- Framework:
- Argraffu a Deunydd Pacio Printiedig
- Lefel:
Bydd y fframwaith Argraffu a Deunydd Pacio Printiedig yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith sy'n berthnasol i swyddi allweddol gweithgynhyrchu, crefft a thechnegol yn y diwydiant Argraffu.
Ar Lefel 2 a 3, gallwch ddewis o lwybrau amrywiol gan gynnwys Gwaith Argraffu Digidol, Argraffu â Pheiriant, Gwasg Lathru
Mae gwaith cyn mynd i'r wasg yn tueddu i fod yn seiliedig ar gyfrifiadur a gwaith swyddfa yn bennaf, ac mae argraffu a llathru yn feysydd gwaith ymarferol a chrefftus iawn. Ym mhob maes, mae'n rhaid i chi weithio'n fanwl gywir a chwblhau gwaith i'r safonau uchaf.
Mae ymgeiswyr am brentisiaeth yn cael eu croesawu o ystod o gefndiroedd amrywiol a rhagwelir y bydd ganddynt ystod o brofiadau, cyflawniadau a/neu gymwysterau gwahanol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Argraffu a Deunydd Pacio Printiedig - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Sganio, Technegydd Prawf-ddarllen, Technegydd Cyn mynd i'r Wasg/Gwneuthurwr Plât, Cyhoeddwr Bwrdd Gwaith a Dylunydd Graffeg/Argraffu.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Argraffu â Pheiriant.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Gweithredwr Gilotîn, Gweithredwr Peiriant Plygu a Gweithredwr Peiriant Rhwymo.
Argraffu a Deunydd Pacio Printiedig - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Sganio Profiadol, Technegydd Prawf-ddarllen Profiadol, Technegydd cyn mynd i'r Wasg/Gwneuthurwr Plât Profiadol, Cyhoeddwr Bwrdd Gwaith Profiadol a Dylunydd Graffeg/Argraffu Profiadol.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Argraffydd â Pheiriant Arweiniol/Profiadol.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 -18 mis
Lefel 3: 24 - 36 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Swyddi lefel uwch
- Cymwysterau Dyfarniadau Asesydd a Dilysydd
- Hyfforddiant mewnol i gynorthwyo dilyniant
- Diploma Uwch mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch, Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau
- Prentisiaeth Peirianneg Gysylltiedig
Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Hyfforddiant cwmni mewnol neu ddysgu allanol
- Prentisiaeth Lefel 4
- Prentisiaeth Peirianneg Gysylltiedig
- Diploma Uwch mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch, Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau
- Swyddi lefel uwch yn y diwydiant Argraffu fel Rheolwr Shifftiau/Rheolwr Adran
- Cymwysterau Dyfarniadau Asesydd a Dilysydd
- Hyfforddiant pellach mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth, Gweithgynhyrchu Darbodus neu Dechnegau Gwella Busnes
- Camu ymlaen i raglen israddedig sy'n gysylltiedig â'r diwydiant e.e. Peirianneg, Gwyddoniaeth neu Astudiaethau Busnes.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif NVQ yn y llwybr o’ch dewis
Lefel 3: Tystysgrif/Diploma NVQ yn y llwybr o’ch dewis.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Mae enghreifftiau o ofynion a fydd yn cael eu hystyried yn sylfaen addas ar gyfer mynediad i'r fframwaith yn cynnwys:
- Profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol, wedi'i hategu gan bortffolio o dystiolaeth.
- Gwaith gwirfoddol neu gymunedol.
- Tystiolaeth o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu.
- Ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomau mewn diwydiant cysylltiedig fel Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Adeiladu neu'r Diwydiannau Creadigol.
- Cwblhau Diploma 14-19 mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau.
- Bagloriaeth Cymru - Diploma Sylfaen, Canolradd neu Uwch.
- TGAU: Fel arfer, 4 cymhwyster TGAU D - F ar gyfer Prentis Lefel 2 ac A* - C ar gyfer Lefel 3. Dylent gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn