Skip to main content

Y Swyddfa Eiddo Deallusol

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn cynnig gwaith nodau masnach a phatentau i grewyr. Mae diogelwch eiddo deallusol yn helpu i atal enwau a brandiau cynhyrchion, syniadau dyfeisgar, cynlluniau cynnyrch a chreadigaethau ysgrifenedig neu wedi’u cynhyrchu rhag cael eu dwyn.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae llawer o’r prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd hyfforddiant i rai sydd am ddilyn gyrfa mewn gweinyddu busnes. Mae bron pob prentisiaeth ar gontract penodol 18 mis. Ar ôl iddyn nhw gwblhau’r brentisiaeth, efallai y bydd cyfleoedd i wneud cais am swyddi mwy parhaol.

Pryd mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Tua mis Medi fel arfer. Mae’r sefydliad yn cynnal noson agored ym mis Mai, lle gall darpar ymgeiswyr gwrdd â gweithwyr cyfredol a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael.

Beth mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf bum gradd TGAU A*-C. Nid yw’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cyflogi prentisiaid â graddau neu unrhyw gymwysterau cyfwerth i’r brentisiaeth gan fod IPO yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i rai nad ydynt, o bosib, wedi cael addysg uwch o’r blaen.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae prentisiaeth gweinyddu busnes yn cynnig cyfle i weithwyr hogi eu sgiliau swyddfa. O ddydd i ddydd bydd prentisiaid o bosib yn anfon negeseuon e-byst, trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion, yn cynrychioli’r cwmni mewn digwyddiadau gwahanol ac yn adolygu ceisiadau.

Beth yw manteision bod yn brentis gydag IPO?

Mae prentisiaid yn mwynhau’r un manteision ag aelodau eraill o’r staff – gan gynnwys cyflogau cystadleuol, gwyliau blynyddol, oriau gwaith hyblyg, cynllun pensiwn, a chyfle i ddefnyddio’r gampfa, y ffreutur a’r siop goffi ar y safle.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Concept House
Cardiff Road

NP10 8QQ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .