Skip to main content

JoJo Maman Bebe

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Casnewydd
Sector:
Manwerthu

Trosolwg o'r cwmni

Mae JoJo Maman Bébé yn fanwerthwr dillad mamolaeth a dillad babi aml-sianel wedi’i leoli yn y DU. Mae ein pencadlys yng Nghasnewydd ac mae gennym swyddfa Prynu, Dylunio a Marchnata yn Battersea, Llundain.

Cyfleoedd a gynigir

Gwaith Warws a Storio Lefel 2

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Gwaith Warws – Cylch oes llawn o reoli stoc: Nwyddau’n cyrraedd, Rheoli Stoc, Ailgyflenwi Stoc a Danfon Nwyddau. Defnyddio cyfarpar warws. Technolegau gwaith warws. Arferion iechyd a diogelwch. Bod yn aelod o dîm.

Buddion sydd ar gael

Mae gennym gyfleoedd ar gael i ddechrau gyrfa yn ein hadrannau warws a chadwyn gyflenwi prysur. Rydym yn darparu hyfforddiant llawn ar y safle, wedi’i gyflwyno gan diwtoriaid medrus y diwydiant a chymorth parhaus gan gymheiriaid warws profiadol a’n hadran dysgu a datblygu mewnol.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Bod yn llysgennad brand, gan sicrhau nad yw’n gwerthoedd a’n hethos yn cael eu cyfaddawdu. Bod yn ones a pharchus; gan wybod nad ydym yn hierarchaidd ac y byddwn yn eich parchu chi hefyd. Cydweithio. Siarad yn agored a gwrando’n astud. Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar y swydd.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Isafswm cyflog

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Gydol y flwyddyn

Lleoliad

Oxwich Road
Reevesland Ind Est

np19 4pu

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .