Skip to main content

Jordans Electrical

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Caerdydd/De Cymru
Sector:
Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni trydanol sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Archwilio Cenedlaethol ar gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol sy’n arbenigo mewn materion trydanol domestig a masnachol.

Cyfleoedd a gynigir

Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Gosodiadau trydanol domestig a masnachol, profi ac arolygu, cynnal ardystiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol ac adroddiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol a chanfod namau

Buddion sydd ar gael

Os ydych yn fodlon, byddwn yn eich tywys drwy eich gyrfa gyfan. Rydym yn bwriadu cyflogi prentisiaid a fyddai’n dymuno parhau i weithio i’r cwmni ar ôl iddynt basio eu prentisiaeth a pharhau i weithio i ni fel trydanwyr gyda’r cyfle i gael dyrchafiadau drwy gydol eu gyrfa.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n gweithio’n galed, yn barod i ddysgu, yn ddibynadwy, yn frwdfrydig, sydd ag agwedd gadarnhaol ac unigolion sy’n awyddus i dyfu gyda’r cwmni.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Cyflog prentisiaeth yn y DU

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Mis Medi

Lleoliad

5 Lionel Terrace
Rhydyfelin

CF37 5HR

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .