Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr prentisiaeth yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch a Deunyddiau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 24/01/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR02249
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
43 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, Cyn y Wasg.
56 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, Argraffu gyda Pheiriannau.
42 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2, Gorffen Argraffu.
63 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3, Gwaith Digidol Cyn y Wasg .
63 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3, Argraffu gyda Pheiriannau.
57 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3, Gorffen Argraffu.
Gofynion mynediad
Croesewir ymgeiswyr prentisiaeth o ystod o gefndiroedd amrywiol a rhagwelir y bydd ganddynt ystod o brofiadau, cyflawniadau ac/neu gymwysterau gwahanol. Bydd dangos yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol sy'n berthnasol ac yn drosglwyddadwy yn rhan bwysig o broses ddethol unrhyw gyflogwr.
Dyma enghreifftiau o ofynion a ystyrir yn sail addas ar gyfer mynediad:
- Profiad gwaith neu swydd flaenorol, a gefnogir gan bortffolio o dystiolaeth neu
- Waith gwirfoddol neu gymunedol neu
- Brawf o fod wedi cwblhau cyrsiau heb eu hachredu neu
- Ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas mewn diwydiant cysylltiedig fel y diwydiannau Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Adeiladu neu Greadigol neu
- Ennill Diploma 14-19 mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau neu
- Fagloriaeth Cymru - Diploma Sylfaen, Canolradd neu Uwch neu
- Gymwysterau TGAU: Fel arfer, 4 TGAU D - F ar gyfer Prentis Lefel 2 ac A* - C ar gyfer Lefel 3. Dylai'r rhain gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ddymunol iawn, ac mae'r Brentisiaeth Argraffu hon yn hwyluso datblygiad y sgiliau hyn, a gellir cynllunio'r cymorth dysgu yn arbennig i roi'r gefnogaeth unigol sydd ei hangen ar Brentisiaid. Mae gan gyflogwyr ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr a all ddangos agwedd "medru gwneud" gadarnhaol a pharodrwydd i weithio'n galed a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae gwaith yn y Diwydiant Argraffu'n amrywio'n helaeth yn ôl busnes y cyflogwr. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael, ond maent oll wedi'u rhannu i 3 phrif faes:
- cyn y wasg
- argraffu
- gorffen.
Mae gwaith cyn y wasg yn tueddu i fod yn waith ar gyfrifiadur ac mewn swyddfa, ac mae argraffu a gorffen yn feysydd gwaith ymarferol iawn lle mae angen cryn fedrusrwydd. Ym mhob maes, bydd yn rhaid i chi gael llygad craff a chwblhau gwaith hyd at y safonau uchaf. Bydd cwmnïau o bob math a maint ledled y wlad yn dibynnu ar eu cynnyrch argraffedig i "werthu" eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Bydd cynnyrch wedi'i argraffu'n wael yn cael effaith uniongyrchol ar eu busnes, felly mae'r rôl hon yn y diwydiant argraffu yn hollbwysig!
Mae rhai prosesau wedi'u hawtomeiddio ac eraill yn cael eu cyflawni â llaw. Dylai prentisiaid fod yn ymwybodol o'r ffaith y gallai fod yn ofynnol iddynt weithio mewn amgylchedd ffatri ar gyfer llawer o'r rolau swydd o fewn y diwydiant Argraffu, ac y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn iddynt weithio goramser, mewn sifftiau ac ar y penwythnos.
Mae'r ystod o rolau swydd sydd ar gael yn amrywiol iawn, gan amrywio rhwng technolegwyr pecynnu, dylunwyr cyhoeddiadau'r we a golygwyr cyhoeddi pen bwrdd, a byddai cymwysterau cysylltiedig neu brofiad o weithio gyda'r technolegau hyn mewn sectorau eraill yn fanteisiol.
Mae'r sector Argraffu wedi profi llawer o newidiadau mewn arferion gwaith yn sgil cyflwyno technolegau blaengar newydd. Bellach, caiff llawer o brosesau eu rheoli a'u monitro gan systemau technoleg soffistigedig, ac maent yn cynnwys prosesau gweithgynhyrchu syml a chymhleth.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Cyn y wasg
Lefel 2: Cyn y wasg Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Pre-press for Print | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/2 600/0608/0 | 19 | 190 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Deall yr Amgylchedd Gwaith Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/6 600/2755/1 | 20 | 200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cyn y wasg | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cyn y wasg | 158 | 307 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 465 awr
- Cymhwysedd = isafswm o 118-155 awr/isafswm o 19 credyd
- Gwybodaeth - isafswm o 93 awr/isafswm o 12 credyd
Neu
- Gwybodaeth - isafswm o 138 - 149 awr/isafswm o 20 credyd
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 24-36 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Argraffu gyda Pheiriannau
Lefel 2: Argraffu gyda Pheiriannau Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Tystysgrif NVQ Lefel 2 Argraffu gyda Pheiriannau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/3 | 32 | 320 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Deall yr Amgylchedd Gwaith Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/6 600/2755/1 | 20 | 200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Argraffu gyda Pheiriannau | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Argraffu gyda Pheiriannau | 249 | 307 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 556 awr
- Cymhwysedd = isafswm o 209-243 awr/isafswm o 32 credyd
- Gwybodaeth - isafswm o 93 awr/isafswm o 12 credyd
Neu
- Gwybodaeth - isafswm o 138-149 awr/isafswm o 20 credyd
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12-18 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Gorffen Argraffu
Lefel 2: Gorffen Argraffu Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Tystysgrif NVQ Gorffen Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/4 600/0599/3 | 18 | 180 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Deall yr Amgylchedd Gwaith Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/6 600/2755/1 | 20 | 200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gorffen Argraffu | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gorffen Argraffu | 154 | 307 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 461 awr
- Cymhwysedd = isafswm o 114-145 awr/isafswm o 18 credyd
- Gwybodaeth - isafswm o 93 awr/isafswm o 12 credyd
Neu
- Gwybodaeth - isafswm o 138-149 awr/isafswm o 20 credyd
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12-18 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gwaith Digidol Cyn y Wasg
Lefel 3: Gwaith Digidol Cyn y Wasg Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Diploma NVQ Lefel 3 mewn Cyn-Wasg Digidol ar gyfer Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/8 600/0609/2 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Deall yr Amgylchfyd Gweithio Print | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1244/3 600/3252/2 | 19 | 190 | Cyfun | Cymraeg- Saesneg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gwaith Digidol Cyn y Wasg | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gwaith Digidol Cyn y Wasg | 211 | 359 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 570 awr
• Cymhwysedd = isafswm o 157 awr/isafswm o 37 credyd
• Gwybodaeth - isafswm o 89 o oriau/isafswm o 19 o gredydau
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 24-36 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Argraffu gyda Pheiriannau
Lefel 3: Argraffu gyda Pheiriannau Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Diploma NVQ Lefel 3 mewn Argraffu Peiriant | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1251/0 600/0607/9 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Deall yr Amgylchfyd Gweithio Print | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1244/3 600/3252/2 | 19 | 190 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Argraffu gyda Pheiriannau | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Argraffu gyda Pheiriannau | 220 | 359 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 579 awr
• Cymhwysedd = isafswm o 176 awr/isafswm o 37 credyd
• Gwybodaeth - isafswm o 89 o oriau/isafswm o 19 o gredydau
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 24-36 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gorffen Argraffu
Lefel 3: Gorffen Argraffu Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Tystysgrif NVQ Lefel 3 mewn Gorffen Argraffu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1250/9 600/0523/3 | 31 | 310 | Gwybodaeth | Saesneg yn unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Deall yr Amgylchfyd Gweithio Print | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
GQA | C00/1244/3 600/3252/2 | 19 | 190 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gorffen Argraffu | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gorffen Argraffu | 182 | 359 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Isafswm oriau dysgu = 541 awr
• Cymhwysedd = isafswm o 141 awr/isafswm o 31 credyd
• Gwybodaeth - isafswm o 89 o oriau/isafswm o 19 o gredydau
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 24-36 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Dilyniant i Lwybrau Lefel 2 a Lefel 3:
Mae cymwysterau seiliedig ar waith fel NVQs / SVQs / AVCEs (Safonau Uwch Galwedigaethol) a Diplomas BTEC sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd y sector Argraffu ar gael yn eang, â phob un ohonynt yn cynnig sail dda er mwyn cael mynediad i'r llwybr hwn. Mae cymwysterau TGAU a Safon Uwch hefyd yn cynnig sylfaen gadarn i adeiladu arni, gyda phynciau fel Celf, Gwyddoniaeth a Dylunio a Thechnoleg oll yn cael eu hystyried yn ddefnyddiol gan gyflogwyr y sector Argraffu, ynghyd â Saesneg, Mathemateg, TG ac Astudiaethau Busnes.
Byddai ymgeiswyr sydd wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Argraffu a Deunydd Pecynnu wedi'i Argraffu yn cael eu hystyried yn addas i symud ymlaen i Brentisiaeth ar Lefel 3. Bydd Diploma Sylfaen/Uwch mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch yn cynnig llwybr ardderchog i'r sector gweithgynhyrchu Argraffu. Yn ogystal â hyn, mae'r Diplomas Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig hefyd yn cynnig llwyfan ardderchog i unigolion a chanddynt ddiddordeb mewn symud ymlaen i'r diwydiant Argraffu. Mae'r prif ddysgu o'r cymwysterau hyn wedi'i ymgorffori ym Magloriaeth Cymru, a gallai fod yn llwybr addas.
Gellir cynnig rhai llwybrau gyrfa o fewn y diwydiant Argraffu heb gymwysterau, os bydd yr ymgeisydd yn creu argraff dda yn y cyfweliad. Gall dangos brwdfrydedd, sgiliau cyfathrebu da, rhoi prawf o agwedd aeddfed a sgiliau datrys problemau oll helpu eich siawns o gael lle. Gellir datblygu llawer o sgiliau tra byddwch yn cael eich cyflogi, os oes gennych yr agwedd gywir. Mae profiad gwaith blaenorol yn y diwydiant Argraffu, neu ddisgyblaeth debyg, hefyd yn sylfaen werthfawr er mwyn cael mynediad i'r llwybr hwn.
Dilyniant o'r Llwybr Lefel 2:
- Parhau i feithrin eich crefft a'ch sgiliau a'ch profiad technegol mewn Gwaith Cyn y Wasg ac ymdrechu i "fod y gorau" yn y llwybr galwedigaethol yr ydych wedi'i ddewis, ac i ymfalchïo yn eich gwaith.
- Cymryd rhan yn hyfforddiant mewnol y cwmni neu gyfleoedd dysgu allanol, os ydynt ar gael ac/neu'n cael eu cynnig.
- Ehangu a datblygu eich sylfaen sgiliau drwy symud i mlaen i rolau swydd eraill o fewn y
Diwydiant Pecynnu Argraffu ac Argraffu - "dilyniant llorweddol" gan symud ymlaen i swyddi lefel uwch o fewn y diwydiant Argraffu a Deunydd Pecynnu wedi'i Argraffu fel
Argraffydd Arweiniol, Goruchwylydd Cynnyrch neu i feysydd swyddogaethol eraill fel dylunio, ymchwil a datblygu'r amrywiaeth o gynnyrch a dulliau cynhyrchu, marchnata, gwerthu, cynllunio, caffael, cyllid neu warysau a dosbarthu.
- Dilyn Prentisiaeth Lefel 3 mewn Argraffu a Deunydd Pecynnu wedi'i Argraffu
- Dilyn Prentisiaeth Peirianneg gysylltiedig.
- Dilyn Diploma Uwch mewn Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch,
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau.
- Dilyn cymwysterau Asesu a Dilysu.
Dilyniant o'r Llwybr Lefel 3:
- Parhau i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad technegol ac ymdrechu i "fod y gorau" yn y llwybr galwedigaethol yr ydych wedi'i ddewis, ac i ymfalchïo yn eich gwaith.
