Skip to main content

C S Glaziers North Wales Ltd

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Bwcle, Sir y Fflint a Llai, Wrecsam
Sector:
Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu

Trosolwg o'r cwmni

Sefydlwyd ym 1967 ym Mwcle, Sir y Fflint. Ehangwyd yn 2016 gan brynu ail safle yn Llai, Wrecsam. Gweithgynhyrchu, cyflenwi a gosod – unedau gwydr wedi’u hinswleiddio – Gwydr diogelwch cryf – Ffenestri, drysau a waliau llenni alwminiwm.

Cyfleoedd a gynigir

Gwydrwr, Gwneuthurwr Alwminiwm, Gosod Ffenestri, Gweithiwr Gwydr ar ein llinell gweithgynhyrchu unedau gwydr wedi’u hinswleiddio

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Gosod unedau a fframiau gwydr dwbl, torri gwydr, gweithgynhyrchu ffenestri, gweithio peiriannau a dyletswyddau gweithgynhyrchu cyffredinol.

Buddion sydd ar gael

Hyfforddiant ymarferol wrth ennill arian. Dysgu sgil newydd gyda chymwysterau. Rydym yn dîm cyfeillgar gyda rheolwyr y gellir troi atynt. Rydym yn gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ac yn edrych yn fewnol bob amser i ddatblygu ymgeiswyr h.y. i swyddi rheoli.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Brwdfrydig a pharod i ddysgu sgiliau newydd. Prydlon, dibynadwy a chydwybodol. Cyfeillgar ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Yn unol â lefelau isafswm cyflog cyfredol ar gyfer eu hoedran, nid y gyfradd isaf ar gyfer prentisiaid.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Pan fo angen

Lleoliad

Miners Road
Llay Industrial Estate

LL12 0PJ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .