Skip to main content

E-Cycle Ltd

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Tonypandy
Sector:
Peirianneg

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni glanhau, ail-farchnata a gwaredu asedau TG yn y DU. Rydym wedi arallgyfeirio ein busnes, gan fuddsoddi mewn proses weithgynhyrchu sy’n echdynnu metelau o decstilau. Mae’r cynnyrch a ddefnyddiwn wedi’i gynhyrchu gan y broses dynnu ffibrau.

Cyfleoedd a gynigir

Prentisiaethau Peirianneg

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

  • Gweithredu peiriannau i echdynnu metelau o decstilau
  • Rheoli peiriannau i sicrhau bod y broses yn effeithlon bob amser
  • Cynnal a chadw, trwsio a rhoi gwasanaeth i beiriannau
  • Adrodd i reolwyr ar ffigurau mewnbwn ac allbwn
  • Gwella perfformiad gweithredol cyffredinol
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch.

Buddion sydd ar gael

Amgylchedd gwaith diogel a chyfeillgar gyda chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Cydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith gydag wythnos waith 4 diwrnod.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

  • Gallu rheoli amser a blaenoriaethau
  • Sgiliau rhyngbersonol
  • Gallu datrys problemau
  • Gallu gweithio mewn tîm
  • Rhoi sylw i fanylion
  • Moeseg gwaith da
  • Gonestrwydd
  • Awyddus a pharod i ychwanegu at wybodaeth a sgiliau

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Mae prentisiaid yn derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran. Bydd codiad cyflog yn cael ei gynnig ar ôl cwblhau’r brentisiaeth.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn recriwtio pan fo angen.

Lleoliad

Unit 4, Dinas Isaf Industrial Estate


CF40 1NY

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .