Skip to main content

Welsh Revenue Authority

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Pontypridd / Caerdydd
Sector:
Gwasanaethau Cyhoeddus

Trosolwg o'r cwmni

Rydym yn gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth Gymreig ddatganoledig; Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r refeniw rydym yn ei godi yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion.

Cyfleoedd a gynigir

AD, Gweinyddu Busnes a Data

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Mae gennym Brentisiaid wedi’u lleoli ar draws ein sefydliad mewn llawer o dimau yn cynnwys AD a Data – maent yn gwneud amrywiaeth eang o swyddi i ddatblygu eu sgiliau.

Buddion sydd ar gael

Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion pan fyddwch chi’n ymuno ag Awdurdod Refeniw Cymru, fel: 31 diwrnod o wyliau a 2 ddiwrnod braint, cynllun pensiwn cyfraniad cyflogwr hael, cyflog cystadleuol, tâl cysylltiedig â chynnydd, gweithio hyblyg, cynllun beicio i’r gwaith

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn hyrwyddo arloesedd, cydweithio a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Ac rydym yn grymuso ac yn rhoi llawer iawn o gyfrifoldeb ac ymreolaeth i’n pobl.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Ystod cyflog - £20,500 i £23,830

Lleoliad

QED Centre
Treforest industrial Estate

CF37 5YR

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .