Skip to main content

BBC Cymru Wales

BBC Cymru Wales logo
Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Fe darlledwr cenedlaethol Cymru, mae BBC Cymru yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y teledu, radio ac ar-lein.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae’r sefydliad yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau gan gynnwys newyddiaduraeth, gweithrediadau darlledu, creu cynnwys digidol, gweinyddu, newyddiaduraeth, cynhyrchu a pheirianneg technoleg a busnes.

Pryd mae’r BBC fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae proses recriwtio ar gyfer Cynlluniau Prentisiaeth sy’n cyd-fynd â STEM ar agor o fis Hydref ymlaen, gyda Chynlluniau Cynhyrchu a Newyddiaduraeth ar agor o fis Ionawr/Chwefror ymlaen.

Beth mae BBC Cymru yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae BBC Cymru yn chwilio am bobl greadigol, uchelgeisiol, egnïol o bob cefndir a fydd yn cyflwyno safbwynt ffres. Nid yw profiad blaenorol yn hanfodol er bod rhai cynlluniau’n gofyn i ymgeiswyr fynychu prifysgol yn y DU.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd prentisiaid y cynllun newyddiaduraeth yn ymuno â’r stafell newyddion, gan helpu i adrodd straeon pobl. Bydd gan brentisiaid peirianneg rôl ymarferol o roi rhaglenni ar yr awyr, gyda phrentisiaid cynhyrchu yn meithrin sgiliau crefft.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda’r BBC?

Mae BBC Cymru yn rhoi cyfle i brentisiaid ddysgu gan y goreuon yn y busnes, ac yn gweithio ar gynnwys sy’n cael ei fwynhau gan filiynau o bobl bob dydd. Mae prentisiaeth Talent Newydd yn cynnig cyflog cystadleuol gyda chyfleoedd i gamu ymlaen.

Buddion sydd ar gael

BBC Wales gives apprentices the opportunity to learn from the best in the business, and to work on content that is enjoyed by millions of people every day. The New Talent Apprenticeship offers a competitive salary with progression opportunities

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

‎3 Central Square


CF10 1FP

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .