Skip to main content

Airbus

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni amlwladol yw Airbus, sy’n cynllunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi awyrennau masnachol blaenllaw y diwydiant, hofrenyddion, cludwyr milwrol, cerbydau lansio a lloerennau. Mae Airbus hefyd yn darparu gwasanaethau data, llywio a diogelwch seibr a chyfathrebu

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae Rhaglenni Prentisiaethau yn Airbus yn para rhwng tair a phum mlynedd ac ar gael mewn sectorau amrywiol gan gynnwys peirianneg, cyllid, atebion digidol a thechnoleg, y gadwyn gyflenwi, caffael a busnes.

Pryd mae Airbus fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae’r broses ymgeisio yn cychwyn ym mis Hydref ac yn cau ym mis Mawrth.

Beth mae Airbus yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae’r gofynion mynediad yn amrywio yn ôl prentisiaeth, ond mae angen o leiaf bump TGAU gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae prosiectau yn amrywio yn ôl y brentisiaeth. Er enghraifft, efallai y bydd prentis peirianneg yn gweithio ar brosiectau o greu paneli a strwythurau i beirianneg fecanyddol lloerennau.

Beth yw manteision bod yn brentis gydag Airbus?

Bydd prentisiaid Airbus yn gallu cynrychioli’r cwmni mewn digwyddiadau amrywiol fel sioeau awyr, digwyddiadau gyrfaoedd a gweithgareddau cyswllt ysgolion. Mae cynnydd gyrfaol yn fantais fawr gyda chyfleoedd gwaith ar gael ar ddiwedd y rhaglen - dyma sut dechreuodd llawer o uwch-reolwyr cyfredol Airbus. Bydd manteision eraill yn cynnwys cyfleoedd i helpu’r gymuned leol yn ogystal ag ymuno â chynllun pensiwn y cwmni.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Chester Road
Broughton

CH4 0DR

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .