- Framework:
- Nyrsio Milfeddygol
- Lefel:
- 3
Fel Nyrs Milfeddygol, byddwch yn gweithio fel aelod o’r tîm milfeddygol, yn darparu gofal nyrsio arbenigol i anifeiliaid sâl, triniaethau rheolaidd ac yn cyfrannu mewn modd arwyddocaol at addysgu perchnogion am gynnal iechyd eu hanifeiliaid anwes. Ar ôl cymhwyso, gallwch gynnal profion diagnostig amrywiol, triniaethau meddygol a mân-weithdrefnau llawfeddygol o dan gyfarwyddyd milfeddygol. Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol at hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid drwy gefnogi ac addysgu cleientiaid milfeddygol.
Mae Nyrsys Milfeddygol Ceffylau Cofrestredig yn darparu gofal arbenigol, cymorth a thriniaeth i geffylau dan gyfarwyddyd milfeddygol ac yn gwneud cyfraniad allweddol wrth hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid drwy gefnogi ac addysgu cleientiaid milfeddygol.
Mae nyrsys milfeddygol profiadol yn cael y cyfle i fod yn brif nyrsys a rheolwyr ymarfer, gweithio mewn canolfannau atgyfeirio arbenigol, dysgu mewn colegau amaethyddol a phrifysgolion a gweithio mewn diwydiannau cyflenwi fferyllol a milfeddygol.
Mae’r fframwaith hwn hefyd yn cynnig llwybr camu ymlaen i faes ymddygiad anifeiliaid, seicoleg anifeiliaid a nyrsio meddygol a llawfeddygol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Nyrsio Milfeddygol – Lefel 3
Llwybr 1: Anifeiliaid Bach - addas ar gyfer swyddi Nyrs Milfeddygol Anifeiliaid Bach a Phrif Nyrs Milfeddygol.
Llwybr 2: Ceffylau – addas ar gyfer swyddi Nyrs Milfeddygol Ceffylau a Phrif Nyrs Milfeddygol Ceffylau.
Mwy o wybodaeth
Hyd
3 blynedd
Llwybrau dilyniant
Camu ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSC). Mae enghreifftiau o gyrsiau sydd ar gael ledled y DU yn cynnwys:
- Nyrsio Milfeddygol gyda Rheoli Busnes
- Nyrsio Milfeddygol ac Ymddygiad Anifeiliaid
- Nyrsio Milfeddygol a Rheoli Ymarfer
- Gwyddorau Milfeddygol
- Nyrsio Milfeddygol Ceffylau
Mynd ymhellach mewn Addysg Uwch gyda chyrsiau fel Gradd Meistr a allai gynnwys:
- Epidemioleg Filfeddygol ac Iechyd Cyhoeddus drwy Ddysgu o Bell
- Gwyddorau Milfeddygol
- Gwyddorau Milfeddygol Clinigol
Cymwysterau
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol mewn llwybr o’ch dewis
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Gan fod y diwydiant yn cael ei reoleiddio’n drylwyr, mae’n ofynnol gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon fod gan ymgeiswyr bum TGAU gradd C neu uwch. Mae’n rhaid i’r pynciau gynnwys:
- Saesneg iaith;
- Mathemateg; a
- Pwnc gwyddoniaeth a 2 TGAU arall.
Os nad oes gennych chi gymwysterau o’r fath, efallai y bydd gennych gymwysterau amgen sy’n amlwg yn gyfwerth. Mae rhai cymwysterau amgen posibl a allai fod yn dderbyniol yn cynnwys:
- Diploma Lefel 2 ABC ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid seiliedig ar Waith (FfCC)
- Tystysgrif Lefel 2 ABC ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid (FfCC)
- Diploma Lefel 2 City & Guilds ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid (FfCC) CQ
- Diploma Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol (FfCC).
Pennir bod y cymwysterau hyn yn dderbyniol fel cymwysterau mynediad gan eu bod hefyd yn ymgorffori profiad seiliedig ar waith sylweddol, sy’n uniongyrchol berthnasol i hyfforddiant nyrsio milfeddygol. Fodd bynnag, mae’r cymwysterau hyn yn dderbyniol dim ond os ydynt yn mynd law yn llaw â Sgiliau Hanfodol neu Allweddol ar lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu neu’r TGAU perthnasol.
Gweld llwybr llawn