- Framework:
- Gwella Perfformiad Gweithredol
- Lefel:
Mae'r Brentisiaeth hon yn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol i gyflawni amrywiaeth o brosesau peirianyddol a gweithgynhyrchu ar lefel lled-grefftus a gweithredol.
Mae'r llwybr Technegau Gwella Busnes yn sicrhau bod prosesau busnes yn cael eu cynllunio a'u gweithredu mor effeithlon â phosibl, gan nodi a lleihau gwastraff a sicrhau'r ansawdd gorau posibl.
Mae'r Fframwaith Sylfaen Lefel 2 yn cwmpasu amrywiaeth o alwedigaethau mewn tri llwybr.
Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio mewn diwydiant peirianneg neu weithgynhyrchu, ac maen nhw’n croesawu ymgeiswyr o ystod o gefndiroedd amrywiol ac yn rhagweld y bydd ganddynt ystod eang o brofiad, cyflawniadau a chymwysterau.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwella Perfformiad Gweithredol - Lefel 2
Addas ar gyfer swyddi Gweithredwyr Gwaith Metel a Pheiriannau, Rheoli Ansawdd (gwaith swp), Gweithredwr CNC, Gweithredwr Cynnal a Chadw a Gweithredwr Proses.
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu (CGG)
Addas ar gyfer swyddi Gweithredwr Prosesau Gweithgynhyrchu, Archwilydd Cynhyrchu a Gweithredwr Cydosod.
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes (TGB)
Addas ar gyfer swyddi Trin Deunyddiau, Gweithredwr Gweinyddu B-IT, Gweithredwr Rheoli Ansawdd B-IT a Gweithredwr Gweithle B-IT.
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes (TGB)
Addas ar gyfer swyddi Trin Deunyddiau, Gweithredwr Gweinyddu B-IT, Gweithredwr Rheoli Ansawdd B-IT a Gweithredwr Gweithle B-IT.
Mwy o wybodaeth
Hyd
12 mis
Llwybrau dilyniant
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Symud rhwng ac ar draws sectorau gweithgynhyrchu
- Prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3 sy'n cynnig dewis o 14 is-sector galwedigaethol fel awyrofod, modurol, morol, trydanol / electroneg.
Cymwysterau
Diploma NVQ Lefel 2 Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Diploma NVQ Lefel 2 Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu
Diploma NVQ Lefel 2 Technegau Gwella Busnes
Diploma NVQ Lefel 3 Technegau Gwella Busnes
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Mae'r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phum cymhwyster TGAU gradd D i E (graddau cyfwerth newydd 3 i 2) neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Bydd gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr sydd:
- â phrofiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol yn y sector
- wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu
- â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg, a phwnc Gwyddonol (gradd D i E neu radd 2 cyfwerth uwch/newydd neu gymhwyster uwch)
- wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt)
- nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ond eu bod yn gallu dangos, o bosibl drwy bortffolio, bod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon gan eu bod wedi gweithio yn y sector ar Lefel 2 o'r blaen
- yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio mewn amgylchedd peirianneg/gweithgynhyrchu a/neu amgylchedd proses/gwella ansawdd
- yn barod i ymgymryd â chwrs hyfforddi yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle
- yn hoffi gwaith ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo
- wedi cwblhau Prentisiaeth Ifanc mewn Peirianneg neu faes cysylltiedig arall neu gymhwyster Bagloriaeth Cymru
- wedi cwblhau'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol neu fod ganddynt ddiddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau
- wedi cwblhau profion mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol a bod ganddynt ymwybyddiaeth ofodol.
Lefel 3
Argymhellir yn gryf bod prentisiaid wedi cael:
- profiad gwaith blaenorol neu gyflogaeth yn y sector a/neu alwedigaeth berthnasol
- cyflawni N/SVQ Lefel 2 a/neu Lefel 3 neu gyfwerth mewn sector/galwedigaeth berthnasol fel peirianneg, gweithgynhyrchu neu wyddoniaeth
- cwblhau llwybr Prentisiaeth Sylfaen yn y sector perthnasol fel Gweithgynhyrchu Peirianneg neu Wella Perfformiad Gweithredol.