Skip to main content

ITV

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

ITV yw gwasanaeth oriau brig mwyaf poblogaidd Cymru, sy’n creu cynnwys yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, yn ogystal â rhwydwaith ehangach ITV Prydain.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae ITV yn cynnig Prentisiaethau Creadigol a Digidol Lefel 3, am 12 mis, trwy gyfrwng Sgil Cymru. Bydd prentisiaid ITV Cymru yn cael cyfle i ddysgu sut i wneud pob dim, o ffilmio a chreu cynnwys i waith ymchwil a gwaith gweinyddol.

Pryd mae ITV fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae ceisiadau ar agor fis Mehefin, a lleoliadau’n cychwyn ym mis Medi.

Beth mae ITV yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

O ran recriwtio, nid yw cymwysterau mor bwysig ag agwedd. Mae’r cwmni’n  chwilio’n bennaf am ymgeiswyr chwilfrydig, egnïol sy’n awyddus i feithrin gyrfa yn y diwydiant. Yn fwy na dim, mae ITV yn chwilio am ymgeiswyr sydd ar dân dros ddweud straeon.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn dysgu am arbenigeddau gwahanol ITV gan gynnwys ffilmio, ymchwilio i raglenni, creu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gweinyddu busnes a chysylltiadau cyhoeddus. Er y bydd pob prentis ITV yn anelu at yr un cymhwyster Lefel 3, mae’r cwmni yn credu mewn teilwra ei brentisiaethau yn ôl yr unigolyn.

Beth yw manteision bod yn brentis gydag ITV Cymru?

Mae prentisiaid ITV yn gallu arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb pennaf iddyn nhw. Mae rhai o brentisiaid ITV yn y gorffennol wedi cael cynnig swydd barhaol ar ôl cwblhau eu lleoliad, gan gynnwys un sydd bellach yn cyfarwyddo rhaglen newyddion nosweithiol ITV Wales.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

2 Waterhouse Square
Holborn

EC1N 2AE

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .