Skip to main content

Farmfoods Limited

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Mae gennym 28 siop ledled Cymru
Sector:
Manwerthu

Trosolwg o'r cwmni

Busnes teuluol ag uchelgais yw Farmfoods. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig cynnyrch o werth ac ansawdd gwych i’n cwsmeriaid o siopau glân a thaclus, gyda’r tîm mwyaf cyfeillgar ym maes manwerthu.

Cyfleoedd a gynigir

Sgiliau Manwerthu Lefel 2. Sgiliau Manwerthu (Rheoli) Lefel 3.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Byddwch yn gwneud i’n holl gwsmeriaid deimlo’n gartrefol gyda gwên gyfeillgar a helo syml. Gwasanaeth cyflym, cyfeillgar a chwrtais o amgylch y siop ac wrth y tiliau. Gwneud cludiadau yn gyflym ac yn effeithlon fel y gall cwsmeriaid brynu ein cynhyrchion. Cwblhau tasgau sy’n cadw ein siopau yn lân ac yn daclus.

Buddion sydd ar gael

Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth wych, gyda llawer o gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa gan mai dim ond yn fewnol yr ydym yn dyrchafu staff i swyddi rheoli siopau. Byddwch yn elwa hefyd ar: ostyngiad o 15% ar gyfer staff. 6 wythnos o wyliau blynyddol y flwyddyn. Yswiriant bywyd am ddim. Gwobrau am berfformiad tîm.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Agwedd gyfeillgar, gadarnhaol, a gweithgar tuag at waith. Rhywun sy’n mwynhau bod yn brysur gan fod rhywbeth i’w wneud bob amser. Rhywun dibynadwy gan y byddwch yn rhan bwysig o dîm bach. Rhywun trefnus, i allu cydbwyso gweithio mewn siop a’ch gwaith cwrs. Rhywfaint o hyblygrwydd o ran eich sifftiau.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Prentis Manwerthu Lefel 2 - £6.55 yr awr. 35 awr yr wythnos (£229.25). Prentis Goruchwylydd dan Hyfforddant Lefel 3 - £9.12 yr awr. 35 awr yr wythnos (£319.20).

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Drwy gydol y flwyddyn.

Lleoliad

1507 Coventry Road


B25 8LW

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .