Ensinger Precision Engineering Ltd
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Tonyrefail
- Sector:
- Peirianneg
Trosolwg o'r cwmni
Ensinger sy’n arwain y farchnad o ran gweithgynhyrchu a dosbarthu thermoblastigau peirianneg. Rydym yn arbenigo mewn cydrannau plastig manwl yn amrywio o brototeipiau unigol a chynhyrchu sypiau bach o rannau arbenigol, i gynhyrchu ar raddfa fawr.Cyfleoedd a gynigir
Prentisiaethau Peirianneg Mecanyddol
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Bydd y prentis yn ennill y gallu i ddarllen a deall lluniadau peirianyddol, yna dehongli’r lluniadau i weithgynhyrchu cydrannau i’r fanyleb a’r dimensiynau cywir gan ddefnyddio canolfannau turnio a melino dan reolaeth cyfrifiadur, gydag amrywiaeth o gyfarpar archwilio at eu defnydd.
Buddion sydd ar gael
Bydd y prentis yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn maes Peirianneg ac yn cael ei hyfforddi i raglennu a gosod amrywiaeth o ganolfannau peiriannu dan reolaeth cyfrifiadur (CNC). Bydd yn cael cynnig swydd lawn amser fel peiriannydd CNC wrth gwblhau’n llwyddiannus.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Mae’r cwmni angen unigolyn talentog, brwdfrydig sy’n gallu gweithio’n galed gydag awydd gwirioneddol i ddysgu a datblygu gyrfa. Mae’r cwmni’n chwilio am rywun ag agwedd gadarnhaol, sy’n benderfynol o lwyddo ac sy’n gallu ysgogi ei hun gan weithio mewn ffordd ddiogel, heb fod ofn gofyn cwestiynau.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
Dechrau ar £10,000 y flwyddyn, gan godi’n flynyddol yn dibynnu ar berfformiad ac oedran.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Mae’r broses recriwtio yn dechrau ym mis Mawrth
Lleoliad
Wilfried WayYonyrefail
CF39 8JQ
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .