Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Prosesu Metel a Gweithrediadau Cysylltiedig

Framework:
Prosesu Metel a Gweithrediadau Cysylltiedig
Lefel:
2

Nod y fframwaith hwn yw denu pobl ifanc i ddiwydiant cyffrous sy'n ehangu. Bydd yn darparu'r sgiliau, y wybodaeth sylfaenol a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen arnoch i weithio ar lefel gweithredwr neu led-grefftus mewn amgylchedd gweithgynhyrchu metelau gan gyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau gweithgynhyrchu diffiniedig.

Mae ymgeiswyr i'r llwybr hwn yn debygol o fod yn ddisgyblion sy'n ymadael â'r ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU, ac mewn rhai achosion wedi cwblhau gweithgarwch galwedigaethol perthnasol megis Diploma mewn Peirianneg, Prentisiaeth Ifanc neu brofiad gwaith estynedig.

Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector mewn cyd-destun prosesu neu weithgynhyrchu metelau, a'u bod yn ceisio ennill cymwysterau drwy ymgymryd â rhaglen brentisiaeth.

Bydd gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd:

  • â phrofiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol yn y sector;
  • wedi cwblhau Diploma 14 i 19 oed mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu;
  • â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (gradd D i E neu uwch);
  • wedi cwblhau rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau;
  • yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio mewn amgylchedd prosesu metelau;
  • yn barod i ymgymryd â chwrs hyfforddi yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle;
  • yn hoffi gwaith ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo;
  • wedi cwblhau Prentisiaeth Ifanc mewn Peirianneg neu faes cysylltiedig;
  • wedi ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru;
  • wedi cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach;
  • wedi cwblhau profion mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol a bod ganddynt ymwybyddiaeth ofodol.  

Opsiynau a lefelau llwybrau

Prosesu Metel a Gweithrediadau Cysylltiedig - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithredwr Castio (cynhyrchion metel lled-orffenedig), Gweithredwr Cynhyrchu Metelau, Gweithredwr Prosesu Ffowndri, Gweithredwr Gofannu, Gweithredwr Ffurfio Metelau a Gweithredwr Arolygu a Phrofi Prosesau Metelau.

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Lefel 3
  • Cyflogaeth
  • Addysg bellach
  • Dyrchafiad mewnol i lefel arweinydd tîm neu oruchwylydd.

Cymwysterau

Diploma NVQ Lefel 2 mewn Prosesu Metelau a Gweithrediadau Perthynol

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae'r llwybr yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phum cymhwyster TGAU gradd D neu E neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

Nid rheol gaeth mo hon, ac mae'n gallu amrywio yn ôl y llwybr (gweithredwr neu led-grefftus) ac addasrwydd ymgeiswyr unigol.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021