Skip to main content

Captain Browns Pizzas

Captain Brown's Pizza Logo
Nifer yr cyflogeion:
1-10
Lleoliadau:
Sector:
Arlwyo a Lletygarwch

Trosolwg o'r cwmni

Rhedir Captain Brown’s Pizzas o drelar ceffylau clasurol wedi’i drawsnewid yn gyfoes, gan goginio pizza mewn ffwrn tanwydd pren.
Ers sefydlu yn 2019, bu ein pizzas yn hynod boblogaidd gyda chwsmeriaid, gyda llawer yn dychwelyd ac yn mwynhau safleoedd o olygfeydd amrywiol ledled cefn gwlad Cymru. Os hoffech gael profiad mewn cwmni newydd ifanc cyffrous sydd eisoes yn boblogaidd gyda chwsmeriaid, gan gyrraedd eich lefel 2 a datblygu’ch gyrfa, hwyrach fod hyn i chi.

Cyfleoedd a gynigir

Prentisiaeth Sylfaen lefel 2 mewn Cynhyrchiant Bwyd a Choginio.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

  • Paratoi cynhwysion ffres a thoes i fanyleb y cwmni.
  • Paratoi pizzas – darperir yr holl hyfforddiant.
  • Coginio pizzas mewn ffwrn tanwydd pren – darperir yr holl hyfforddiant.
  • Cadw’r gegin yn lân, yn daclus ac yn hylan drwy’r amser. Glynu wrth bolisïau a gweithdrefnau’r cwmni - gan gynnwys rhoi gwybod am broblemau, danfoniadau a thymereddau.
  • Ymwybyddiaeth gref o’r sefyllfa gyffredinol; parod i gymryd archebion, taliadau, torri a phacio pizzas rhwng eich tasgau penodedig.
  • Cadw i fyny / bod yn rhagweithiol gydag awgrymiadau’r fwydlen.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Buddion sydd ar gael

Cyfle arbennig i weithio mewn amgylchedd hwyliog a heriol i ddysgu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y mae arnoch eu hangen i ddechrau gyrfa mewn lletygarwch/arlwyo. Ymhlith y buddiannau mae:

•           Pizza/diodydd am ddim fesul sifft

  • Gostyngiad ar pizzas/diodydd
  • Crysau-T y cwmni
  • Hyd at 28 diwrnod o wyliau gyda thâl

 

 

 

 

 

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Chwiliwn am unigolion gydag angerdd i gyflawni profiad cwsmeriaid eithriadol i ymuno â’n tîm ac am rywun sy’n falch o’n cynrychioli ni.

 

Rhywun sy’n rhoi sylw i fanylder, personoliaeth gynnes a chyfeillgar i roi gwên ar wynebau’r cwsmeriaid, gan sicrhau eu bod yn mwynhau eu profiad pizza.

 

Yn ogystal â sgiliau trefnu a rheoli amser da a bod yn ddibynadwy. Gyda sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid gwych a synnwyr digrifwch.

 

Gallu i fod yn bwyllog dan bwysau a gweithio’n dda mewn tîm gan ddefnyddio blaengaredd.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Isafswm Cyflog Cenedlaethol (£135 - £258 / Wythnos)

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym wrthi’n recriwtio am 2 gogydd pizza, bydd y ceisiadau’n cau canol mis Tachwedd 2020.

Lleoliad

Court Barn
Llangynidr

NP81NU

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .