Mae SEMTA wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn Dyma'r unig Lwybr prentisiaeth yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch a Deunyddiau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
DYDDIAD CYHOEDDI: 04/04/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04237
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
81 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2.
72 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Lefel 2.
64 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Technegau Gwella Busnes Lefel 2.
152 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Technegau Gwella Busnes Lefel 3.
Gofynion mynediad
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg, Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu a Thechnegau Gwella Busnes.
Mae cyflogwyr yn dymuno denu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio mewn diwydiant peirianneg neu weithgynhyrchu, ac yn croesawu ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd. Rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth eang o brofiadau, cyflawniadau a chymwysterau.
Mae'r Brentisiaeth Lefel 2 yn addas i ymgeiswyr a chanddynt bum TGAU gradd D i E neu uwch, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth. Ni chedwir yn llym at y gofynion hyn - gallant amrywio yn ôl rôl y swydd (gweithredwr neu weithiwr lled-fedrus) ac addasrwydd ymgeiswyr unigol.
Bydd gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr:
- sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu
- sydd wedi cwblhau Diploma 14 i 19 Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
- a chanddynt gymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth (gradd D i E neu uwch) neu
- sydd wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at
Brentisiaeth gynt) neu
- sydd heb gymwysterau ffurfiol, ond a all ddangos, o bosib drwy bortffolio, fod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon, am eu bod wedi gweithio ar Lefel 2 yn y sector o'r blaen neu
- sy'n awyddus neu wedi'u hysgogi i weithio mewn amgylchedd peirianneg / gweithgynhyrchu ac/neu wella proses/ansawdd neu
- sy'n barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle neu
- sy'n gallu meddwl yn ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo neu
- sydd wedi cwblhau Prentisiaeth i Bobl Ifanc mewn Peirianneg neu faes arall cysylltiedig
- â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- sydd wedi cwblhau'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (ESQ) neu
- sydd â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
- sydd wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a chanddynt ymwybyddiaeth ofodol.
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes
Mae cyflogwyr yn dymuno denu ymgeiswyr a chanddynt diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd lle mae sicrhau gwelliant parhaus i gynnyrch, prosesau neu wasanaethau'r sefydliad yn hollbwysig am resymau busnes, er mwyn parhau i fod yn gystadleuol. Maent yn croesawu ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd ac yn rhagweld y bydd ganddynt amrywiaeth eang o brofiadau, cyflawniadau a chymwysterau.
Maent wedi argymell yn gryf y byddai ganddynt ddiddordeb mewn ymgeiswyr:
- sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector perthnasol ac/neu alwedigaeth
- sydd wedi cwblhau N/SVQ Lefel 2 ac/neu Lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth mewn sector/galwedigaeth berthnasol fel peirianneg, gweithgynhyrchu neu wyddoniaeth
- sydd wedi cwblhau llwybr Prentisiaeth Sylfaen yn y sector perthnasol, fel:
Gweithgynhyrchu Peirianneg neu Wella Perfformiad Gweithredol.
Gall cyflogwyr hefyd ystyried ymgeiswyr sydd:
- yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith a chymhwyso'r
hyn a ddysgwyd yn y gweithle
- yn gallu dadansoddi, ac yn meddu ar y ddawn i ganfod atebion i broblemau
- yn mwynhau gweithio fel aelod o dîm
- ag o leiaf 5 cymhwyster TGAU neu gymwysterau cyfwerth, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth - gradd C neu uwch neu
- â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- â Safonau Uwch neu gymwysterau cyfwerth mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth, Busnes neu bwnc galwedigaethol arall sy'n berthnasol i'r sector
Efallai y bydd Ymgeiswyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (CGP)
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (CGP) Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 2 Diploma NVQ Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0571/2 600/9471/0 | 40 | 400 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
EAL | C00/0543/0 600/8264/1 | 40 | 400 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Lefel 2 Dyfarniad Ymwybyddiaeth o'r Amgylchedd Diwydiannol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0102/8 500/6147/1 | 12 | 120 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
Lefel 2 Diploma Technoleg Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0158/1 500/7595/0 | 39 | 390 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
Lefel 2 Tystysgrif Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0338/1 600/0880/5 | 35 | 350 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Lefel 3 Diploma Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0338/4 600/0882/9 | 54 | 540 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma Technoleg Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0279/7 501/1130/9 | 78 | 780 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0338/2 600/0881/7 | 42 | 420 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Technolegau Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0718/2 601/5670/3 | 25 | 260 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma Technolegau Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0718/1 601/5669/7 | 39 | 390 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Dyfarniad BTEC Lefel 3 Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Gwybodaeth Dechnegol Datblygu) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson | C00/2955/5 601/9053/X | 49 | 492 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Tystysgrif Lefel 3 BTEC Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Gwybodaeth Dechnegol Datblygu) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson | C00/2955/3 601/9049/8 | 73 | 730 | Cyfun | Saesneg-Cymraeg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (CGP) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (CGP) | 214 | 238 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 (pob is-sector gweithgynhyrchu)
Os ydych chi'n dilyn Llwybr cymhwyster Gwybodaeth Lefel 2 a chanddo isafswm oriau dysgu (tystysgrif dechnegol Lefel 2) = 452 o oriau hyfforddi.
• Cymhwysedd = isafswm o 214 awr/isafswm o 40 credyd
• Gwybodaeth = isafswm o 70 o oriau (y dystysgrif dechnegol leiaf) / isafswm o 12 o gredydau
Os ydych chi'n dilyn Llwybr cymhwyster Gwybodaeth Lefel 3 a chanddo isafswm oriau dysgu (tystysgrif dechnegol Lefel 3) = 642 o oriau hyfforddi.
• Cymhwysedd = isafswm o 214 awr/isafswm o 40 credyd
• Gwybodaeth = isafswm o 260 o oriau (y dystysgrif dechnegol leiaf) / isafswm o 37 o gredydau
Isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu (CGG)
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu (CGG) Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 2 Diploma NVQ EAL Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0219/7 501/0928/5 | 48 | 216 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
City & Guilds | C00/0287/8 501/1313/6 | 48 | 216 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Dyfarniad Ymwybyddiaeth o'r Amgylchedd Diwydiannol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0102/8 500/6147/1 | 12 | 70 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma Technoleg Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0158/1 500/7595/0 | 39 | 330 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0338/1 600/0880/5 | 35 | 350 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Technolegau Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0718/2 601/5670/3 | 25 | 250 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma Technolegau Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0718/1 601/5669/7 | 39 | 390 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu (CGG) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu (CGG) | 216 | 224 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Lefel 2 (pob is-sector gweithgynhyrchu)
Llwybr a chanddo isafswm oriau dysgu = 440 o oriau hyfforddi
• Cymhwysedd = isafswm o 216 awr/isafswm o 48 credyd
• Gwybodaeth = isafswm o 56 o oriau (y dystysgrif dechnegol leiaf) / isafswm o 12 o gredydau
Isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes (TGB)
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes (TGB) Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 2 Diploma NVQ Technegau Gwella Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0997/4 500/6590/7 | 56 | 560 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Technegau Gwella Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0181/9 501/1495/5 | 18 | 180 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif Cymhwyso Technegau Gwella Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0604/4 601/1686/9 | 13 | 130 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes (TGB) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes (TGB) | 249 | 224 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr a chanddo isafswm oriau dysgu = 473 o oriau hyfforddi
• Cymhwysedd = isafswm o 249 awr/isafswm o 56 credyd
• Gwybodaeth = isafswm o 56 o oriau (yn seiliedig ar y dystysgrif dechnegol leiaf)/isafswm o 13 o gredydau
Yr isafswm amser ar gyfer cwblhau'r llwybr yw 12 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes (TGB)
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes (TGB) Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 3 Diploma NVQ Technegau Gwella Busnes (FfCCh) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0219/6 501/0856/6 | 94 | 940 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
BIIAB | C00/0754/2 601/6607/1 | 94 | 940 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma Technegau Gwella Busnes | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
EAL | C00/0408/4 600/3559/6 | 40 | 400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
BIIAB | C00/0753/9 601/6603/4 | 40 | 400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes (TGB) | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes (TGB) | 320 | 456 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Llwybr a chanddo isafswm oriau dysgu = 776 o oriau hyfforddi
• Cymhwysedd = isafswm o 320 awr/isafswm o 94 credyd
• Gwybodaeth = isafswm o 170 awr / isafswm o 40 credyd (yn seiliedig ar oriau hyfforddi'r dystysgrif dechnegol leiaf)
Tua 18 mis yw hyd y llwybr, yn dibynnu ar yr opsiynau cymhwyster ac uned a ddewisir.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'r llwybr hwn
Dilyniant
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
Llwybrau dilyniant i'r llwybr hwn
Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar y llwybr hwn yn debygol o fod wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU, ac mewn rhai achosion, gweithgaredd galwedigaethol perthnasol fel Diploma Peirianneg, Bagloriaeth Cymru, Bagloriaeth Cymru (gyda Phrif Ddysgu) neu gwblhau rhaglen Cyn Prentisiaeth neu brofiad gwaith estynedig. Yn fwy penodol gallant:
- fod wedi cael profiad gwaith neu fod wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu
- fod wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
- fod wedi ennill cymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth (gradd D i E neu uwch/gradd 2 gyfwerth newydd neu'n uwch) neu
- fod wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt) neu
- fod yn awyddus ac wedi'u hysgogi i weithio yn y diwydiant peirianneg/gweithgynhyrchu neu
- fod yn ymarferol eu meddwl ac am weithio gyda'u dwylo neu
- fod yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn y gweithle neu
- fod wedi cwblhau Cyn-Brentisiaeth mewn Peirianneg neu faes arall cysylltiedig neu
- fod â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- fod wedi cwblhau'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (EQS) neu
- fod â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
- fod wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a meddu ar ymwybyddiaeth ofodol.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector mewn cyd-destun peirianneg neu weithgynhyrchu, a'u bod yn awr yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth. Byddai diddordeb arbennig yn cael ei ddangos i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector.
Llwybrau dilyniant o'r llwybr hwn:
Mae'n debygol y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid Sylfaen yn symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3 ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon, gan mai'r CGP llawn yw'r dull a ffefrir ymhlith cyflogwyr ar y rhaglen hon er mwyn ennill sgiliau peirianneg sylfaenol.
Yn fwy cyffredinol, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn dechrau drwy gyflawni rolau swydd lled-fedrus o fewn gweithgynhyrchu a pheirianneg (gweler y rolau swydd a ddisgrifir ar gyfer y llwybr). Mae'n debygol y bydd angen cyfnod o gyfnerthu sgiliau yn y rolau hyn cyn y gellir symud ymlaen. Bydd y rhan fwyaf yn anelu i gyfuno dyrchafiad mewnol o fewn eu cwmnïau i lefel arweinydd tîm neu oruchwylydd, a fydd ar yr un pryd yn cynnig cyfle iddynt ddilyn cymwysterau addysg bellach neu Brentisiaeth i uwchraddio eu cymhwysedd a'u gwybodaeth i statws medrusrwydd llawn. Mae'r Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3 yn cynnig dewis o 14 is-sector galwedigaethol fel awyrofod, modurol, morol, trydanol/electronig ac ati. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd. Os ydynt yn symud ymlaen i lwybr Lefel 3 ac eisoes wedi ennill Tystysgrif Dechnegol Lefel 3, bydd y deiliaid contract Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) yn ei gwneud hi'n bosibl cynnwys Tystysgrif Dechnegol Lefel 4, yn dibynnu ar y galw o fewn y diwydiant.
Gall natur gyffredinol NVQ Lefel 2 Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg hefyd ganiatáu i brentisiaid symud rhwng ac ar draws sectorau.
Lefel 2: Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu
Llwybrau dilyniant i'r llwybr hwn:
Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar y llwybr hwn yn debygol o fod wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU, ac mewn rhai achosion, gweithgaredd galwedigaethol perthnasol fel Diploma Peirianneg, Rhaglen Cyn Prentisiaeth, Bagloriaeth Cymru, Bagloriaeth Cymru (gyda Phrif Ddysgu) neu gwblhau rhaglen Llwybrau i Brentisiaethau neu brofiad gwaith estynedig. Yn fwy penodol gallant:
- fod wedi cael profiad gwaith neu fod wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu
- fod wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
- feddu ar gymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (gradd D i E neu uwch)
- fod wedi cwblhau Rhaglen Beirianneg Uwch (y rhaglen Llwybrau at Brentisiaeth gynt) neu
- fod yn awyddus ac wedi'u hysgogi i weithio yn y diwydiant peirianneg/gweithgynhyrchu neu
- fod â meddwl ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo neu
- fod yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith a chymhwyso'r
- hyn a ddysgwyd yn y gweithle neu
- fod wedi cwblhau rhaglen Cyn-Brentisiaeth mewn Peirianneg neu faes arall cysylltiedig neu
- fod â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- wedi cwblhau'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (ESQ) neu
- fod â diddordeb mewn datrys problemau a threfnu gweithgareddau neu
- fod wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol a meddu ar ymwybyddiaeth ofodol.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad o weithio yn y sector mewn cyd-destun gweithgynhyrchu,a'u bod bellach yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.
Byddai'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector mewn cyd-destun gweithgynhyrchu, ac sydd bellach yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth o ddiddordeb arbennig.
Llwybrau dilyniant o'r llwybr hwn:
Mae'n debygol y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid Sylfaen yn symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3 ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, gan mai dyma'r dull o gaffael sgiliau gweithgynhyrchu sylfaenol a ffefrir ymhlith cyflogwyr.
Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn dechrau drwy gyflawni rolau swydd lled-fedrus o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae'n debygol y bydd angen cyfnod o gyfnerthu sgiliau yn y rolau hyn cyn y gellir symud ymlaen. Bydd y rhan fwyaf yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol o fewn y cwmni i lefel arweinydd tîm neu oruchwylydd, a fydd ar yr un pryd yn cynnig cyfle i ddilyn cymwysterau addysg bellach neu Brentisiaeth i uwchraddio eu cymhwysedd a'u gwybodaeth i statws medrusrwydd llawn.
Mae'r Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3 yn cynnig dewis o 14 is-sector galwedigaethol fel awyrofod, modurol, morol, trydanol / electroneg ac ati. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd.
Gall natur gyffredinol NVQ Lefel 2 Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu hefyd ganiatáu i fwy o brentisiaid symud rhwng ac ar draws sectorau gweithgynhyrchu.
Lefel 2: Technegau Gwella Busnes
Llwybrau dilyniant i'r llwybr hwn:
Mae'n debygol y bydd cymysgedd o ymgeiswyr yn cael eu derbyn i'r llwybr hwn. Er y bydd rhai wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU, ac mewn rhai achosion, gweithgarwch galwedigaethol perthnasol fel Diploma Gweithgynhyrchu neu weithgarwch arall cysylltiedig. Rhaglen Cyn Prentisiaeth neu brofiad gwaith estynedig - mae'n debygol iawn y bydd prentisiaid hŷn yn y categori oedran 18 i 24 ac oedolion dros 25 oed hefyd yn defnyddio'r llwybr hwn, os ydynt wedi gweithio mewn cyd-destun a ysgogir gan broses, ac erbyn hyn yn ystyried Prentisiaeth Sylfaen. Byddai diddordeb arbennig yn cael ei ddangos i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector.
Byddai'r llwybr hwn yn arbennig o addas i'r bobl hynny sy'n dda am ddatrys problemau ac sy'n mwynhau trefnu gweithgareddau.
Llwybrau dilyniant o'r llwybr hwn:
Pwrpas y llwybr hwn yw galluogi cyflogeion wedi'u hyfforddi mewn Technegau Gwella Busnes i gyfrannu at effeithlonrwydd cyffredinol eu busnes gweithgynhyrchu neu beirianneg. Mae'r NVQ yn trafod sut i sicrhau gwelliant parhaus i'r prosesau a'r gweithdrefnau'n gysylltiedig â chyflawni gwaith. Mae'n debygol y bydd Prentisiaid Sylfaen, ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, yn symud ymlaen i weithio ar agweddau amrywiol ar y busnes i nodi a chael gwared â gwastraff, creu llif a gwella ansawdd, gan greu mwy o effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb.
Yn fwy cyffredinol, mae'r rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol o fewn eu cwmni i lefel arweinydd tîm neu oruchwylydd, ac ar yr un pryd yn dilyn cymwysterau Addysg Bellach i gynyddu eu gwybodaeth.
Bydd rhai prentisiaid yn symud ymlaen i gwblhau'r Brentisiaeth Gwella Gweithrediadau ac Ansawdd. Cynhyrchwyd y Brentisiaeth honno mewn partneriaeth â chyflogwyr o bwys a'u cadwynau cyflenwi i ddatblygu cronfa o dalentau ar draws y DU, er mwyn helpu busnesau i ddatblygu'n fwy cynhyrchiol a pharhau i fod yn cystadleuol, yn aml mewn marchnadoedd byd-eang.
Lefel 3: Technegau Gwella Busnes
Llwybrau dilyniant i'r llwybr hwn:
Mae'n debygol y bydd cymysgedd o ymgeiswyr yn cael eu derbyn i'r llwybr hwn. Bydd rhai wedi gadael yr ysgol ar ôl cwblhau eu hastudiaethau TGAU neu Fagloriaeth Cymru, ac mewn rhai achosion gweithgarwch galwedigaethol perthnasol fel Diploma Gweithgynhyrchu neu weithgarwch arall cysylltiedig, Rhaglen Cyn Prentisiaeth neu brofiad gwaith estynedig. Fodd bynnag, mae'n debygol iawn y bydd prentisiaid hŷn yn y categori oedran 18 i 24 ac oedolion dros 25 oed, sydd wedi gweithio mewn cyd-destun a ysgogir gan broses, ac sydd bellach yn ystyried Prentisiaeth, hefyd yn defnyddio'r llwybr hwn. Byddai diddordeb arbennig yn cael ei ddangos i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector. Yn fwy penodol gallant:
- fod â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth - gradd C neu uwch neu
- fod â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu
- fod â Safonau Uwch neu UG mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg neu
- fod wedi cwblhau Prentisiaeth sylfaen fel y Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Peirianneg neu Wella Perfformiad Gweithredol neu
- fod yn awyddus ac wedi'u hysgogi i weithio yn y sector a'r amgylchedd gwaith dan sylw neu
- fod yn barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn y gweithle neu
- fod wedi cael profiad gwaith neu wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu'r alwedigaeth neu
- fod wedi cwblhau Diploma 14 i 19 mewn disgyblaeth gysylltiedig fel y Diploma Peirianneg neu Weithgynhyrchu neu
- fod wedi cwblhau Prentisiaeth i Bobl Ifanc mewn Peirianneg neu sector arall cysylltiedig.
Byddai'r llwybr hwn yn arbennig o addas i'r bobl hynny sy'n dda am ddatrys problemau ac sy'n mwynhau trefnu gweithgareddau.
Dilyniant o'r llwybr
Pwrpas y llwybr hwn yw galluogi cyflogeion i gyfrannu'n gyffredinol at wella busnes. Bydd y cydrannau sydd wedi'u cynnwys yn Gwella Gweithrediadau ac Ansawdd yn sicrhau y gall cyflogeion wella prosesau a gweithdrefnau'n barhaus, gan nodi a chael gwared â gwastraff, creu proses sy'n llifo'n effeithlon a gwella ansawdd gan sicrhau mwy o effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb.
Er y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid y ceisio sicrhau dyrchafiad mewnol o fewn eu cwmnïau, bydd rhai eisiau symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch fel y Brentisiaeth Uwch mewn
Gweithgynhyrchu Uwch; efallai y bydd eraill yn dewis dilyn Gradd Sylfaen neu HNC/HND. Yn fwy cyffredinol, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol gan ddilyn cymwysterau a noddir gan eu cwmni, fel y nodir uchod, ar yr un pryd.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny
Mae SEMTA yn sylweddoli bod cael prentisiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol yn esgor ar fanteision o ran hyfforddiant a busnes. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi pob agwedd ar ddethol a recriwtio prentisiaid. Mae cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn cyfeirio at weithredu i gael gwared ag unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon neu annheg yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp.
Mae SEMTA yn dymuno gwneud Ymrwymiad Cydraddoldeb Rhywiol. Mae SEMTA wedi ymrwymo i siarter Prif Weithredwyr Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig (UKRC) mewn ymgais i gynyddu nifer yr merched sy'n cael eu recriwtio i'w sectorau a'i rhaglenni allweddol.
Oherwydd y bylchau sydd ar y gorwel o ran sgiliau, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio a hyfforddi 187,000 o bobl rhwng 2010 a 2016 yn sectorau SEMTA - sef, awyrofod, moduro, biowyddoniaeth, deunyddiau cyfansawdd, trydanol, electroneg, cynnal, morol, mathemateg, metelau a chynnyrch metel wedi'i beiriannu, deunyddiau adnewyddadwy a gwyddoniaeth.
Yr UKRC yw corff arweiniol y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (GPaTh), ac mae siarter y CEO yn ymrwymiad ffurfiol i agenda UKRC i herio tangynrychiolaeth ymhlith merched ym maes GPaTh. Er bod merched i gyfrif am 50% o'r farchnad lafur, maent i gyfrif am lai na 20% o'r farchnad lafur ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.
Cred UKRC mai cydymdrechu o fewn y diwydiant GPaTh yw'r unig ffordd o oresgyn rhwystrau'n gysylltiedig â rhyw a geir mewn amgylcheddau sydd yn draddodiadol wedi bod i ddynion yn bennaf, ac rydym am fod yn rhan o gonsensws newydd a fydd yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol i ferched.
Yn draddodiadol dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r diwydiannau gweithgynhyrchu y mae'r Llwybr hwn yn gweithredu ynddynt. Fodd bynnag, wrth inni wynebu gweithlu sy'n heneiddio a'r tebygolrwydd o brinder sgiliau, mae'n rhaid inni ddenu ymgeiswyr newydd o gronfa recriwtio sy'n llawer mwy amrywiol. Mae hyn yn golygu bod croeso i bob oedolyn a pherson ifanc sy'n ystyried peirianneg a gweithgynhyrchu fel gyrfa.
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth a chyflogwyr fynd ati i fonitro gweithdrefnau cyfle cyfartal a amrywiaeth, a chymryd camau cadarnhaol lle bo angen i sicrhau mynediad a thriniaeth gyfartal i bawb. Mae'n rhaid ystyried prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog a hyrwyddo newid yng nghydraddoldeb ac amrywiaeth y sector Peirianneg yn y tymor hir, felly mae'r amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn eithriadol o hyblyg. Dylid gwneud pob ymdrech i gynyddu amrywiaeth ein poblogaeth o brentisiaid
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach, ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Medr