Skip to main content

Aspire Shared Apprenticeship Programme

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Merthyr Tudful
Sector:
Peirianneg

Trosolwg o'r cwmni

Mae Aspire yn rhaglen brentisiaeth a rennir sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r rhaglen yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector Peirianneg/Gweithgynhyrchu Uwch a chwmnïau gyda diben cysylltiedig â STEM

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn cynnig prentisiaethau cysylltiedig â STEM yn bennaf gyda’r sector Peirianneg/Gweithgynhyrchu Uwch

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Mae’r rolau’n amrywiol a gyda’r rhaglen yn Rhaglen Prentisiaeth a Rennir, mae’r prentis yn debygol o brofi elfennau amrywiol gweithio yn eu gweithle. Mae gennym brentisiaid amrywiol yn cyflawni dyletswyddau fel Weldio a Gwneuthuro, CNC, cynllunio CAD, Electroneg, Roboteg, Cymorth Masnachol ac mae llawer mwy o Brentisiaid yn astudio ar lefel 3 neu uwch felly rydym yn ceisio talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Trafodir hyn yn y cyflwyniad cyntaf a bydd y Cyflogwr yn cytuno ar hyn.

Buddion sydd ar gael

Bydd pob prentis yn ennill cymhwyster Lefel 3 (o leiaf) ac yn cael llwyth o gymorth gan fentoriaid Aspire a phartneriaid amrywiol.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 16-24 oed gydag o leiaf 5 TGAU gradd A-C, gan gynnwys pynciau STEM. Rydym hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd â Safon Uwch mewn pynciau STEM, yn dechrau neu wedi gorffen VNQ mewn coleg, neu’r rhai sydd wedi cwblhau’r Rhaglen Peirianneg Uwch neu Lwybrau at Brentisiaethau.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Brentisiaid yn astudio ar lefel 3 neu uwch felly rydym yn ceisio talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Trafodir hyn yn y cyflwyniad cyntaf a bydd y Cyflogwr yn cytuno ar hyn.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn recriwtio ar sail anghenion y sector, sy’n golygu y gallwn recriwtio gydol y flwyddyn.

Lleoliad

Orbit Business Centre
Rhydycar Business Park

CF48 1DL

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .