Skip to main content

Llwybr

Cadwraeth Amgylcheddol

Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

DYDDIAD CYHOEDDI: 31/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FR05035

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

59 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Cadwraeth Amgylcheddol.

79 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 3 Cadwraeth Amgylcheddol.

 

Hyd y Brentisiaeth

Wrth adolygu'r Prentisiaethau Cadwraeth Amgylcheddol, cytunwyd â'r diwydiant bod angen i hyd prentisiaethau fod yn hyblyg er mwyn darparu ar gyfer anghenion dysgu amrywiol  prentisiaid. Gan hynny, hyd y Brentisiaeth Sylfaen bellach yw 12-24 mis (hyblyg) a hyd y Brentisiaeth yw 12-24 mis (hyblyg).

Gofynion mynediad

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Cadwraeth Amgylcheddol. Fodd bynnag, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y sector cyn cychwyn, fel:

  • Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwriaethol Ymarferol
  • Diploma Lefel 1 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
  • Profiad o wirfoddoli yn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol
  • Wedi gweithio yn y diwydiant yn y gorffennol, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd
  • TGAU

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.

Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol

Mae'r diwydiant cadwraeth amgylcheddol am i ofynion mynediad y Brentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol fod yn hyblyg, a allai gynnwys y canlynol:

  • NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
  • Diploma Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwriaethol Ymarferol
  • Tystysgrif Lefel 2 Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
  • Profiad ymarferol o fewn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol
  • 3 TGAU (A*-C) / Safon Uwch
  • ac yn ychwanegol at hynny, un o'r canlynol:
  • Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Amgylcheddol a Chadwriaethol Ymarferol
  • Diploma Lefel 1 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.

(Ceir llawer o gymwysterau ym maes Cadwraeth Amgylcheddol - dim ond ychydig o awgrymiadau a geir uchod).

 

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod..

Lefel 2 Diploma mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0200/3 500/9062/8 37 370 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 2 Dyfarniad mewn Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tir (FfCCh)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0284/6 500/9311/3 10 100 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol 1292 323
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

47 credyd am gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Gan fod hyd y Brentisiaeth Sylfaen yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 1615 o oriau ar gyfer 12 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (FfCCh)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0981/4 500/9054/9 57 570 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 3 Dyfarniad mewn Rheoli Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tirector
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0201/9 500/9232/7 10 100 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol 1292 323
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

67 credyd am gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg, bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Bydd hyn yn golygu rhwng 1615 o oriau ar gyfer 12 mis a 3230 o oriau ar gyfer 24 mis. 

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 credyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2

Ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen, mae'r diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau tri o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae un ohonynt yn Orfodol a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant.

Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido.

Gorfodol

  • Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)

Dau brawf galwedigaethol arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):

  • Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
  • Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1 + PA2 neu PA6)
  • Cerbyd Torri Gwair
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Codi Waliau Cerrig Sychion

Wedi'u hargymell ond heb fod yn orfodol:

  • Sgiliau Trefnu
  • Sgiliau gweinyddol
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol

Prentisiaeth Lefel 3

Ar gyfer y Brentisiaeth, mae'r diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol wedi gofyn i ymgeiswyr gwblhau tri o'r Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol a ganlyn, y mae un ohonynt yn Orfodol  a dau yn Ddewisol. Bydd y gofynion cyflogaeth ychwanegol hyn yn gwella'r Brentisiaeth ac yn hwyluso cyflogaeth yn y diwydiant. Nid yw Gofynion Cyflogaeth Ychwanegol yn ofynnol er mwyn ennill tystysgrif, ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cyllido.

Sylwer: Os yw prentis eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, argymhellir y dylai ddilyn cyrsiau gwahanol.

Gorfodol:

  • Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd sy'n bodloni'r gofynion a amlinellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)

Dau brawf galwedigaethol arall wedi'u hachredu a'u cydnabod yn ddeddfwriaethol neu'n genedlaethol sy'n berthnasol i'r diwydiant (rhestr o awgrymiadau isod):

  • Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Modd Cynaliadwy (SMNR)
  • Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1 + PA2 neu PA6)
  • Cerbyd Torri Gwair
  • Cynnal a chadw a gweithredu llif gadwyn
  • Defnydd diogel o strimwyr / brwshys torri
  • Gyrru Beic Cwad
  • Gyrru Tractor
  • Gyrru gyda threlar
  • Codi a Chario
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Codi Waliau Cerrig Sychion

Wedi'u hargymell ond heb fod yn orfodol:

  • Sgiliau Trefnu
  • Sgiliau gweinyddol
  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol

Rolau swydd

Mae'r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol

Gweithiwr Ystâd

Warden/Cefn Gwlad

Warden

Gosodwr Terfynau

Gweithiwr Treftadaeth

 

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol

Swyddog

Mynediad/Hamdden

Ceidwad

Addysg/

Swyddog Dehongli

Uwch Weithiwr Ystâd

Amgylcheddol

Swyddog Rheoli

Dilyniant

Lefel 2: Cadwraeth Amgylcheddol

Mae'r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn gymhwyster y mae'r diwydiant yn rhoi pwys cynyddol arno fel llwybr i mewn i'r diwydiant.

Ceir cyfleoedd i ddysgwyr sy'n oedolion hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Cadwraeth Amgylcheddol, os oes ganddynt brofiad o fewn y diwydiant cadwraeth amgylcheddol, neu os ydynt yn ystyried newid gyrfa.

Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i'r Brentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol neu i gyrsiau Addysg Bellach eraill fel:

  • Diploma Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Datblygu Prosiectau Amgylcheddol a Thir
  • Diploma/Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol.
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Codi Waliau Cerrig Sychion

Bydd y swyddi arferol y bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen iddynt ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn dibynnu ar y cymwysterau a'r profiad a gafwyd yn ystod y Brentisiaeth Sylfaen, ond gallent gynnwys:

Warden/Warden Cefn Gwlad, Gweithiwr Ystâd, Gweithiwr Treftadaeth, Cyflawni Gweithredol,  Goruchwyliwr Peiriannau, Gosodwr Terfynau.

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus, mae llawer o gyfleoedd ar gael, a allai gynnwys arbenigo o fewn y proffesiwn, cwblhau cyrsiau galwedigaethol eraill neu symud ymlaen i Addysg Bellach ac/neu Uwch.

Lefel 3: Cadwraeth Amgylcheddol

Mae'r diwydiant cadwraeth amgylcheddol yn rhoi gwerth cynyddol ar y Brentisiaeth Lefel 3 fel llwybr mynediad/dilyniant i'r diwydiant.

O'r Brentisiaeth Sylfaen ceir dilyniant uniongyrchol i Lefel 3, neu gall dysgwyr symud ymlaen yn syth i'r Brentisiaeth o raglen arall.

Ceir cyfleoedd i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen Cadwraeth Amgylcheddol hefyd i ddysgwyr sy'n oedolion a chanddynt brofiad o fewn y diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol neu sy'n chwilio am yrfa newydd.

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus, mae llawer o gyfleoedd ar gael, a allai gynnwys arbenigo o fewn y proffesiwn, cwblhau cyrsiau galwedigaethol eraill neu symud ymlaen i Addysg Bellach ac/neu Uwch. Dyma enghreifftiau o'r cyrsiau sydd ar gael ledled Cymru a'r DU:

  • BSc Cadwraeth Amgylcheddol
  • Fd Rheoli Cadwraeth a Chefn Gwlad
  • Fd Cadwraeth Amgylcheddol
  • BSc Bioleg Cadwraeth
  • BSc Rheoli Bywyd Gwyllt.

Ar gyfer prentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i lefel Gradd, ceir cyfleoedd i symud ymlaen ymhellach, ee Diploma Ôl-radd (PGDip) eu Radd Meistr (MSc neu MRes), gan gynnwys:

  • MRes Ecoleg
  • PGDip/MSc Cadwraeth a Rheoli Tir

Mae www.ucas.co.uk neu https://www.prospects.ac.uk ymhlith gwefannau defnyddiol y gellir ymweld â nhw ynghylch Addysg Uwch. Mae'r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr, ynghyd â gwybodaeth benodol am ofynion mynediad.

Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen mewn cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu gweithio tuag at swyddi rheoli, fel ecolegydd, rheolwr eiddo / ystadau neu uwch ymgynghorydd coedwigaeth.

Bydd y gallu i symud ymlaen yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad yr unigolyn, gan na fydd cyflawni'r Brentisiaeth Lefel 3 yn unig yn rhoi sicrwydd o fynediad i'r cyfleoedd hyn.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Dynion yn bennaf yw gweithwyr y diwydiant cadwraeth amgylcheddol (81%), sy'n uwch na chyfartaledd Cymru ar 71%. Er nad yw'r diwydiant yn atal menywod rhag gweithio yn y sector, awgrymir bod y diffyg cydbwysedd yn deillio o hen ganfyddiad mai diwydiant y mae dynion yn gweithio ynddo yn bennaf yw cadwraeth amgylcheddol, er bod llawer o rolau yn y maes hwnnw yn cael eu cyflawni gan fenywod. Mae'n ddiddorol mai dynion yn bennaf hefyd sy'n cofrestru ar raglenni dysgu Addysg Bellach yn gysylltiedig â Chadwraeth Amgylcheddol, sef cyfartaledd o 60% o gymharu â chofrestriadau dysgu seiliedig ar waith o 50%.

Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus.

Ceir cyfleoedd yn gysylltiedig â chadwraeth amgylcheddol mewn meysydd fel rheoli cynefinoedd a rhywogaethau, hamdden cefn gwlad, cynllunio waliau cerrig sychion a pharciau , a hyd yn oed ymdrin â materion rhyngwladol fel y newid yn yr hinsawdd. Mae'r cyfleoedd hyn i'w cael mewn ystod o sefydliadau, rhwng adrannau llywodraeth ac awdurdodau lleol, elusennau a'r sector gwirfoddol. Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sy'n arddangos brwdfrydedd, a chanddynt sgiliau cyflogadwyedd sylfaenol fel y gallu i weithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu.

Nid oes unrhyw rwystrau gwirioneddol sy'n atal pobl rhag cael eu recriwtio i'r diwydiant Mae'n bosibl y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r diwydiant cadwraeth amgylcheddol, yn enwedig wrth weithio mewn cynefinoedd amrywiol, ac y bydd angen gwneud rhywfaint o waith corfforol. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli yn rhannau eraill o'r diwydiant.

Penderfyniadau a gwaith pellach:

Ysgrifennwyd yr unedau o fewn y Diploma Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith mewn cydweithrediad â sefydliadau dyfarnu partner, i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhagfarn, yn hygyrch i bob prentis, ac yn berthnasol i ystod eang o rolau a busnesau ym maes Cadwraeth Amgylcheddol. Oherwydd natur amrywiol y sector Cadwraeth Amgylcheddol, mae'r Diploma Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith wedi cael ei ddatblygu o'r unedau hyn, er mwyn caniatáu cymaint o hyblygrwydd a dewis ag sy'n bosibl oddi mewn i'r rheolau cyfuno.

Bydd Lantra yn gweithio gyda'r diwydiant Cadwraeth Amgylcheddol i hyrwyddo'r angen am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus. Yn rhan o hyn rhoddir ystyriaeth hefyd i'r angen i gynyddu cyfranogiad yn y diwydiant ymhlith menywod a phobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o Brentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2 a 3, drwy gynnal ymgyrchoedd penodol, gan ganolbwyntio'n arbennig ar grwpiau wedi'u tangynrychioli fel menywod.
  • Cynyddu marchnata a chyfathrebu mwy i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd o fewn y sector, ac yn gysylltiedig â'r sector.

Defnyddio tudalennau gwe gyrfaoedd Lantra i hysbysu cynghorwyr gyrfa a phrentisiaid ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

 

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

12 Tachwedd 2021