiynau dyletswydd iard, yn ogystal â chynorthwyo i gyflwyno rhaglenni a chynnal digwyddiadau'r sefydliad. |
Hyfforddwr Sylfaen yn gweithio mewn Canolfan/Ysgol Farchogaeth | Bydd hyfforddwr sylfaen mewn Canolfan/Ysgol Farchogaeth yn rhoi amrywiaeth o wersi i gleientiaid mewn amgylchedd ysgol farchogaeth. Bydd gan sefydliadau marchogaeth gydweithiwr profiadol ar-safle a all rhoi cymorth ac arweiniad fel bo'r angen i'r Hyfforddwr Sylfaen. |
Lefel 3: Ceffylau
Gall rolau swydd ar Lefel 3 (Prentisiaeth) gynnwys:
Gwastrawd
| Bydd Gwastrodion yn gofalu am geffylau bob dydd. Gall Gwastrodion hefyd fod yn gyfrifol am ymarfer y ceffylau bob dydd. Bydd hyn yn cynnwys ymarfer o'r ddaear, marchogaeth allan ar y ffordd ac ar dir agored a hyfforddi ar dir gwastad a thros ffensys. |
Rheolwr Iard Cynorthwyol
| Mae Rheolwyr Iard Cynorthwyol yn cael eu cyflogi gan berchnogion busnesau marchogaeth i sicrhau bod yr iard yn cael ei chynnal yn effeithlon. Bydd Rheolwr Iard Cynorthwyol yn cydweithio ag eraill er mwyn helpu i gynnal yr iard o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli staff, gofalu am y ceffylau, iechyd a diogelwch ac ymdrin â chleientiaid. |
Arweinydd Treciau
| Bydd Arweinwyr Treciau yn trefnu a chynnal gweithgareddau ceffylau a merlod, yn enwedig treciau a haciau ar draws ardaloedd o gefn gwlad agored. Gallant weithio gyda grwpiau neu unigolion. Gallant hefyd fod yn gyfrifol am ofalu am y ceffylau neu'r merlod. |
Addysgwr / Hyfforddwr Canolradd
| Bydd Addysgwr/Hyfforddwr yn cynllunio, gweithredu a dadansoddi gwersi diogel a chymwys o safon dechreuwr hyd at safon sylfaenol heb oruchwyliaeth. Dylai Addysgwr/Hyfforddwr allu dangos bod y ceffyl a'r marchog wedi gwella, arddangos gwybodaeth ymarferol am fusnes a gwybod sut i gynnal iard fasnachol. |
Marchog Gwaith | Mae 'Marchog Gwaith' yn nherm a ddefnyddir yn benodol yn y byd rasio. Fe'i defnyddir i ddisgrifio unrhyw un a all farchogaeth ceffyl i'w ymarfer er mwyn paratoi am ddarn penodol o waith, hy, sesiwn hyfforddi ar y cae rasys. Byddai angen i'r marchog hwn fod â digon o hyder, rheolaeth, medrusrwydd ac ymdeimlad o gyflymder i farchogaeth ar gyflymder penodol dros bellter penodol yn unol â chyfarwyddyd yr hyfforddwr. Yn dilyn hyn, bydd yn rhoi adborth deallus ynghylch 'teimlad' y ceffyl er mwyn cyfrannu at wella ei ffitrwydd a'i berfformiad yn barhaus. Mewn stablau rasys neidio gallai hyn hefyd gynnwys hyfforddi ceffylau i neidio dros ffensys. |
Lefel 4: Ceffylau
Gall rolau swydd ar Lefel 4 (Prentisiaeth Uwch) gynnwys:
Rheolwr Iard
| Caiff Rheolwyr Iard eu cyflogi gan berchnogion busnesau marchogaeth i sicrhau bod yr iard yn cael ei chynnal yn effeithlon. Bydd Rheolwr Iard yn gyfrifol am gynnal yr iard o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli staff, gofalu am y ceffylau, iechyd a diogelwch ac ymdrin â chleientiaid/perchnogion. |
Hyfforddwr Marchogion a Cheffylau
| Bydd Hyfforddwyr Marchogion a Cheffylau yn rheoli ac yn asesu staff/hyfforddeion; yn gymwys ac yn hyderus ym mhob agwedd ar reoli a gofalu am geffylau; yn hyfforddi amrywiaeth o geffylau ar dir gwastad a thros ffensys; yn gweithio gyda cheffylau ar y ddaear ac yn trefnu i geffylau gymryd rhan mewn cystadlaethau cysylltiedig / digyswllt. |
Rheolwr Canolfan Geffylau | Gallai Rheolwyr Canolfannau Ceffylau weithio mewn stabl marchogaeth neu mewn swyddfa. Gallai'r dyletswyddau o ddydd i ddydd gynnwys cynllunio a goruchwylio gweithgareddau marchogaeth, trefnu rhaglen ddyddiol i ofalu am y ceffylau a rheoli'r stablau, rheoli cofnodion gofal iechyd y ceffylau, ymdrin ag ymholiadau, problemau a chwynion, recriwtio a rheoli staff, trefnu rotas gwaith a threfnu hyfforddiant, cyflawni tasgau gweinyddol ac ariannol, marchnata a hyrwyddo'r ganolfan, datblygu perthnasoedd gwaith â busnesau eraill lleol yng nghefn gwlad a busnesau sy'n cynnig gwasanaeth i ymwelwyr. |
Hyfforddwr | Bydd Addysgwr/Hyfforddwr yn cynllunio, gweithredu a dadansoddi gwersi diogel a chymwys o safon dechreuwr hyd at safon sylfaenol heb oruchwyliaeth. Dylai Addysgwr/Hyfforddwr allu dangos bod y ceffyl a'r marchog wedi gwella, arddangos gwybodaeth ymarferol am fusnes a gwybod sut i gynnal iard fasnachol. |
Dilyniant
Lefel 2: Ceffylau
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i gyrsiau Addysg Bellach fel:
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau
- Ymddygiad Ceffylau
- Diploma Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Seiliedig ar Waith
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gofalu am Geffylau
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Gofal Ceffylau
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Marchogaeth Ceffylau ar Dir Gwastad
- Lefel 3 Hyfforddwr - (Dressage, Neidio neu Farchogwriaeth Gyflawn) (Cam 3)
- Lefel 3 Gwastrawd (Cam 3
- Lefel 3 Gwastrawd gyda Marchogaeth (Cam 3)
Mae'r swyddi nodweddiadol y bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn gallu symud ymlaen iddynt wedi'u rhestru yn yr adran ar rolau swydd.
Lefel 3: Ceffylau
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Bellach neu Uwch fel y Brentisiaeth Uwch mewn Ceffylau, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc). Dyma enghreifftiau o gyrsiau a fframweithiau sydd ar gael ledled Cymru a'r DU:
- Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ceffylau
- Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Dressage
- Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Neidio Sioe
- Lefel 4 Uwch Hyfforddwr Cystadlaethau
- Lefel 4 Uwch Reolwr Iard
- Lefel 4 Uwch Reolwr Iard gyda Marchogaeth
- Gwyddor Ceffylau
- Astudiaethau Ceffylau
- Rheoli Ceffylau
- Ymddygiad Ceffylau
- Rheoli Hamdden a Digwyddiadau Ceffylau
- Rheoli Busnes Ceffylau
- Y Diwydiant Rasio Ceffylau
- Perfformiad Ceffylau mewn Chwaraeon
Ar gyfer prentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i lefel Gradd, ceir cyfleoedd i symud ymlaen ymhellach i gyrsiau fel Gradd Meistr, gan gynnwys:
- Gwyddor Ceffylau
- Iechyd a Lles Ceffylau
- Gwyddor Ceffylau Gymhwysol
Mae www.ucas.co.uk neu https://www.prospects.ac.uk ymhlith gwefannau defnyddiol y gellir ymweld â nhw ynghylch Addysg Uwch. Mae'r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr, ynghyd â gwybodaeth benodol am ofynion mynediad.
Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu gweithio tuag at swydd reoli. Mae opsiynau eraill ar gael ym maes a rasio, bridio a hyfforddi. Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Lefel 4: Ceffylau
Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Uwch yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, neu i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch fel Gradd Sylfaen neu Radd. Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a'r DU:
- Diploma Lefel 5 mewn BHS Addysgu Marchogaeth hyd at Lefel Ganolradd
- Rheoli Ceffylau
- Gwyddor Ceffylau
- Astudiaethau Ceffylau
- Hyfforddiant ac Ymddygiad Ceffylau
Mae www.ucas.co.uk neu https://www.prospects.ac.uk ymhlith gwefannau defnyddiol y gellir ymweld â nhw ynghylch Addysg Uwch. Mae'r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr, ynghyd â gwybodaeth benodol am ofynion mynediad.
Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth Uwch yn gallu gweithio tuag at swyddi rheoli eraill. Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth Uwch yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Y Diwydiant Ceffylau Menywod (70%) yw'r rhan fwyaf o gyflogeion y diwydiant Ceffylau, sy'n sylweddol uwch na chanran y gweithwyr sy'n fenywod ym marchnad lafur y DU (47%), yn ogystal â'r cyfartaledd o 32% o fenywod sy'n gweithio yn y sector tir (y DU), a chyfartaledd Cymru o 29%. Er nad yw'r diwydiant yn atal dynion rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae menywod yn gweithio ynddo yn bennaf yw'r diwydiant Ceffylau, er bod dynion yn cyflawni llawer o rolau yn y maes hwnnw, ee, jocis lle bydd dynion i gyfrif am ran helaeth o'r gweithlu. Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Mae'r diwydiant Ceffylau yn anhygoel o amrywiol, ceir cyfleoedd i weithio gyda cheffylau mewn meysydd fel ysgolion marchogaeth, iardiau hurio ceffylau, digwyddiadau a chystadlaethau, a chlybiau a helfeydd. Ar iardiau rasio, bydd gyrfaoedd yn amrywio rhwng gweision hyfforddwyr marchogaeth, bridwyr ceffylau a jocis. Mae gan lawer o sefydliadau ceffylau amryw o swyddogaethau, er enghraifft gall ysgolion marchogaeth hefyd fod yn iardiau llogi ceffylau, a gall bridwyr hefyd fod yn hyfforddwyr. Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant, ond mae'n bosibl y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r diwydiant Ceffylau, yn enwedig wrth weithio gyda cheffylau. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i bobl ag anabledd corfforol weithio yn rhan arall o'r diwydiant. Yn wir, mae gan y diwydiant brofiad helaeth o ymdrin â phobl â chyfyngiadau corfforol, gan fod Riding for the Disabled yn gweithredu o fewn y diwydiant. Mae'r cymwysterau o fewn y fframwaith yn cynnwys unedau i gefnogi marchogion â gofynion arbennig. Mae'n ofynnol i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sicrhau na cheir unrhyw achosion o wahaniaethu mewn modd annheg. Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr pwysig i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant.
Penderfyniadau a gwaith pellach Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau yn y byd Ceffylau. Oherwydd natur amrywiol y sector Ceffylau, mae'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu datblygu o'r unedau hyn. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Dylid cynnal CHC yn ystod y rhaglen sefydlu, edrych arno eto yn rheolaidd a'i gofnodi.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1: Lefel 2 - Llwybr: Gofal Ceffylau
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith
C00/0312/1 41 credyd 645 o oriau TQT 645 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds), a byddant yn creu cyfanswm o 41 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy gasglu tystiolaeth yn y gwaith ar ffurf portffolio a gallai gynnwys adroddiad gan dystion, arsylwadau uniongyrchol, tystiolaeth o gynnyrch, cwestiynau llafar a thrafodaeth broffesiynol. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
201 - Glanhau a chynnal a chadw'r stablau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
202 - Rhoi bwyd a dŵr i'r ceffylau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
203 - Gwneud gwaith gofal arferol a monitro iechyd a lles ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
204 - Ffrwyno ceffylau drwy ddefnyddio dulliau penodedig (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
/205/1 - Monitro a chynnal iechyd a diogelwch (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
206 - Cynnal a datblygu perfformiad personol (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
207 - Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ag eraill (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
209 - Ffitio a thynnu dillad ceffylau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
210 - Plethu a thocio mwng a chynffonnau ceffylau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
211 - Glanhau a thrin ceffylau er ymddangosiad (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
212 - Asesu tir pori er mwyn cyflwyno ceffylau arno (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
213 - Troi allan, dal a chynnal ceffylau ar ôl eu troi allan (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
214 - Ffitio, tynnu a chynnal cyfrwyau ar gyfer ymarfer (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
215 - Rhoi ceffyl ar ffrwyn hir o dan oruchwyliaeth (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
216 - Rhuthro ceffyl ymlaen o dan oruchwyliaeth (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
217 - Gofalu am geffylau ar ôl ymarfer (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
218 - Cynorthwyo i baratoi ceffylau i'w gwerthu (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
219 - Cynorthwyo â gweithdrefnau cyn ac ar ôl trecio (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
220 - Cynorthwyo i ofalu am geffylau perfformiad o ddydd i ddydd (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
221 - Cynorthwyo i ofalu am geffylau perfformiad ar ôl ymarfer egnïol (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
222 - Cynorthwyo i ofalu am geffylau mewn cystadlaethau (3 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
223 - Paratoi ceffylau ar gyfer marchogion â gofynion arbennig (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
224 - Cynorthwyo marchogion â gofynion arbennig i fynd ar geffylau ac i ddod oddi arnynt (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
225 - Cynorthwyo mewn gweithgaredd marchogaeth i farchogion â gofynion arbennig (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
226 - Cynorthwyo i dderbyn ceffyl a chynnal asesiad cychwynnol (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
227 - Cynorthwyo i adsefydlu ceffylau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
228 - Llwytho a dadlwytho anifeiliaid i'w cludo (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
229 - Cynorthwyo i gyfebru caseg (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
230 - Cynorthwyo i eni ebol (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
231 - Cynorthwyo i drin cesig ac ebolion (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
232 - Marchogaeth ceffyl ar ffordd (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
233 - Marchogaeth ceffyl ar dir agored (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
234 - Marchogaeth a thywys ceffylau (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
235 - Marchogaeth ceffyl wedi'i hyfforddi (9 o 17 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
236 - Gwneud i geffyl wedi'i hyfforddi neidio (9 o 17 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
237 - Cynorthwyo'r arweinydd trecio yn ystod trec (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 2: Lefel 2 - Llwybr: Gofalu am Geffylau Rasio
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 2 1st4sport mewn Gofal Ceffylau Rasio Seiliedig ar Waith
C00/0690/8 45 credyd 606 o oriau TQT 196 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (1st4Sport), a byddant yn creu cyfanswm o 45 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy arsylwi gweithgareddau yn y gweithle ac arholiad amlddewis. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (1st4Sport) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
1 - Glanhau a chynnal a chadw stablau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
2 - Rhoi bwyd a dŵr i'r ceffylau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
3 - Gwneud gwaith gofal arferol a monitro iechyd a lles ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
4 - Glanhau a thrin ceffylau er ymddangosiad (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
5 - Ffrwyno ceffylau drwy ddefnyddio dulliau penodedig (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
6 - Ffitio a thynnu dillad ceffylau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
7 - Plethu a thocio mwng a chynffonnau ceffylau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
8 - Asesu tir pori er mwyn cyflwyno ceffylau arno (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
9 - Troi allan, dal a chynnal ceffylau ar ôl eu troi allan (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
10 - Ffitio, tynnu a chynnal cyfrwyau ar gyfer ymarfer (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
11 - Rhuthro ceffyl ymlaen o dan oruchwyliaeth (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
12 - Gofalu am geffylau ar ôl ymarfer (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
13 - Llwytho a dadlwytho anifeiliaid i'w cludo (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
14 - Egwyddorion cludo ceffylau ar y ffordd ar deithiau byr (3 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
15+19 - Hebrwng ceffylau rasio i gyfarfodydd rasio (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
16+20 - Gofalu am geffylau rasio ar ôl rasio (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
17 - Marchogaeth ceffylau rasio ar ffyrdd neu draciau o dan oruchwyliaeth (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
18 - Ymarfer ceffylau rasio o dan oruchwyliaeth (7 o 13 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
21 - Cynorthwyo i roi gofal arbenigol parhaus i geffylau rasio (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
22 - Cynorthwyo i ofalu am geffylau rasio ar ôl ymarfer straenllyd (1 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
23 - Cynorthwyo i gyfebru caseg (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
24 - Cynorthwyo i eni ebol (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
25 - Cynorthwyo i drin cesig ac ebolion (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
26 - Cynorthwyo i baratoi ceffylau i'w gwerthu (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 3: Lefel 2 - Llwybr: Hyfforddi
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Sylfaen Lefel 2 BHSQ Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn (Cam 2)
C00/4074/8 Cymwysterau'r BHS 55 credyd 547 o oriau TQT 302 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r holl unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ), a byddant yn creu cyfanswm o 55 credyd o leiaf.
Asesir yr elfen wybodaeth drwy ddulliau annibynnol.
Unedau gwybodaeth
D/617/9676 - Uned 1: Cam 2 Gofal (6 o 14 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
H/617/9677 - Uned 2: Rhuthro Ymlaen Cam 2 (1 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
K/617/9678 - Uned 3: Marchogaeth Cam 2 (1 o 13 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
M/617/9679 - Uned 4: Hyfforddi Cam 2 (2 o 22 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 4: Lefel 3 - Llwybr: Rheoli a Gofalu am Geffylau
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Seiliedig ar Waith
C00/0312/2 64 credyd 640 o oriau TQT 442 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds), a byddant yn creu cyfanswm o 64 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy gasglu tystiolaeth yn y gwaith ar ffurf portffolio a gallai gynnwys adroddiad gan dystion, arsylwadau uniongyrchol, tystiolaeth o gynnyrch, cwestiynau llafar a thrafodaeth broffesiynol. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (City & Guilds) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
301 - Derbyn ceffyl a chynnal asesiad cychwynnol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
302 - Cynllunio dietau a gweithredu rhaglen fwydo i'r ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
303 - Monitro a chynnal stociau o borthiant a gwelllt gwely (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
304 - Hyrwyddo iechyd a lles ceffylau (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
305 - Rhoi triniaeth gofal iechyd sylfaenol i geffylau (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
306 - Hyrwyddo, monitro a chynnal iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo yn y gweithle (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
307 - Rheoli eich Adnoddau eich Hun (4 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
308 - Gosod cyfrwy ar geffylau ar gyfer gwaith arbenigol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
309 - Paratoi ceffylau i ymddangos i'r cyhoedd (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
310 - Clipio Ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
311 - Cyflwyno ceffylau ifanc i offer (4 o 12 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
312 - Cyfrannu at hyfforddiant o'r ddaear (10 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
313 - Cyfrannu at ddylunio a gweithredu rhaglen waith ar gyfer ceffylau (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
314 - Ymarfer a gwella perfformiad ceffylau drwy ddefnyddio technegau rhuthro ymlaen neu harnais hir (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
315 - Paratoi i arwain trec ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
316 - Cynnal gweithgareddau cyn ac ar ôl trec ceffylau (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
317 - Cynnal rwtinau cyn ac ar ôl chwarae i ferlod polo (4 o 6 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
318 - Cynorthwyo i ymarfer a gofalu am geffylau perfformiad (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
319 - Gofalu am geffylau perfformiad ar ôl ymarfer egnïol (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
320 - Hebrwng ceffyl i gystadlaethau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
321 - Gofalu am geffylau ar ôl cystadleuaeth (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
322 - Cyflwyno ffon a phêl i ferlod polo(2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
323 - Paratoi a cynnal tir pori i geffylau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
324 - Rheoli ceffylau ar ôl eu troi allan (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
325 - Datblygu a gweithredu cynllun adsefydlu ceffyl (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
326 - Trwsio a chynnal strwythurau neu arwynebeddau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
327 - Cynnal iechyd a lles anifeiliaid wrth eu cludo (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
328 - Cynllunio, monitro a gwerthuso'r broses o gludo anifeiliaid (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
367 - Gofalu am gaseg a'i pharatoi i fridio (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
368 - Cadw dogfennau stalwyn (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
369 - Rhoi sylw i'r gaseg a'r ebol wrth i'r gaseg fwrw ebol (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
370 - Gofalu am y gaseg a'r ebol (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
371 - Ymdrin â stalwyni a'u cyflwyno o dan oruchwyliaeth (5 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
372 - Sefydlu a chynnal trefniadau i ofalu am stalwyni (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
373 - Marchogaeth ceffylau i'w hymarfer (4 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
374 - Marchogaeth ac arwain ceffylau i'w hymarfer (4 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
375 - Marchogaeth ceffylau wedi'u hyfforddi i gynnal eu hyfforddiant (10 o 26 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
376 - Neidio ceffylau wedi'u hyfforddi i gynnal eu hyfforddiant (10 o 26 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
377 - Arweinydd ceffyl ar drec (8 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
378 - Casglu a dadansoddi gwybodaeth a pharatoi am sesiynau hyfforddi ceffylau (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
379 - Paratoi am sesiynau hyfforddi ceffylau, cynnal y sesiynau a'u gwerthuso (10 o 20 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 5: Lefel 3 - Llwybr: Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 3 1st4sport mewn Rheoli a Gofalu am Geffylau Rasio Seiliedig ar Waith
C00/1086/0 44 credyd 438 o oriau TQT 254 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (1st4Sport), a byddant yn creu cyfanswm o 44 credyd o leiaf (yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir).
Asesir yr unedau drwy arsylwi gweithgareddau yn y gweithle ac arholiad amlddewis. Bydd yr asesydd yn ffurfio barn ynghylch dilysrwydd, digonolrwydd a chywirdeb y dystiolaeth.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (1st4Sport) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau gwybodaeth
1 - Cynllunio dietau a gweithredu rhaglen fwydo i'r ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
2 - Monitro a chynnal stociau o borthiant a gwellt gwely (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
3 - Hyrwyddo iechyd a lles ceffylau (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
4 - Rhoi triniaeth gofal iechyd sylfaenol i geffylau (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
5 - Gosod cyfrwy ar geffylau ar gyfer gwaith arbenigol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
6 - Paratoi ceffylau i ymddangos i'r cyhoedd (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
7 - Clipio Ceffylau (3 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
8 - Paratoi a cynnal tir pori i geffylau (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
9 - Rheoli ceffylau ar ôl eu troi allan (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
10 - Cludo ceffylau ar deithiau hir - cynorthwyydd (1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
11 - Cludo ceffylau ar deithiau hir - cynorthwyydd/gyrrwr(1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
12+17+32 - Paratoi ceffylau i farchogion fynd arnynt ac ar gyfer y gylch gorymdeithio (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
13 - Marchogaeth ceffylau rasio i wella ella perfformiad (5 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
14 - Hyfforddi ceffylau rasio (5 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
15 16 31 - Cynnal gweithdrefnau caeau ras (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
18 - Cyfrannu at ddylunio a gweithredu rhaglenni hyfforddi ar gyfer ceffylau rasio(4 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
19- Cyfrannu at werthuso ac addasu rhaglenni hyfforddi ar gyfer ceffylau rasio(2 o 6 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
20 - Gofalu am gaseg a'i pharatoi i fridio (3 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
21 - Cadw dogfennau stalwyn (2 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
22 - Rhoi sylw i'r gaseg a'r ebol wrth i'r gaseg fwrw ebol (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
23 - Gofalu am y gaseg a'r ebol (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
24 - Ymdrin â stalwyni a'u cyflwyno o dan oruchwyliaeth (5 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
25 - Sefydlu a chynnal trefniadau i ofalu am stalwyni (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
26 - Trwsio a chynnal strwythurau neu arwynebeddau (1 o 2 gredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
27 - Cyflwyno ceffylau ifanc i offer (4 o 12 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
28 - Cyfrannu at hyfforddiant o'r ddaear (10 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
29 - Derbyn ceffyl a chynnal asesiad cychwynnol (2 o 4 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
30 - Datblygu a gweithredu cynllun adsefydlu ceffyl (2 o 5 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
33 - Datblygu a chymhwyso gwybodaeth am y rheolau a'r rheoliadau ar gyfer marchogaeth mewn rasys (8 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
34 - Datblygu, cymhwyso a gwerthuso sgiliau marchogaeth rasio(5 o 10 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 6: Lefel 3 - Llwybr: Hyfforddi
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae tri chymhwyster cyfun ar gael, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr - Reid Dressage (Cam 3)
C00/4075/3 Cymwysterau'r BHS 45 credyd 447 o oriau TQT 211 GLH
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr - Reid Neidio (Cam 3)
C00/4075/4 Cymwysterau'r BHS 47 credyd 473 o oriau TQT 215 GLH
Lefel 3 BHSQ Hyfforddwr mewn Marchogwriaeth Gyflawn (Cam 3)
C00/4075/5 Cymwysterau'r BHS 62 credyd 619 o oriau TQT 303 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r holl unedau gorfodol a dewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ) ar gyfer y cymhwyster perthnasol a ddewiswyd, a byddant yn creu cyfanswm o 45 credyd o leiaf.
Asesir yr elfen wybodaeth drwy ddulliau annibynnol.
Unedau - gorfodol
H/617/9680 - Uned 1: Gofal Cam 3
K/617/9681 - Uned 2: Cam 3 Rhuthro Ymlaen(1 o 3 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
M/617/9682 - Uned 3: Cam 3 Reid Dressage (1 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
T/617/9683 - Uned 4: Cam 3 Reid Neidio (1 o 17 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
A/617/9684 - Uned 5: Cam 3 Hyfforddi (1 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 7: Lefel 4 - Llwybr: Rheoli Iard
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Lefel 4 BHSQ Uwch Reolwr Iard gyda Marchogaeth (Cam 4)
C00/4075/7 Cymwysterau'r BHS 48 credyd 478 o oriau TQT 222 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau tair uned orfodol ac un uned ddewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ), a byddant yn creu cyfanswm o 48 credyd o leiaf.
Asesir yr elfen wybodaeth drwy ddulliau annibynnol.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Gwybodaeth
T/617/8209 - Uned 1: Cam 4 Gofal Uwch (5 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
K/617/8210 - Uned 2: Cam 4 Uwch Reoli (5 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
M/617/8211 - Uned 3: Cam 4 Rhuthro Ymlaen Lefel Uwch (1 o 5 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
T/617/8212 - Uned 4: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Cystadlaethau (6 o 35 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
A/617/81213 - Uned 5: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Dressage (4 o 25 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
F/617/8214 - Uned 6: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Neidio Sioe (4 o 25 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 8: Lefel 4 - Llwybr: Marchogaeth a Hyfforddi Ceffylau
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Ceir un cymhwyster cyfun, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Diploma Lefel 4 BHSQ mewn BHS Marchogaeth a Hyfforddi Ceffylau
C00/1211/5 Cymwysterau'r BHS 64 credyd 637 o oriau TQT 375 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r holl unedau gorfodol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ), a byddant yn creu cyfanswm o 64 credyd o leiaf.
Asesir yr elfen wybodaeth drwy ddulliau annibynnol.
Unedau
K/503/8616- Rhuthro ceffyl ymlaen er mwyn gwella (4 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
T/503/8618 - Marchogaeth ceffylau ar dir gwastad (16 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
H/503/8615 - Marchogaeth ceffylau dros ffensys (16 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Atodiad 9: Lefel 4 - Llwybr: Hyfforddi
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae tri chymhwyster cyfun ar gael, sy'n cynnwys cymhwysedd a gwybodaeth:
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Dressage (Cam 4)
C00/4075/9 Cymwysterau'r BHS 76 credyd 756 o oriau TQT 321 GLH
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Neidio Sioe (Cam 4)
C00/4076/0 Cymwysterau'r BHS 76 credyd 756 o oriau TQT 321 GLH
Lefel 4 BHSQ Uwch Hyfforddwr Cystadlaethau (Cam 4)
C00/4075/8 Cymwysterau'r BHS 76 credyd 756 o oriau TQT 321 GLH
Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r pedair uned orfodol ac un uned ddewisol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ) ar gyfer y cymhwyster perthnasol a ddewiswyd, a byddant yn creu cyfanswm o 76 credyd o leiaf. Asesir yr elfen wybodaeth drwy ddulliau annibynnol.
Bydd y dewis o unedau - oddi mewn i ofynion canllawiau'r sefydliad dyfarnu (BHSQ) - yn dibynnu ar y rôl a'r man gwaith y mae'r prentis yn gweithio ynddo, a bydd angen i'r prentis, y cyflogwr a'r darparydd gytuno ar hynny ar ddechrau'r rhaglen.
Unedau Gwybodaeth
T/617/8209 - Uned 1: Cam 4 Gofal Uwch (5 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
K/617/8210 - Uned 2: Cam 4 Uwch Reoli (5 o 7 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
M/617/8211 - Uned 3: Cam 4 Rhuthro Ymlaen Lefel Uwch (1 o 5 chredyd yn seiliedig ar wybodaeth)
L/617/8216 - Uned 8: Cam 4 Uwch Hyfforddwr Dressage (1 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
D/617/8217 - Uned 9: Cam 4 Uwch Hyfforddwr Neidio Sioe (1 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
J/617/8215 - Uned 7: Cam 4 Uwch Hyfforddwr Cystadlaethau (1 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
A/617/81213 - Uned 5: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Dressage (4 o 25 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
F/617/8214 - Uned 6: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Neidio Sioe (4 o 25 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
T/617/8212 - Uned 4: Cam 4 Reid Uwch ar gyfer Hyfforddiant Cystadlaethau (6 o 35 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
Download pathway
This file may not be accessible. Request a different format.