Skip to main content

IS Consultancy (UK) Ltd t/as IS Group

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Y Fflint
Sector:
Peirianneg

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni gweithgynhyrchu arwyddion yw Is Group. Rydym yn gweithredu ledled y wlad ac yn ein ffatri yn y Fflint rydym yn gweithgynhyrchu arwyddion pwrpasol, llythrennau codedig, totemau, arwyddion monolith ar gyfer mynedfeydd i barciau manwerthu, diwydiannol a chanolfannau siopa

Cyfleoedd a gynigir

Weldio a chynhyrchu. Byddai prentis yn dysgu’r holl agweddau sylfaenol ar weithgynhyrchu arwyddion a fyddai’n cynnwys, rhoi finyl ar swbstradau, defnyddio llwybrydd i gynhyrchu dan reolaeth cyfrifiadur, gwasg blygu, cydosod cydrannau, paentio â chwistrell, a gwaith gosod.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Paratoi deunyddiau ar gyfer chwistrellu, symud deunyddiau a stoc, cynorthwyo eraill, rhoi finyl ar swbstradau, cynorthwyo a’r gwaith gosod, mân waith amlinellu. Dysgu sut i ddefnyddio’r wasg blygu i blygu eitemau a wnaed o ddeunyddiau fel alwminiwm, a defnyddio llwybrydd dan reolaeth cyfrifiadur i dorri siapiau. Glanhau’r gweithdy ar ddiwedd y dydd.

Buddion sydd ar gael

Y prif fanteision yw ein bod yn gweithio mewn diwydiant gweledol, felly mae llawer o’n heitemau sy’n cael eu gweithgynhyrchu gennym i’w gweld ledled y wlad. Mae'r gwaith yn amrywiol iawn oherwydd bod pob eitem wedi ei dylunio a’i gweithgynhyrchu’n unigol. Dysgir amrywiaeth o sgiliau.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Sgiliau llaw da a diddordeb mewn gwneud eitemau. Parodrwydd i ddysgu oddi wrth eraill ond hefyd i wneud pethau ar eich liwt eich hun a dysgu eich hun. Rhywun uchelgeisiol, sy’n barod i helpu pan fo angen er mwyn cadw’n brysur.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Ychydig yn uwch na’r isafswm cyflog a gynghorir o ran oedran a phrofiad

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Mis Medi

Lleoliad

Unit 1 Enterprise House Aber Road
Flint

CH6 5EX

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .