Skip to main content

Pathway

Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol

Mae SEMTA wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn Dyma'r unig Lwybr prentisiaeth yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch a Deunyddiau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

63 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3, Prosesu Metel .

Entry requirements

Mae'r Brentisiaeth Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol yn addas i ymgeiswyr â phum cymhwyster TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth. Ni chedwir yn llym at y gofynion hyn - gallant amrywio yn ôl rôl y swydd (crefftwr neu dechnegydd) ac addasrwydd ymgeiswyr unigol.

Mae cyflogwyr yn y diwydiant prosesu metel yn croesawu ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd, ac yn rhagweld y bydd ganddynt amrywiaeth eang o brofiadau, cyflawniadau a chymwysterau.

Bydd gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr:

  • sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu
  • sydd wedi cwblhau Brentisiaeth Sylfaen Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol neu
  • sydd wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
  • sy'n awyddus ac yn llawn cymhelliant i weithio mewn amgylchedd prosesu metel neu
  • sy'n barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r

 hyn a ddysgir yn y gweithle neu

  • sydd wedi cwblhau Prentisiaeth i Bobl Ifanc mewn Peirianneg neu faes ar all cysylltiedig
  • sydd â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
  • sydd wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at

Brentisiaeth gynt) neu

  • sydd wedi cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) neu gymwysterau Sgiliau Allweddol Ehangach neu
  • sydd â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
  • sydd wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a chanddynt ymwybyddiaeth ofodol

Gall y broses ddethol ar ran cyflogwyr gynnwys gweithgaredd asesu cychwynnol fel profion rhifedd, llythrennedd, sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth ofodol sylfaenol. Efallai y bydd cyfweliad hefyd yn cael ei gynnal i sicrhau bod darpar brentisiaid wedi dewis y sector galwedigaethol cywir i fodloni eu hanghenion a'u disgwyliadau hwy, ac anghenion a disgwyliadau'r cyflogwr.

Efallai y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Prosesu Metel

Lefel 3: Prosesu Metel Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Diploma NVQ Estynedig mewn Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/0542/8 600/8238/0 132 1320 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

Sylwer: Mae'r cymhwyster Diploma Estynedig NVQ hwn ar gyfer prentisiaid sy'n oedolion 25 oed a throsodd yn unig. Mae'n rhaid i brentisiaid allu arddangos gallu ymarferol tebyg i 3 uned ymarferol perthnasol CGP ar Lefel 2, ynghyd â hyfforddiant iechyd a diogelwch perthnasol.

Lefel 3 Diploma Technoleg Peirianneg (FfCCh)
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/0279/7 501/1130/9 105 1050 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 Diploma Peirianneg (FfCCh)
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0338/4 600/0882/9 54 540 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 Diploma Cenedlaethol Peirianneg Gweithgynhyrchu
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0783/3 601/7582/5 98 980 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 Diploma Technolegau Peirianneg (FfCCh)
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/0717/8 601/5801/3 68 680 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 Diploma Cenedlaethol Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/2955/6 601/9054/1 98 980 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 4 Tystysgrif Genedlaethol Uwch Peirianneg (Peirianneg Cyffredinol)
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/1163/6 603/0450/9 120 1200 Cyfun Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Prosesu Metel Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Prosesu Metel 310 949
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Llwybr ag isafswm oriau dysgu = 1382 o oriau hyfforddi

Tua 42 mis yw hyd y llwybr, yn dibynnu ar y cymwysterau a'r unedau a ddewisir.

Blwyddyn 1 = 395 awr. Blwyddyn 2 = 395 awr. Blwyddyn 3 = 395 awr. Blwyddyn 4 = 197 awr.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Dim

Progression

Dilyniant i'r llwybr:

Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar y llwybr hwn yn debygol o fod wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU neu Fagloriaeth Cymru ac, mewn rhai achosion, gweithgaredd galwedigaethol perthnasol fel Rhaglen Cyn Prentisiaeth neu brofiad gwaith estynedig.

Yn fwy penodol gallant:

  • fod wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu
  • fod wedi cwblhau Brentisiaeth Sylfaen Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol neu
  • fod wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
  • fod yn awyddus ac yn llawn cymhelliant i weithio mewn amgylchedd prosesu metel neu
  • fod yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith a chymhwyso'r

hyn a ddysgwyd yn y gweithle

  • fod wedi cwblhau Prentisiaeth i Bobl Ifanc mewn Peirianneg neu faes ar all cysylltiedig
  • fod â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
  • fod wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt) neu
  • fod wedi cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) neu gymwysterau Sgiliau Allweddol Ehangach neu
  • fod â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
  • fod wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a chanddynt ymwybyddiaeth ofodol

Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector, a'u bod bellach yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth. Byddai diddordeb arbennig yn cael ei ddangos i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector

Llwybrau dilyniant o'r llwybr hwn

Er y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid yn ceisio sicrhau dyrchafiad mewnol i arweinydd tîm neu rôl oruchwyliol, neu'n dilyn llwybr i rôl dechnegol o fewn eu cwmnïau, bydd rhai ohonynt

 eisiau symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch Peirianneg ar Lefel 4; efallai y bydd eraill yn penderfynu dewis Gradd Sylfaen neu HNC/HND. Ar y cyfan, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol gan ddilyn cymwysterau a noddir gan eu cwmni ar yr un pryd, fel y nodir uchod.

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae SEMTA yn sylweddoli bod cael prentisiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol yn esgor ar fanteision o ran hyfforddiant a busnes. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi pob agwedd ar ddethol a recriwtio prentisiaid. Mae cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn cyfeirio at weithredu i gael gwared ag unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon neu annheg yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp.

Er bod nifer calonogol o ferched a phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni Diploma 14-19 a'r Prentisiaethau i Bobl Ifanc ym maes Peirianneg a Gweithgynhyrchu, mae llawer o waith i'w wneud o fewn y sector Peirianneg i annog grwpiau wedi'u tangynrychioli i gychwyn gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.

Mae Semta yn dymuno gwneud Ymrwymiad Cydraddoldeb Rhywiol. Mae SEMTA wedi ymrwymo i siarter Prif Weithredwyr Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig (UKRC) mewn ymgais i gynyddu nifer yr merched sy'n cael eu recriwtio i'w sectorau a'i rhaglenni allweddol. Oherwydd y bylchau sydd ar y gorwel o ran sgiliau, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio a hyfforddi 187,000 o bobl rhwng 2010 a 2016 yn sectorau SEMTA - sef, metelau a chynnyrch metel wedi'i beiriannu, awyrofod, moduro, deunyddiau cyfansawdd, trydanol, electroneg, cynnal, morol, mathemateg, rheilffyrdd, deunyddiau adnewyddadwy a gwyddoniaeth.

Yr UKRC yw corff arweiniol y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (GPaTh), ac mae siarter y CEO yn ymrwymiad ffurfiol i agenda UKRC i herio tangynrychiolaeth ymhlith merched ym maes GPaTh. Er bod merched i gyfrif am 50% o'r farchnad lafur, maent i gyfrif am lai na 20% o'r farchnad lafur ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.

Cred yr UKRC mai cydymdrechu o fewn y diwydiant GPaTh yw'r unig ffordd o oresgyn rhwystrau'n gysylltiedig â rhyw a geir mewn amgylcheddau sydd yn draddodiadol wedi bod i ddynion yn bennaf, ac rydym am fod yn rhan o gonsensws newydd a fydd yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol i ferched. Yn draddodiadol dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r diwydiannau gweithgynhyrchu y mae'r Llwybr hwn yn gweithredu ynddynt. Fodd bynnag, wrth inni wynebu gweithlu sy'n heneiddio a'r tebygolrwydd o brinder sgiliau, mae'n rhaid inni ddenu ymgeiswyr newydd o gronfa recriwtio sy'n llawer mwy amrywiol.  Mae hyn yn golygu bod croeso i bob oedolyn a pherson ifanc sy'n ystyried peirianneg a gweithgynhyrchu fel gyrfa.

Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gan gynnwys cyflogwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddewis a chyflogi prentisiaid.

Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth a chyflogwyr fynd hefyd ati i fonitro gweithdrefnau cyfle cyfartal a amrywiaeth, a chymryd camau cadarnhaol lle bo angen i sicrhau mynediad a thriniaeth gyfartal i bawb. Mae'n rhaid ystyried prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog a hyrwyddo newid yng nghydraddoldeb ac amrywiaeth y diwydiant Peirianneg yn y tymor hir, felly mae'r amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn

eithriadol o hyblyg. Dylid gwneud pob ymdrech i gynyddu amrywiaeth ein poblogaeth o brentisiaid.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Datblygwyd y cymhwyster cymhwysedd i gefnogi rolau swydd amrywiol mewn gweithgareddau prosesu metel.

Mae'r cymwysterau gwybodaeth yn cynnig gwybodaeth ddamcaniaethol gyffredinol am beirianneg, yn sail ar gyfer y cymhwyster cymhwysedd.

Mae cyflogwyr wedi cytuno y dylai fod gan eu prentisiaid fynediad at nifer o wahanol gymwysterau gwybodaeth dechnegol, sy'n manylu ar raddau amrywiol o gysyniadau damcaniaethol sydd eu hangen yn y sector prosesu metel, gan gynnwys ystod eang o egwyddorion a phrosesau ym maes mathemateg, gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu peirianneg.

Gall y dulliau o gyflwyno cymwysterau sy'n seiliedig ar wybodaeth amrywio, rhwng amgylchedd coleg confensiynol a chyflwyno drwy gyfuniad o hynny a deunyddiau ysgrifenedig/ar y we/dysgu o bell.

Mae'n rhaid i brentisiaid sy'n dilyn fframwaith Lefel 3 gwblhau Diploma NVQ Estynedig Lefel 3 Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol (FfCCh). Fodd bynnag, os yw unedau CGP FfCCh perthnasol eisoes wedi'u cyflawni a'u hardystio mewn rhaglen flaenorol, ee ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r fframwaith Lefel 2 Gwella Perfformiad Gweithredol (llwybr Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2), byddant yn gallu achredu'r rhain yn erbyn gofynion y Diploma Lefel 3 Estynedig. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddai hyn yn golygu gostyngiad o isafswm o 123 o oriau a gwerth isafswm o 27 credyd yng ngofynion GLH y llwybr perthnasol. (yn dibynnu ar yr unedau CGP a gwblhawyd).

*Sylwer: Dim ond prentisiaid sy'n oedolion 25 oed a hŷn a gaiff ddilyn Diploma NVQ Estynedig Lefel 3 mewn Prosesu Metel a Gweithrediadau Perthynol, a bydd yn rhaid iddynt:

  1. fod wedi derbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol sy'n berthnasol i'r maes/amgylchedd gwaith y byddant yn gweithio ynddo
  1. fod wedi gweithio mewn amgylchedd peirianneg neu weithgynhyrchu a meddu ar sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n debyg yn fras i'r unedau NVQ Lefel 2 perthnasol a nodir yn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg, Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu neu NVQ Lefel 2 sgìl-benodol mewn peirianneg neu weithgynhyrchu.

Document revisions

19 Tachwedd 2021