- Cymryd rhan yn hyfforddiant mewnol y cwmni neu gyfleoedd dysgu allanol, os ydynt ar gael ac/neu'n cael eu cynnig.
- Ehangu a datblygu eich sylfaen sgiliau drwy symud i mlaen i rolau swydd eraill o fewn y
Diwydiant argraffu - "dilyniant llorweddol"
- Dilyn y cymhwyster Lefel 4 Arweinyddiaeth Argraffu.
- Symud ymlaen i Brentisiaeth Peirianneg gysylltiedig.
- Dilyn Diploma Uwch Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch, Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu'r Diwydiannau Creadigol a'r Cyfryngau.
- Symud ymlaen i swyddi lefel uwch o fewn y diwydiant Argraffu fel Rheolwr Sifft / Rheolwr Adran.
- Dilyn cymwysterau Asesu a Dilysu.
- Derbyn hyfforddiant pellach ar Reoli ac Arwain, Gweithgynhyrchu Diwastraff neu
Dechnegau Gwella Busnes.
- Symud ymlaen i raglen israddedig sy'n gysylltiedig â diwydiant ee Peirianneg, Gwyddoniaeth neu Astudiaethau Busnes. Efallai y bydd angen derbyn hyfforddiant/addysg ychwanegol er mwyn cael mynediad.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny
Nod y Brentisiaeth Argraffu a Deunydd Pecynnu wedi'i Argraffu yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle a chynhwysiant drwy gynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel. Mae'n rhaid cyflwyno'r Brentisiaeth mewn amgylcheddau sy' rhydd rhag rhagfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn a theimlo bod eu cyfraniad i'r diwydiant yn cael ei werthfawrogi. Mae'n rhaid sicrhau na cheir arferion gwahaniaethol wrth ddewis a recriwtio Prentisiaid i'r rhaglen hon.
MATERION
Mewn arolwg diweddar o'r llafurlu, gwelir mai dynion yw 71% o'r gweithlu Argraffu cyfredol, ac mai ond 9% sydd yn iau na 25 oed. Mae gweithwyr yn y diwydiant Argraffu yn tueddu i fod yn weithwyr llawnamser ac wedi'u cyflogi'n uniongyrchol. Mae'r gwaith fel arfer wedi'i drefnu'n sifftiau, yn enwedig ar y lefelau is. Mae'r diwydiant Argraffu
yn gweithredu polisi recriwtio agored ond nid yw ar hyn o bryd yn denu digon o ymgeiswyr benywaidd, Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, neu ymgeiswyr ag anhawster neu anabledd. Mae'r diwydiant yn cydnabod nad yw'n manteisio i'r eithaf ar y gronfa hon o dalentau cudd, a allai helpu'r diwydiant Argraffu i lenwi bylchau a lleihau prinder o ran sgiliau, yn y presennol a'r dyfodol.
Mae'r ffaith bod gweithlu cyfredol y diwydiant Argraffu yn heneiddio yn her allweddol arall iddo. Mae 69% o weithwyr dros 35 oed, ac mae nifer y cyflogeion 16-24 oed yn arbennig o brin. Mae angen dechrau cynllunio olyniaeth yn effeithiol ar unwaith, er mwyn llenwi bylchau yn y gweithlu a fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, wrth i weithwyr hŷn adael y diwydiant - bydd denu pobl ifanc i'r diwydiant yn allweddol er mwyn datrys hyn.
Yn strategaeth "Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru" nodir bod mwy o waith i'w gyflawni er mwyn ymdrin ag anghenion pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, pobl ag anghenion cymhleth (fel troseddwyr a chyn-droseddwyr) ac oedolion sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar.
