- Framework:
- Gweithgynhyrchu Prosesau
- Lefel:
- 2/3
Mae'r Fframwaith Gweithgynhyrchu Prosesau yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith fel bod pobl ifanc ac oedolion yn gallu cyflawni swyddi technegol, gweithredol a chynnal a chadw allweddol yn y diwydiannau Cemegol, Petrocemegol, Fferyllol, Purfa a diwydiannau prosesu cysylltiedig eraill.
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen/Prentisiaeth fel gweithredwr a thechnegydd crefftus, gallech weithio mewn swyddi amrywiol sy'n cynorthwyo gwaith cynhyrchu. Mae gweithredwr neu dechnegydd proses yn gyfrifol am ddechrau, rheoli, monitro a chau'r systemau a'r peiriannau sy'n gysylltiedig â gwaith cynhyrchu. Byddai technegydd cynnal a chadw yn sicrhau bod y cyfarpar mewn cyflwr da. Byddai gweithredwr/technegydd purfa yn monitro cynhyrchion purfa ac yn helpu i'w creu.
Dylech fod yn ymwybodol o'r amodau gwaith amrywiol yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau a allai gynnwys;
- gweithio ar uchder
- gwaith shifft (gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau)
- gweithrediadau 365 diwrnod
- gweithio yn yr awyr agored
- gwisgo cyfarpar diogelwch arbenigol
- gweithio mewn amgylchedd peryglus iawn.
Pathway options and levels
Gweithgynhyrchu Prosesau - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gweithredwr Proses.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Cynnal a Chadw Peirianneg Prosesau.
Gweithgynhyrchu Prosesau - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Gweithredwr/Technegydd Proses.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Crefftwr/Technegydd Cynnal a Chadw Peirianneg Prosesau.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Gweithredwr/Technegydd Meysydd Eilaidd a Gweithredwr/Technegydd Ystafell Rheoli Purfa.
Further information
Duration
Lefel 2: 15 - 24 mis
Lefel 3: 24 - 36 mis
Progression routes
Lefel 2: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Canolradd/ Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- Datblygu gyrfa ym maes hyfforddi trwy ennill Cymwysterau Dyfarniadau Asesydd a Dilysydd mewn maes cysylltiedig, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Iechyd a Diogelwch, Hyfforddi a Datblygu, Technegau Gwella Busnes a Rheoli Goruchwylio.
- Cymwysterau Safon Aur Cogent
Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Prosesau neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gemegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- Datblygu gyrfa ym maes hyfforddi drwy Ddyfarniadau Asesydd a Dilysydd
- Cymwysterau mewn maes cysylltiedig, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Iechyd a Diogelwch, Hyfforddi a Datblygu, Technegau Gwella Busnes a Rheoli Goruchwylio
- Aelodaeth o sefydliad proffesiynol ar lefel Technegydd Peirianneg
- Cymwysterau Safon Aur Cogent
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma/Tystysgrif NVQ yn y llwybr o’ch dewis
Lefel 3: Diploma NVQ yn y llwybr o’ch dewis.
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 2
Oherwydd y gystadleuaeth am leoedd gellir ystyried y sgiliau a'r priodweddau canlynol sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau fel rhan o'r broses ymgeisio;
• cymhelliant i lwyddo yn y diwydiant
• ymwybyddiaeth o ofynion y Brentisiaeth Sylfaen
• parodrwydd i gydymffurfio â thelerau ac amodau cyflogaeth cyflogwyr/darparwyr hyfforddiant
• gallu cymhwyso dysgu yn y gweithle
• parodrwydd i weithio gan roi sylw dyledus i Iechyd a Diogelwch personol ac Iechyd a Diogelwch eraill
• cyfathrebu effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
Gellir defnyddio'r enghreifftiau canlynol o dystiolaeth i gefnogi rhai o'r datganiadau uchod, megis;
- profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol
- gwaith gwirfoddol neu gymunedol
- cymwysterau TGAU (A*-E) neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg, Saesneg, a Gwyddoniaeth (Lefel 2)
- cwblhau Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Sylfaen/ Canolradd) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomau mewn diwydiant cysylltiedig fel Gwyddoniaeth neu Beirianneg
- tystiolaeth o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu
- cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 neu Brentisiaeth Sylfaen mewn disgyblaeth gysylltiedig (Lefel 3)
- cymwysterau TGAU (A*-C) neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg, Saesneg, a Gwyddoniaeth (Lefel 3)
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
View full pathway