Skip to main content

Llwybr

Nyrsio Milfeddygol

Mae Lantra wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Amaeth a'r Amgylchedd a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

DYDDIAD CYHOEDDI: 10/11/2021 ACW Fframwaith Rhif. FR05014

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

Yr isafswm gwerth credyd sy'n ofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Nyrsio Milfeddygol (gan gynnwys cymwysterau a Sgiliau Hanfodol) yw:

- Anifeiliaid Bach ac Anwes: 313 credyd

  • Ceffylau: 313 credyd

HYD

Lefel 3:

Hyd at 36 mis (hyblyg)

Gofynion mynediad

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol

Mae Sefydliadau Dyfarnu yn pennu'r gofynion mynediad ar gyfer y cymwysterau yn y rhaglen. Mae Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) yn cymeradwyo'r gofynion yn rhan o'r broses achredu. Gan fod y diwydiant yn cael ei reoleiddio'n llym, dyma'r gofynion mynediad ar gyfer y Brentisiaeth Nyrsio Milfeddygol:

  • 5 TGAU ar raddau A* -C (neu 9-4). Mae'n rhaid i'r pynciau gynnwys Saesneg Iaith, Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth yn ogystal â 2 TGAU arall.
    Os nad oes gan ymgeisydd y cymwysterau hynny, efallai y bydd ganddo gymwysterau eraill y gellir dangos eu bod o werth cyfatebol.

Pwrpas y cymwysterau mynediad gofynnol yw sicrhau bod darpar brentisiaid mewn sefyllfa i:

  • Ymdopi â lefel a chwmpas y dysgu sydd ei angen er mwyn ennill y cymwysterau cofrestradwy ym maes nyrsio milfeddygol.

a

  • Gweithredu'n effeithiol ac yn ddiogel fel myfyriwr nyrsio milfeddygol mewn practis milfeddygol.

Dyma rai cymwysterau eraill a allai fod yn dderbyniol:

  • Diploma Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid Seiliedig ar Waith
  • Diploma Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
  • Tystysgrif Lefel 2 i Gynorthwywyr Nyrsio Anifeiliaid
  • Diploma Lefel 2 ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol
  • Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid Seiliedig ar Waith

Ystyrir bod y cymwysterau hyn yn dderbyniol fel cymwysterau mynediad am eu bod hefyd yn cynnwys swm sylweddol o brofiad seiliedig ar waith, sydd yn berthnasol yn uniongyrchol i hyfforddiant nyrsio milfeddygol. Fodd bynnag, nid yw'r cymwysterau hyn ond yn dderbyniol ar y cyd â Sgiliau Hanfodol, Gweithredol neu Allweddol ar lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, neu'r cymwysterau TGAU perthnasol.

Yn ogystal, ar gyfer: Nyrsio Milfeddygol - Ceffylau

Bydd yn rhaid i bob myfyriwr allu ennill Cymwyseddau Diwrnod Un a Sgiliau i Nyrsys Milfeddygol gan yr RCVS.  Mae'n bosibl y ceir rhai cyfyngiadau corfforol yn rhannau o'r rôl nyrsio milfeddygol, yn enwedig wrth drafod a gweithio gydag anifeiliaid. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i bobl ag anabledd corfforol weithio yn rhan arall o'r diwydiant. Mae'n ofynnol i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sicrhau na cheir unrhyw achosion o wahaniaethu mewn modd annheg.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:

Lefel 3 Diploma mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Central Qualifications C00/1206/6 603/2318/8 299 2990 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Lantra Awards C00/4450/9 603/6677/1 420 4200 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Lefel 3 Diploma mewn Nyrsio Milfeddygol - Practis Ceffylau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Central Qualifications C00/1206/7 603/2317/6 299 2990 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Lantra Awards C00/4451/0 603/6676/X 420 4200 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 7
Cymhwyso Rhif 2 7

Mae grwpiau'r diwydiant wedi penderfynu peidio cynnwys Sgiliau Digidol (Sgiliau Hanfodol Cymru) fel elfen orfodol yn y rhaglen, gan fod y rhaglen hyfforddi o fewn y Brentisiaeth Nyrsio Milfeddygol eisoes yn trafod sgiliau digidol hyd at lefel sylweddol.

Mae WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) yn orfodol ac efallai y bydd darparwyr hyfforddiant yn gallu creu eu cwestiynau sector-benodol eu hunain drwy ddefnyddio canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru/Medr.

https://www.tribalgroup.com/software-and-services/student-information-systems/wales-essential-skills-toolkit

 

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Gan fod hyd y Brentisiaeth yn hyblyg (hyd at 36 mis), bydd cyfanswm yr oriau dysgu, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, hefyd yn amrywio. Yn seiliedig ar oriau gwaith amser llawn blynyddol, bydd hyn yn golygu 1615 o oriau am 12 mis, pro rata ar gyfer unrhyw gyfnod arall.

Cymysgedd addas / hyblyg - argymhellir isafswm o oddeutu 20% i ffwrdd o'r gwaith. Yn dibynnu ar hyd y brentisiaeth, bydd hyn yn golygu 323 o oriau o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith bob blwyddyn.

Gall yr oriau hyn amrywio yn ôl profiad blaenorol a chyrhaeddiad y prentis, a'r amser a gymerir i gwblhau'r rhaglen brentisiaeth.

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol Based on annual full-time working hours 1292 per year 20% recommended, based on annual full-time working hours: 323 hours per year

Mae'n rhaid i bob prentis fodloni Rheolau Cofrestru Nyrsys Milfeddygol cyfredol yr RCVS. Ceir hyd i ofynion sylfaenol yr RCVS ar wefan y coleg.

Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

299 credyd/2990 o oriau TQT ar gyfer Diploma Lefel 3 CQ mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bachneu Ddiploma Lefel 3 CQ mewn Nyrsio Milfeddygol - Practis Ceffylau

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 7 credyd/70 o oriau TQT ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol
Dylid annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau ychwanegol, fel tystysgrifau mewn:

  • Cymorth Cyntaf Brys (cwrs undydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch HSE)
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Rolau swydd

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol

Gall rolau swydd ar Lefel 3 (Prentisiaeth) gynnwys:

Nyrs Filfeddygol

Mae mwyafrif y Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig (RVNs) yn gweithio mewn milfeddygfa neu ysbyty milfeddygol ac yn ymwneud ag ystod eang o ofal a thriniaethau ar gyfer anifeiliaid. Mae RVNs yn gyfrifol am ddarparu gofal nyrsio arbenigol ar gyfer anifeiliaid sâl ynghyd â chynnal mân lawdriniaethau, monitro anesthesia, triniaethau meddygol a phrofion diagnostig o dan gyfarwyddyd milfeddygol.

Gall RVNs weithio mewn practisau cyffredinol/practisau gofal sylfaenol, ysbytai atgyfeirio neu sŵau. Gall meysydd gwaith eraill gynnwys cynhyrchion fferyllol milfeddygol, y diwydiant yswiriant anifeiliaid anwes, ymchwil, addysgu neu ddarlithio.

Nyrs Filfeddygol (Ceffylau)

 

Mae Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig (RVNs) sy'n arbenigo mewn Ceffylau yn darparu gofal, cymorth a thriniaethau arbenigol i geffylau, o dan gyfarwyddyd milfeddygon. Mae RVNs (Ceffylau) yn gyfrifol am roi gofal nyrsio arbenigol i geffylau sâl yn ogystal â chynnal mân lawdriniaethau, monitro anesthesia, triniaethau meddygol a phrofion diagnostig o dan gyfarwyddyd milfeddygol. Maent hefyd yn cyfrannu'n allweddol at hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid drwy gefnogi ac addysgu cleientiaid y filfeddygfa.

Nyrs Filfeddygol (Adsefydlu)

Gall gwaith Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig (RVNs) sy'n arbenigo mewn adsefydlu gynnwys hydrotherapi a ffisiotherapi i anifeiliaid.

Prif Nyrs Filfeddygol

Goruchwylio tîm o nyrsys milfeddygol ac/neu gynorthwywyr nyrsio a staff cymorth mewn practis milfeddygol. Gallai teitlau swydd eraill hefyd gynnwys y rôl hon.

Rheolwr Practis Milfeddygol

 

Ceir llawer o gyfleoedd ym maes ymarfer i rai a chanddynt sgiliau rheoli ac arwain da. Mae'r gallu i gynllunio, datrys problemau a chyfathrebu yn rhinweddau pwysig o fewn y rôl hon. Mae Rheolwyr Practis Milfeddygol yn sicrhau bod gwaith beunyddiol yn cael ei gynnal yn ddidrafferth yn y clinig, gan alluogi milfeddygon i ganolbwyntio ar waith meddygol yn unig, yn hytrach nag ar y manylion niferus sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes.

Defnyddir nifer o deitlau swydd sy'n newid yn rheolaidd ar gyfer gwahanol rolau ym maes nyrsio milfeddygol. Ceir hyd i wybodaeth bellach ac astudiaethau achos yn www.vnfutures.org.uk

 

Dilyniant

Lefel 3: Nyrsio Milfeddygol

Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus yn cael cyfle i fynd rhagddynt o fewn y diwydiant, drwy symud ymlaen i Gyrsiau Addysg Uwch fel HNC/D, Gradd Sylfaen (Fdg/FdSc) neu Radd (BSc). Ceir cyfleoedd eraill am ddatblygiad proffesiynol i'r rhai nad ydynt am symud ymlaen ar lwybr gradd.

Dyma enghreifftiau posibl o ddilyniant drwy gyrsiau Addysg Bellach neu Uwch:

  • Gwyddor Filfeddygol
  • Ymddygiad Anifeiliaid
  • Nyrsio Milfeddygol Ceffylau / Nyrsio Milfeddygol Anifeiliaid Bach ac Anwes (yn dibynnu ar y llwybr a gwblhawyd)
  • Tystysgrifau anesthesia
  • Nyrsio Dynol
  • Cymwysterau addysgu
  • Diplomâu uwch
  • Rheoli Busnes / Rheoli ac Arwain
  • Tystysgrif yr RCVS mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch
  • Hyfforddiant mewn maes arbenigol arall priodol, fel adsefydlu anifeiliaid (hydrotherapi, ffisiotherapi ac ati)

Ar gyfer prentisiaid sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau y tu hwnt i lefel Gradd, ceir cyfleoedd i symud ymlaen ymhellach mewn Addysg Uwch drwy ddilyn cyrsiau fel Gradd Meistr, a allai gynnwys:

  • Iechyd y Cyhoedd ac Epidemioleg Filfeddygol drwy Ddysgu o Bell
  • Gwyddor Filfeddygol
  • Gwyddor Filfeddygol Glinigol
  • Ymarfer Uwch mewn Nyrsio Milfeddygol

 Mae www.ucas.co.uk neu https://www.prospects.ac.uk ymhlith gwefannau defnyddiol y gellir ymweld â nhw ynghylch Addysg Uwch. Mae'r ddwy wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr, ynghyd â gwybodaeth benodol am ofynion mynediad.

Am ragor o wybodaeth am ddatblygiad proffesiynol parhaus, edrychwch ar wefan yr RCVS www.rcvs.org.uk

Efallai y bydd prentisiaid sydd eisiau symud ymlaen yn eu cyflogaeth o'r Brentisiaeth yn gallu canfod swydd oruchwylio neu reoli. Mae'r opsiynau eraill yn cynnwys arbenigo.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Y Diwydiant Nyrsio Milfeddygol

Er gwaethaf cynnydd bach yn nifer y dynion sy'n gweithio o fewn y diwydiant Nyrsio Milfeddygol o 2% (2010) i 2.7% (2019), roedd mwyafrif llethol y 96.8% o ymatebwyr arolwg Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) yn 2019 o'r Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol yn weithwyr benyw, sydd yn dal yn sylweddol uwch na chyfran y menywod sy'n gweithio ym marchnad lafur y DU (47%), a chyfartaledd y sector o 46% yng Nghymru. Awgrymir mai'r rheswm am hyn yw diffyg ymwybyddiaeth a'r canfyddiad mai proffesiwn i fenywod yw Nyrsio Milfeddygol.

Dengys ymchwil gynnydd bach mewn cyflogeion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, o 1.1% (2008) i 1.9% (2019). Ar gyfartaledd, mae'r ymatebwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn iau na'r ymatebwyr Gwyn, sy'n awgrymu y bydd y duedd hon yn parhau. Bu cynnydd yng nghyfran yr ymatebwyr ag anabledd/â chyflwr meddygol sy'n cyfyngu ar yr hyn y gallant ei wneud yn y gwaith; o 3.9% (2014) i 7.4% (2019). Roedd mwyafrif y Nyrsys Milfeddygol yn cael eu cyflogi'n llawnamser.

Ceir ystod o rolau ymarferol i bobl o bob oedran a gallu, ynghyd ag angen cynyddol am reolwyr, technegwyr ac arbenigwyr medrus.

Bydd nyrsys milfeddygol yn gweithio ochr yn ochr â milfeddygon i ddarparu gofal meddygol a nyrsio o safon uchel i anifeiliaid. Maent wedi'u hyfforddi hyd at lefel uchel i'w galluogi i weithio ym mhob agwedd ar yr amgylchedd practis milfeddygol, o'r dderbynfa hyd at y theatr llawdriniaethau. Pan fyddwch chi'n gymwysedig bydd cyfleoedd am hyfforddiant arbenigol pellach, er enghraifft nyrsio milfeddygaeth ceffylau, trin anifeiliaid gwyllt wedi'u hanafu, maeth anifeiliaid anwes a nyrsio llawfeddygol. Bydd nyrsys milfeddygol profiadol yn cael cyfle i ddatblygu'n brif nyrsys neu'n rheolwyr practis, i weithio mewn canolfannau cyfeirio arbenigol, addysgu mewn colegau a phrifysgolion amaethyddol a gweithio yn y diwydiant fferyllol a'r diwydiant cyflenwadau milfeddygol.

Efallai y bydd rhai cyfyngiadau corfforol mewn rhannau o'r rôl nyrsio milfeddygol, yn enwedig wrth weithio gydag anifeiliaid a'u trin. Amlinellir y manylion ym mholisi Addasrwydd i Ymarfer RCVS. Ni ddylai hyn gau unrhyw un allan, oherwydd gallai cyfleoedd fodoli i bobl ag anabledd corfforol weithio yn rhan arall o'r diwydiant.

Mae'n ofynnol i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sicrhau na cheir unrhyw achosion o wahaniaethu mewn modd annheg.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant.

Penderfyniadau a gwaith pellach

Mae Lantra, y Diwydiant Nyrsio Milfeddygol a'r RCVS yn gweithio i gynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith Nyrsys Milfeddygol drwy:

Farchnata a chyfathrebu i dynnu sylw at y cyfleoedd ymhlith ystod eang o yrfaoedd ac i grwpiau targed. Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i'r angen i gynyddu amrywiaeth o fewn y diwydiant.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Dylid cynnal CHC yn ystod y rhaglen sefydlu, edrych arno eto yn rheolaidd a'i gofnodi.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1 Llwybr: Anifeiliaid Bach ac Anwes - Lefel 3

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach

C00/1206/6    Central Qualifications     299 credyd        2990 o oriau TQT       1290 GLH

Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (Central Qualifications), a byddant yn creu cyfanswm o 299 credyd o leiaf.

Asesir yr unedau drwy aseiniadau, arholiadau theori, portffolio'r Cofnod Sgiliau Canolog a'r Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE). Mae pob uned yn orfodol.
Unedau gwybodaeth

  • VNSA1 - Gofynion gweithredol mewn ymarfer anifeiliaid bach (9 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA2 - Cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol mewn ymarfer anifeiliaid bach (7 o 9 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA3 - Ffisioleg ac anatomeg swyddogaethol ar gyfer nyrsys milfeddygol (29 o 29 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA4 - Iechyd lles a hwsmonaeth anifeiliaid cymhwysol mewn ymarfer anifeiliaid bach (18 o 22 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA5 - Rheoli heintiau mewn ymarfer anifeiliaid bach (10 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA6 - Gofal nyrsio milfeddygol ar gyfer anifeiliaid bach yn yr ysbyty (10 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA7 - Cyflenwi meddyginiaethau milfeddygol mewn ymarfer anifeiliaid bach (6 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA8 - Delweddu diagnostig mewn ymarfer anifeiliaid bach (14 o 22 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA10 - Ymarfer theatr llawdriniaethau ar gyfer nyrsys milfeddygol anifeiliaid bach (10 o 23 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA11 - Egwyddorion cefnogi anaesthesia ar gyfer nyrsys milfeddygol anifeiliaid bach (27 o 27 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA13 - Egwyddorion cefnogaeth nyrsio milfeddygol anifeiliaid bach (16 o 19 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA15 - Egwyddorion cefnogaeth nyrsio milfeddygol anifeiliaid bach cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaethau (14 o 14 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA17 - Cefnogaeth nyrsio milfeddygol ar gyfer gofal brys a chritigol anifeiliaid bach (13 o 17 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA18 - Proffesiynoldeb a moeseg ar gyfer nyrsys milfeddygol anifeiliaid bach (8 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)

NEU    Lantra Awards           Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach

Atodiad 2 Ceffylau -Lefel 3

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau

C00/1206/7   Central Qualifications       299 o gredydau              2990 o oriau TQT       1290 GLH

Cyflawnir yr elfennau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r unedau gorfodol a restrir yng nghanllawiau'r sefydliad dyfarnu (Central Qualifications), a byddant yn creu cyfanswm o 299 credyd o leiaf.

Asesir yr unedau drwy aseiniadau, arholiadau theori, portffolio'r Cofnod Sgiliau Canolog a'r Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE). Mae pob uned yn orfodol.

Unedau gwybodaeth

  • VNEQ1- Gofynion gweithredol mewn ymarfer ceffylau (7 o 9 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ2 - Perthynas broffesiynol a chyfathrebu mewn ymarfer ceffylau (7 o 9 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ3 - Ffisioleg ac anatomeg swyddogaethol ceffylau ar gyfer nyrsys milfeddygol (28 o 28 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ4 - Iechyd, lles a hwsmonaeth anifeiliaid cymhwysol mewn ymarfer ceffylau (19 o 22 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ5 - Rheoli heintiau mewn ymarfer ceffylau (11 o 18 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ6 - Gofal nyrsio milfeddygol ar gyfer ceffylau sy'n glaf yn yr ysbyty (11 o 15 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ7 - Cyflenwi meddyginiaethau milfeddygol mewn ymarfer ceffylau (5 o 11 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEA8 - Delweddu diagnostig mewn ymarfer ceffylau (15 o 22 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ10 - Ymarfer theatr llawdriniaethau ar gyfer nyrsys milfeddygol ceffylau (10 o 23 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ11 - Cefnogi anaesthesia ar gyfer nyrsys milfeddygol ceffylau (25 o 30 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ12 - Egwyddorion gofal newyddenedigol ar gyfer nyrsys milfeddygol ceffylau (12 o 16 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ13 - Egwyddorion cefnogaeth nyrsio milfeddygol ceffylau (16 o 20 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNEQ15 - Egwyddorion cefnogaeth nyrsio milfeddygol ceffylau cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaethau (14 o 14 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA17 - Cefnogaeth nyrsio milfeddygol ar gyfer gofal brys a chritigol ceffylau (13 o 17 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)
  • VNSA18 - Proffesiynoldeb a moeseg ar gyfer nyrsys milfeddygol ceffylau (8 o 8 credyd yn seiliedig ar wybodaeth)

NEU   Lantra Awards            Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau

C00/4451/0                420 o gredydau        4200 o oriau TQT https://www.lantra.co.uk/course/level-3-work-based-diploma-veterinary-nursing-equine-13


Download pathway


Diwygiadau dogfennau

01 Mawrth 2021 - By Welsh Government