- Framework:
- Cadwraeth Amgylcheddol
- Lefel:
- 2/3
Mae cadwraeth amgylcheddol yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfleoedd gan gynnwys gwarchod tirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau ochr yn ochr â rheoli mynediad cyhoeddus a hamdden cefn gwlad, yn ogystal â gwaith dehongli i hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a phleser o gefn gwlad.
Mae'r sector yn cynnwys ardaloedd gwledig a threfol, afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd ledled Cymru. Mae llawer ohonynt yn ardaloedd dynodedig sydd angen gwarchodaeth arbennig.
Mae hyn yn darparu swyddi amrywiol mewn sefydliadau mawr a bach, sefydliadau cyhoeddus a phreifat ac elusennau, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parciau Cenedlaethol, Ymddiriedolaethau Natur, BTCV, gwasanaethau cefn gwlad awdurdodau lleol a'r maes ymgynghoriaeth amgylcheddol. Gall gweithio yn y sector olygu eich bod yn gweithio yn yr awyr agored yn rheoli safleoedd yn ymarferol drwy, er enghraifft: plannu coed a chwympo coed; cynnal arolygon bywyd gwyllt; ymgysylltu â'r gymuned; gwaith hamdden ac addysg. Mae swyddi'n darparu cyfleoedd i ysbrydoli pobl ac ymgysylltu â bywyd gwyllt er mwyn rheoli a diogelu ein treftadaeth naturiol ar gyfer y dyfodol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cadwraeth Amgylcheddol – Lefel 2
Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Ystâd. Warden/Warden Cefn Gwlad, Gosodwr Ffiniau a Gweithiwr Treftadaeth.
Cadwraeth Amgylcheddol – Lefel 3
Addas ar gyfer swyddi Swyddog Mynediad/Hamdden, Parcmon, Swyddog Addysg/Dehongli, Uwch Weithiwr Ystâd a Swyddog Rheoli Amgylcheddol.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12-24 mis
Lefel 3: 12-24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus, mae llawer o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys arbenigo yn y proffesiwn, cwblhau cyrsiau galwedigaethol eraill neu gamu ymlaen i Addysg Bellach a/neu Addysg Uwch gan gynnwys Prentisiaeth mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu gyrsiau Addysg Bellach eraill megis:
- Diploma Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Datblygu Prosiectau Amgylcheddol a Thir
- Diploma/Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Gosod Muriau Cerrig Sych/ Muriau Terfyn.
Lefel 3: Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys cwblhau cyrsiau galwedigaethol eraill neu gamu ymlaen i Addysg Bellach a/neu Addysg Uwch. Mae enghreifftiau o gyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a'r DU yn cynnwys:
- BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol
- Fd mewn Cadwraeth a Rheoli Cefn Gwlad
- Fd mewn Cadwraeth Amgylcheddol
- BSc mewn Bioleg Cadwraeth
- BSc mewn Rheoli Bywyd Gwyllt.
Os yw prentisiaid yn dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i lefel Gradd, mae cyfleoedd camu ymlaen ar gael. Er enghraifft, gallent astudio Diploma Ôl-radd (PGDip) neu Radd Meistr (MSc neu MRes), gan gynnwys:
- Mhres mewn Ecoleg
- PGDip/MSc mewn Cadwraeth a Rheoli Tir.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Lefel 3: Diploma mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Lefel 2: Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol. Fodd bynnag, bydd rhai cymwysterau neu brofiadau yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn dechrau, gan gynnwys: Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol
Diploma Lefel 1 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith.
Profiad gwirfoddol yn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol.
Wedi gweithio yn y diwydiant o'r blaen, neu'n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd.
Cymwysterau TGAU.
Lefel 3
Lefel 3: Mae'r diwydiant cadwraeth amgylcheddol am i'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth mewn Cadwraeth Amgylcheddol fod yn hyblyg, a gallent gynnwys y canlynol:
- NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
- Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
- Profiad ymarferol yn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol
- 3 chymhwyster TGAU (A*-C)/Safon Uwch
ac un o’r canlynol:
- Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwraeth Ymarferol
- Diploma Lefel 1 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith.
Gweld llwybr llawn