Skip to main content

Prentis Technegydd Gweithdy - Peirianneg

Cyflogwr:
Grŵp Llandrillo Menai
Lleoliad:
Coleg Llandrillo Cymru, Manweb House, Cefndy Road, LL18 2HG, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Cyfraddau prentisiaethau
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Grŵp Llandrillo Menai
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Peirianneg
Llwybr:
Gweithgynhyrchu Peirianneg
Dyddiad cychwyn posibl:
01 September 2026
Dyddiad cau:
14 August 2026
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
7102
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

1. Gwneud archebion gyda chyflenwyr a gymeradwywyd, a derbyn, storio, monitor a chydlynu’r holl ddeunyddiau stoc a sicrhau bod lefelau stoc yn cael eu cynnal o fewn y gyllideb ar gyfer yr holl weithdai sy'n gysylltiedig â'r swydd hon.
2. Sicrhau bod archebion yn gywir ac yn cwrdd â safonau ansawdd yr adran.
3. Gweithio gyda staff perthnasol, cynorthwyo a chynghori dysgwyr i ddewis cydrannau ac eitemau addas wrth iddynt baratoi ar gyfer asesiadau, prosiectau a chystadlaethau yn ôl y gofyn.
4. Ynysu neu roi offer diffygiol/wedi difrodi mewn cwarantin ac atgyweirio neu drefnu gwasanaeth allanol i atgyweirio'r offer.
5. Paratoi defnyddiau, offer ac adnoddau ar gyfer defnydd y dysgwyr pan ofynnir amdanynt gan diwtoriaid, darlithwyr a hyfforddwyr.
6. Gweithio gyda Rheolwr y Rhaglen a staff perthnasol i weithredu unrhyw newidiadau i drefn y gweithdy, cyfleusterau ac offer.
7. Cynorthwyo tiwtoriaid, darlithwyr a hyfforddwyr wrth baratoi rigiau dysgu.
8. Sicrhau o ddydd i ddydd bod y gweithdai, yr offer, y teclynnau a'r defnyddiau, gan gynnwys y dull o'u storio a'u pentyrru, yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Asesiad Risg yn digwydd yn rheolaidd.
9. Cysylltu â'r staff perthnasol e.e. y Swyddog Iechyd a Diogelwch ynglŷn â chofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau yn y gweithdy ac i gael cyngor am arfer da ym maes Iechyd a Diogelwch.

Gwybodaeth ychwanegol

Yn unol â Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg 2015 mae'n ofyniad statudol bod unigolion yn cofrestru
â'r Cyngor cyn dechrau gweithio yn y Grŵp.

Gofynion

Sgiliau

Profiad o astudio o fewn y Sector Peirianneg, yn bennaf o
fewn gweithgynhyrchu a chynnal a chadw.
Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cymwysterau

5 TGAU sy'n cyfateb i C neu uwch gan gynnwys mewn
Mathemateg a Saesneg / Cymraeg.

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Ie
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Grŵp Llandrillo Menai
Training provider course:
Fframwaith Prentisiaeth Peirianneg - Lefel 3

Ynglŷn â'r cyflogwr

Grŵp Llandrillo Menai
Coleg Llandrillo Cymru, Manweb House, Cefndy Road, LL18 2HG, Y Deyrnas Unedig

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

TBC

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now