RHWYSTRAU
I raddau helaeth, yr hyn sydd wrth wraidd yr anghydbwysedd yng nghyfansoddiad presennol gweithlu'r diwydiant Argraffu yw'r ddelwedd wael o'r gweithlu yn y gorffennol a'r camsyniad bod swyddi yn y diwydiant Argraffu yn cael eu cyflawni mewn amgylcheddau tywyll, budr, llawn inc, a allai fod yn beryglus. I'r gwrthwyneb, erbyn heddiw mae'r diwydiant Argraffu yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ac wedi'i reolin bennaf drwy gyfrifiaduron soffistigedig. Nid oes llawer yn gwybod am yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa heriol ac amrywiol sydd ar gael o fewn y diwydiant Argraffu. Nid yw ar hyn o bryd yn yrfa a ddewisir gan geiswyr swydd tro cyntaf na rhai sy'n ystyried newid gyrfa. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos pobl ifanc.
Serch hynny, mae diwydiant Argraffu yr 21ain ganrif yn ddeinamig a blaengar iawn, ac mae arferion gwaith y diwydiant wedi bod drwy newid mawr yn sgil cyflwyno technolegau a phrosesau o'r radd flaenaf. Mae angen i'r diwydiant Argraffu godi ymwybyddiaeth ynghylch ei ddyfeisgarwch a'i amrywiaeth, a goresgyn y camsyniadau a geir yn ei gylch ar hyn o bryd.
CAMAU GWEITHREDU
Nid yw mynediad i yrfa yn y diwydiant Argraffu yn gyfyngedig ac nid oes unrhyw rwystrau sylweddol sy'n atal mynediad a dilyniant o fewn unrhyw un o'i rolau swydd. Er mwyn denu pobl ifanc i'r diwydiant, mae Proskills wedi datblygu nifer o Raglenni Ysgolion i Ddiwydiant. Rhaglenni a gefnogir gan y diwydiant yw'r rhain wedi'u dylunio i addysgu ac ennyn diddordeb pobl ifanc yn y byd gweithgynhyrchu proses, a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y cyfleoedd gyrfa cyffrous a heriol sydd ar gael o fewn y diwydiannau hyn.
PrintIT! oedd y cyntaf o blith y prosiectau diwydiannol ar gyfer ysgolion, ac mae'r prosiect wedi bod yn cael ei gynnal yn llwyddiannus iawn yn Lloegr ers dros 5 mlynedd. Prosiect a chystadleuaeth wedi'i seilio ar y diwydiant ydyw ar gyfer ysgolion, sy’n cyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol a Diplomas. Ei nod yw annog dysgwyr i ystyried llwybr gyrfa yn gysylltiedig â'r diwydiant argraffu a phapur yn y DU, drwy ofyn i fyfyrwyr gynllunio ymgyrch yn seiliedig ar ddeunydd wedi'i argraffu, ac wrth wneud hynny, cael dealltwriaeth o'r ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant argraffu modern, uwch-dechnoleg, a diwydiannau cysylltiedig.
Mae'r rhaglenni ysgol a diwydiant hyn yn cael eu cynnal yn llwyddiannus iawn yn Lloegr ar hyn o bryd ac, yn dilyn nifer o gynlluniau peilot, mae cynlluniau ar y gweill i'w darparu i ysgolion yng Nghymru. Mae gwefan gyrfaoedd Proskills, www.prospect4u.co.uk
wedi cael ei datblygu er mwyn helpu i godi proffil a gosod safonau sgiliau a chymwysterau a gyfer y sector prosesau a gweithgynhyrchu, ac mae'n sicrhau bod y system sgiliau yn cyflawni yn erbyn anghenion y diwydiannau a gynrychiolir ganddi yn bresennol ac yn y dyfodol.
Bydd Proskills yn mynychu ffeiriau gyrfa a digwyddiadau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol yn rheolaidd i hyrwyddo Prentisiaethau. Mae hyn gyfle delfrydol i fynd ati'n weithredol i ymdrin â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o'i ddiwydiannau.
Ystyrir bod Prentisiaeth Argraffu yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog mwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant, ac mae cynllun marchnata cyfredol ar waith i hyrwyddo Prentisiaethau Argraffu ar raddfa eang, ac i gynyddu'r nifer sy'n dilyn y brentisiaeth drwy godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael o fewn y diwydiant cyffrous hwn sy'n dal i ddatblygu.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Medr